Chwe Gwlad: Sam Costelow yn dychwelyd fel maswr
- Cyhoeddwyd
Mae prif hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi gwneud un newid i'r tîm fydd yn herio Iwerddon yn Nulyn ddydd Sadwrn.
Maswr y Scarlets, Sam Costelow sydd wedi ei ddewis yn safle'r maswr, gyda Ioan Lloyd wedi ei gynnwys ar y fainc.
Dyw Taine Basham ddim wedi ei gynnwys yn y garfan o 23 chwaraewr, tra bod wythwr Caerdydd, Mackenzie Martin - sydd eto i ennill cap rhyngwladol - wedi ei enwi ymhlith yr eilyddion.
Mae Cymru wedi colli eu dwy gêm gyntaf ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad eleni yn erbyn yr Alban a Lloegr, tra bod y Gwyddelod - y pencampwyr presennol - wedi ennill yn erbyn Ffrainc a'r Eidal.
Fe ddechreuodd Costelow, 23, yn safle'r maswr yng ngêm agoriadol y gystadleuaeth yn erbyn yr Alban - ond bu'n rhaid iddo adael y cae oherwydd anaf yn yr hanner cyntaf.
Daeth Lloyd ymlaen fel eilydd yn y gêm honno, a chwaraeodd ran allweddol wrth i Gymru frwydro'n ôl yn yr ail hanner.
Pe bai Mackenzie Martin yn dod oddi ar y fainc yn erbyn Iwerddon, fo fyddai'r 1,200fed chwaraewr i ennill cap rhyngwladol dros Gymru.
Dim ond naw gêm mae Martin wedi eu chwarae yn ei yrfa broffesiynol hyd yma, pob un o'r rheiny gyda Rygbi Caerdydd y tymor hwn.
Mae prop Harlequins, Dillon Lewis hefyd wedi ei gynnwys ar y fainc yn sgil anafiadau i Leon Brown ac Archie Griffin.
Mae disgwyl y bydd tîm Iwerddon yn cael ei gyhoeddi brynhawn Iau.
Yn ôl y disgwyl does 'na ddim rhyw lawer o syndod ynglŷn â'r 15 mae Warren Gatland wedi dewis ar gyfer y daith i Ddulyn.
Ar ôl dod oddi ar y cae yn erbyn yr Alban fe benderfynwyd peidio mentro ar ffitrwydd Sam Costelow yn erbyn y Saeson.
Er i Ioan Lloyd ddangos yn glir ei ddawn naturiol gyda'r bêl yn ei ddwylo a'i fygythiad wrth ymosod, mae chwaraewr amryddawn y Scarlets yn dal i ddysgu ar y lefel rhyngwladol ac felly dawn Costelow i reoli gêm sydd wedi ennill y bleidlais y tro hwn.
Sydd ddim yn syndod o ystyried y gallai Cymru fod o dan bwysau ac ar y droed ôl am gyfnodau helaeth yn erbyn grym y Gwyddelod!
Yr unig drafodaeth arall mae'n siŵr fyddai wedi bod ynghylch cynnwys Will Rowlands o'r dechrau.
Fe wnaeth Warren Gatland rhyw led awgrymu y gallai Dafydd Jenkins symud i safle'r rhif chwech er mwyn creu lle i bresenoldeb corfforol Rowlands, ond am y tro beth bynnag mae wedi ymwrthod â'r temtasiwn wrth gadw ffydd yn Alex Mann - fydd yn gobeithio tirio am y trydydd tro mewn tair gêm.
Er mai prin iawn o feddiant gafodd Cymru yn ail hanner y gêm yn Twickenham roedd yr hanner cyntaf yn fwy na chalonogol, ond mi fydd y lefel a'r dwyster yn cynyddu tipyn bnawn Sadwrn yn erbyn tîm sydd yn anelu am Gamp Lawn arall.
Dywedodd Warren Gatland ei fod yn "edrych ymlaen at yr her o wynebu un o'r timau gorau yn y byd".
"Mae'n her yr ydyn ni wir yn edrych 'mlaen ato. Ry'n ni wedi gwneud cynnydd yn y gemau diwethaf, ac mae hi'n fater o adeiladu ar hynny, a dysgu o'r profiadau gwerthfawr hynny y penwythnos hwn.
"Bydd rhaid i ni weithio'n galed a rhoi pwyslais ar gywirdeb am 80 munud. Bydd disgyblaeth hefyd yn hanfodol."
Bydd Cymru yn herio Iwerddon yn Stadiwm Aviva, Dulyn ddydd Sadwrn gyda'r gic gyntaf am 14:15.
Tîm Cymru i herio Iwerddon
Winnett; Adams, North, Tompkins, Dyer; Costelow, Tomos Williams; G Thomas, Dee, Assiratti, Jenkins (cap), Beard, Mann, Reffell, Wainwright.
Eilyddion: Elias, Domachoswki, D Lewis, Rowlands, M Martin, Hardy, I Lloyd, Grady.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd3 Chwefror 2024