Angen 'dechrau eto' gyda'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy
- Cyhoeddwyd
Mae angen i Lywodraeth Cymru "ddechrau eto" er mwyn llunio cynllun cymhorthdal sy'n dderbyniol i ffermwyr, yn ôl rhai sy'n gweithio o fewn y diwydiant.
Daw'r sylwadau yn dilyn digwyddiad olaf taith drafod NFU Cymru, sy'n gyfle i ffermwyr ddysgu mwy am y cynllun ac am y broses ymgynghori sy'n dod i ben ar 7 Mawrth.
Roedd dros 200 o amaethwyr yn bresennol yn y cyfarfod yn Arberth nos Lun, gyda sawl un yn mynegi pryder am wahanol agweddau o'r cynllun gan gynnwys y targedau plannu coed a'r rheolau newydd yn ymwneud â llygredd mewn afonydd
Yn ôl Llywodraeth Cymru, nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw sicrhau systemau cynhyrchu bwyd diogel, cadw ffermwyr yn ffermio'r tir, diogelu'r amgylchedd a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Cynllun cymorthdaliadau amaethyddol newydd yw'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, sy'n disodli'r hen daliadau o gyfnod yr Undeb Ewropeaidd sydd wedi cyfrannu dros £300m y flwyddyn i ffermydd Cymreig.
Mae'r cynllun newydd yn rhoi mwy o bwyslais ar yr amgylchedd, ond mae rhai agweddau wedi bod yn ddadleuol, yn enwedig y gofyniad i ffermydd sicrhau bod 10% o'u tir wedi'i blannu â choed.
Mae disgwyl i'r cynllun newydd ddod i rym yn 2025.
Yn ôl yr ymgynghorydd amgylcheddol Tim Jones, mae angen edrych eto at y cynllun: "Roedd y cynllun newydd 'ma fod i gael ei wneud trwy co-design... ac roedd Cyswllt Ffermio 'di gweithio ar hwnna i wneud yn siŵr bod ffermwyr yn rhan o adeiladu'r cynllun yma o'r dechrau.
"Dyw hwnna i fi - o edrych i mewn o'r tu allan - ddim wedi digwydd, os oedd hwnna wedi bod yn wir ac wedi gweithio'n iawn fyse' ni ddim yn y lle caled ble 'da ni nawr.
"Felly i fi, mae'n rhaid dechrau eto rhywfaint, mae'n rhaid dechrau sôn am 'da ni ddim eisiau gwneud hynny', 'sut 'da ni mynd o gwmpas hynny'... a gweithio o hynny i rywbeth sydd yn dderbyniol i'r ddwy ochr.
"Ar hyn o bryd 'da ni'n gallu gweld ein bod ni'n bell o'r sefyllfa hynny."
Ddyddiau'n unig ar ôl i gannoedd o ffermwyr fynd i gyfarfod yn y Trallwng er mwyn lleisio'u hanfodlonrwydd â pholisïau Llywodraeth Cymru, daeth dros 200 o amaethwyr at ei gilydd yn Neuadd y Frenhines, Arberth i glywed mwy am y cynllun a'r cyfnod ymgynghori.
Wedi dros awr o gyflwyniad, lle cafwyd esboniad o'r cynllun newydd, fe agorwyd y llawr i gwestiynau gan y gynulleidfa.
Roedd sawl un yn feirniadol o'r cynllun newydd, ac yn galw am ragor o fanylion ynglŷn â faint o arian y bydd ffermwyr yn ei dderbyn, a faint o swyddi sy'n debygol o gael eu colli.
Yn ôl Simon Davies, Cadeirydd NFU Cymru Sir Benfro, gall cynlluniau'r llywodraeth gael effaith hir dymor ar gynhyrchu bwyd.
"Bydd y cynllun yn effeithio ni yn fawr iawn... y prif beth yw'r rheol 10% o dir yn mynd i dyfu coed, os ydyn ni'n gorfod tynnu tir mas i dyfu coed fyddwn ni ffaelu gweithio dan reolau'r NVZ," meddai.
"Yn ariannol sain siŵr be fydd yr effaith, ond fyddwn ni bendant methu cynhyrchu siwt gymaint o fwyd, a bydd hynny wedyn, yn fy marn i, yn arwain at fwy o fwyd yn cael ei fewnforio a rhagor o dlodi bwyd."
Yn ôl Hefin jones, Cadeirydd NFU Cymru yn Sir Gaerfyrddin, dyw'r llywodraeth heb fod yn ddigon agored ynglŷn â manylion eu cynlluniau.
"Wrth gwrs y pryder mwyaf yw'r ffaith nad y' ni'n gwybod hyd a lled y cynllun newydd... ma' gyment o bethe nad y' ni'n gwybod, nad yw'r llywodraeth wedi dweud wrthym ni.
"Ma'r llywodraeth wedi bod yn gyndyn o sôn am lefel taliadau a beth yw rhai o'r pethau fydd o bosib yn cael eu gwobrwyo - felly yn ogystal â'r 10% o orchudd coed a 10% o gynefinoedd, un o'r pryderon mwyaf yw'r ffaith nad yw'r llywodraeth wedi bod yn agored yn gweud beth yn gwmws yw'r gweithredoedd fydd rhaid i ni gyflawni, a faint fydde ni'n cael ein talu.
"Allwch chi ddim cynllunio pan dyw'r ffeithiau i gyd ddim gyda chi."
Mae Dai Davies, cyn-lywydd NFU Cymru, wedi ymddeol o ffermio eleni, ac mae o'n dadlau mai dim ond mewn un ffordd y mae'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy wir yn gynaliadwy.
"Fi'n credu bod 'na dri pheth mewn bod yn gynaliadwy. Mae'n rhaid i chi fod yn gynaliadwy yn amgylcheddol, ond hefyd mae'n rhaid i chi fod yn gynaliadwy i'ch cymdeithas, ac ar ddiwedd y dydd mae'n rhaid i chi fod yn gynaliadwy yn ariannol hefyd.
"Mae'n rhaid i ffermwyr a chefn gwlad Cymru 'neud arian neu bydd 'na ddim cefn gwlad yng Nghymru."
Ychwanegodd fod y cynllun yma'n newid mawr i'r diwydiant, a'i fod yn deall pam bod cymaint o ffermwyr yn pryderu am y dyfodol.
'Cydlunio trylwyr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Nod y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yw sicrhau systemau cynhyrchu bwyd diogel, cadw ffermwyr yn ffermio'r tir, diogelu'r amgylchedd a mynd i'r afael â galwad brys yr argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur.
"Rydym wedi cynnal ymarfer cydlunio trylwyr wrth ddatblygu'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy a hoffem ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu.
"Mae'r ymgynghoriad terfynol ar y cynllun ar agor, a hoffem annog pawb i gyflwyno eu sylwadau erbyn 7 Mawrth."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd27 Ionawr 2024
- Cyhoeddwyd16 Ionawr 2024