Pum munud gyda... Elen Pencwm

  • Cyhoeddwyd
Elen Pencwm

Mae Elen Pencwm yn enedigol o Benrhyncoch ger Aberystwyth. Mae'n gyflwynydd, sgwennwr, cynhyrchydd ac yn fam i Jona a Dafi. Cymru Fyw aeth draw i Lanfihangel y Creuddyn i gael sgwrs gyda'r cymeriad unigryw yma.

Beth yw tarddiad yr enw Pencwm?

Pencwm yw enw'r fferm y ges i fy magu arni. Mae 'na draddodiad yng nghefn gwlad i ddefnyddio enwau ffermydd fel cyfenwau felly dyna pam dwi'n cael fy ngalw'n Elen Pencwm.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Elen gyda'i meibion Jona Edgar a Dafi Waldo

Beth oedd dy swydd gyntaf ar ôl i ti raddio o Goleg y Drindod?

Es i ddim mewn i'r cyfryngau'n syth. Fues i'n gweithio mewn garej lleol oedd yn cael ei redeg gan Cyril a Jane, dau gymeriad a hanner. Ddysgais i lot! Roedd y lle'n fy atgoffa i o'r rhaglen Open All Hours.

Byddai pob math o gymeriadau'n dod mewn i'r siop er mwyn prynu nwyddau neu i gael clonc a phaned. Dwi'n cofio rhywun yn dod mewn unwaith ac yn gofyn am botyn Brasso. "Mae e ar ei ffordd 'ma," byddai Cyril yn ateb cyn ordro batsh! "Lleia byd yw'r cownter mwya'n byd yw'r busnes," byddai Cyril yn hoffi gweud.

Tro arall dwi'n cofio mynd a siopa draw i dŷ hen ŵr oedd ddim yn teimlo'n dda. Ar ôl cnocio'r drws am sbel, a neb yn ateb, es i rownd y bac i edrych i drwy'r ffenest. Dyna ble roedd e'n eistedd mewn cadair â'i lygaid ar gau.

Nes i gario mlaen i gnocio'r ffenest ond naeth e ddim symud. Ro'n i'n meddwl ei fod e wedi marw a wedes 'ny i wrth y bós. Y diwrnod wedyn mi ddaeth yr hen foi mewn i'r siop a ges i yffach o ofan. Roedd e wedi tynnu ei hearing aid mas pan alwes i a dyna pam na glywodd e fi'n cnocio!

Pryd ddechreuaist ti gyflwyno a gyda pha gwmni oedd e?

Fues i'n adrodd bwletins newyddion ar Radio Cymru o Aberystwyth am gyfnod. Dwi'n cofio'n nhw'n gofyn os o'n i'n gallu sgriptio, cyflwyno a llwytho tapiau a wedes mod i'n gallu. Os dwi'n onest nes i blagio fe a dysgu ar y job fel petai.

Dwi'n cofio holi gweithiwr ar ôl iddi golli'i swydd pan gaeaodd ffatri Laura Ashley. Aeth y cyfweliad allan yn fyw ar y pryd ag anghofia'i fyth mo'i hateb pan ofynes i iddi am ei thâl diswyddo. "Ges i shwd godiad," wedodd hi! Ro'n i'n methu cario mlaen achos ro'n i'n chwerthin cymaint. Mae'n rhaid i fi gyfaddef, ro'n i'n joio cyflwyno ar y radio.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Elen mewn stiwdio radio

Sut es ti ymlaen i weithio fel cyflwynydd ar Planed Plant?

Pan dries i am y swydd roedd llwyth o gwestiynau ar y ffurflen gais felly benderfynais i gael bach o sbort gyda fy atebion. Ar gyfer 'rhyw' nes i ateb, "O, wel, ok 'de."

Do'n i ddim yn teimlo'n dda ar y diwrnod a fues i bron a pheidio mynd ond wedodd mam, "Ti'n mynd!" Nawr, dyw mam ddim yn fam pushy felly doedd dim dewis 'da fi. Roedd y cyfweliad mor swreal. Ro'n i yna gydag Iwan John oedd wedi gwisgo lan fel y cymeriad Bwgan Brain. Sa'i 'di chwerthin na chael cymaint o sbort mewn cyfweliad ers 'ny ac fe ges i'r swydd!

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Branwen, Elen a Martyn - cyflwynwyr Planed Plant

Sut brofiad oedd gweithio yng Nghaerdydd ar ôl cael dy fagu ar ffarm wledig?

Ro'n i'n country bumpkin os dwi'n hollol onest ac ro'n i'n gorfod bod yn gall... am unwaith. Un taith bydden i'n neud ar y dechrau sef o'r fflat ble ro'n i'n byw draw i'r gwaith yn Llanisien. Fel arall bydden i'n mynd ar goll yn llwyr!

Roedd mynd o gwmpas roundabouts yn antur a hanner a dwi'n cofio treulio pedair awr yn pigo lan earpiece ar gyfer gwaith pan ddyle fe fod wedi cymryd 40 munud.

Oes unrhyw eitem sy'n sefyll yn y cof o dy gyfnod ar Planed Plant Bach a Planed Plant?

Ges i'r syniad am gadw cwningod ar y set yn ystod Planed Plant Bach fel ro'n nhw arfer neud ar Blue Peter gydag anifeiliaid anwes. Faint o drafferth gallai cwningod fod? Os do fe! Fe fyton nhw drwy weiars y stiwdio felly baro'n nhw ddim yn hir a bu raid i fi eu rhoi nhw bant i blant y genedl!

Pan ro'n i'n gweithio ar Uned 5 ro'n i'n saethu eitem gyda'r ci bach 'ma. Ro'n i'n meddwl bo' fi'n cwl ac yn ffynci yn cario'r ci tra'n cyflwyno ond ro'n i heb sylwi, tan yn rhy hwyr, mod i wedi cyflwyno hanner y rhaglen gyda baw ci ar fy nghrys T!

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Hafod Haul

Rwyt ti wedi troi dy law i gomedi. Pa fath o straeon byddet ti'n eu hadrodd?

Straeon pobl bob dydd ro'n i'n eu hadrodd neu troeon trwstan 'naeth ddigwydd i mi. Digwyddiadau fel y rhai nes i weld yn y garej ym Mhenryncoch a'r cymeriadau dwi'n eu cofio wrth i mi dyfu lan yng Ngheredigion.

Dwi'n cofio mynd mas gyda boi pan ddaeth Mam lawr i ngweld i yng Nghaerdydd. Ro'n i'n meddwl ei fod e 'di cyrraedd felly dyma fi'n rhedeg mas o'r fflat a neidio i mewn i'r car. Droiodd e mas mai rhywun dieithr oedd yn y car ac nid y ffansi man. Pan ddes i nôl i'r fflat naeth Mam weud, "Parodd hwnna ddim yn hir!"

Mi rwyt ti erbyn hyn yn cynhyrchu a sgwennu ar gyfer rhaglenni teledu. Sut brofiad yw hynny o'i chymharu a bod o flaen y camera?

Mae'n wahanol ond dwi dal i fwynhau'r gwaith. Dwi'n joio cwrdd â phobl a chlywed eu storis nhw a dyna be' dwi'n neud wrth gynhyrchu rhaglen Y Fets. Mae e wedi ei leoli yn Aberystwyth felly dwi'n nabod llawer o'r cyfranwyr. Penderfynais i gamu nôl o gyflwyno pan oedd y plant yn fach. Mae e mor anodd bod bant yn ffilmio ac roedd fy ngŵr ar y pryd yn gweithio i ffwrdd a ninnau'n byw yn y gorllewin.

Nes i sgwennu ar gyfer rhaglenni Triongl, Cegin Twts a Heini. Ro'n i'n gallu gweithio o adre a bod gyda'r plant ar yr un pryd.

Mi wnes i gynhyrchu a sgwennu Hafod Haul ar gyfer Cyw. Gaeth y cyfan ei saethu ar fy ffarm a dwi'n falch iawn o'r rhaglen. Fe saethon ni hwrdd mewn bath, gafr ar ford y gegin a'r hwyaid yn cerdded o gwmpas y tŷ.

Dim ond y ci oedd yn gwrando, roedd popeth arall yn wyllt! Roedd e'n rhaglen annwyl iawn ac yn llawn sbort a dwi'n teimlo ei fod e'n dal i weithio heddi.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Criw saethu'r Fets, Boom Cymru

Oes gen ti awydd i ail gydio mewn cyflwyno a gwneud nosweithiau comedi yn y dyfodol?

Dwi ddim yn gwybod. Ambell waith dwi'n meddwl, "Pam lai," a throeon eraill dwi ddim. Mae mwy i fywyd na'r byd teledu felly sai'n becso beth mae pobol yn meddwl rhagor. Pan dwi'n gweithio ar gynhyrchiadau dyddiau 'ma dwi'n joio'r profiad yn fwy. Wedi gweud hynny dwi dal yn mynd ar goll pan mae'n rhaid i mi fynd i Gaerdydd i neud bach o waith!

Hefyd o ddiddordeb: