Sunak: Cynigion amaeth Llywodraeth Cymru yn 'ysgytwol'

  • Cyhoeddwyd
Rishi SunakFfynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rishi Sunak yn cyhuddo Llafur Cymru o beryglu diogelwch bwyd y wlad

Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi ymuno â beirniadaeth o gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer newidiadau i gymorthdaliadau amaeth.

Disgrifiodd nhw fel rhai "niweidiol" ac "ysgytwol", gan gyhuddo Llafur Cymru o beryglu diogelwch bwyd y wlad.

Mae protestiadau wedi eu cynnal yn erbyn cynigion, sy'n destun ymgynghoriad, sy'n disgwyl i ffermwyr gael coed ar 10% o'u tir a neilltuo 10% arall i fywyd gwyllt.

Ar ei ymweliad â gogledd Cymru ddydd Iau, fe dderbyniodd Mr Sunak lythyr yn galw ar Lywodraeth y DU i "ymyrryd" ac o bosib dal cyllid amaeth yn ôl rhag Llywodraeth Cymru.

Dywedodd Llywodraeth Cymru mai nod y cynllun newydd ydi cefnogi pob ffermwr.

Yn gynharach ddydd Iau dywedodd y gweinidog materion gwledig eu bod "yn gwrando" ar bryderon ffermwyr.

Mae protestiadau wedi dwysáu yng Nghymru yn ddiweddar - cafodd y Prif Weinidog Mark Drakeford ei ddilyn i goleg yn Y Rhyl ddydd Mercher, ac roedd protestiadau ar draws y wlad ddydd Iau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae protestiadau gan amaethwyr wedi dwysáu yng Nghymru yn ddiweddar

Wrth siarad â BBC Cymru cyn cynhadledd y Ceidwadwyr Cymreig yn Llandudno, dywedodd Mr Sunak fod undebau ffermio "yn gwbl briodol yn bryderus am bolisïau Llafur yma yng Nghymru".

Dywedodd fod cynlluniau Llafur "yn ôl eu hasesiad eu hunain yn costio miloedd o swyddi, yn lleihau ein sicrwydd bwyd ac yn niweidio incwm ffermydd".

"Dyna pam mae'r cynlluniau hynny wedi'u disgrifio'n gywir fel rhai niweidiol ac ysgytwol".

Galw ar Lywodraeth y DU i 'ymyrryd'

Yn gynharach ddydd Iau cafodd llythyr ei gyflwyno i Mr Sunak yn galw ar Lywodraeth y DU i "ymyrryd", ac o bosib dal cyllid amaeth yn ôl rhag Llywodraeth Cymru.

Yn ystod ei ymweliad â gogledd Cymru, fe wnaeth Prif Weinidog y DU gwrdd â rhai o'r ffermwyr oedd yn protestio.

Cafodd llythyr ei gyflyno iddo yn galw ar ei lywodraeth i ymyrryd dros yr hyn y mae'r protestwyr yn disgrifio fel "safiad afresymol" gan Lywodraeth Cymru a'r risg i fywoliaeth ffermwyr.

Ffynhonnell y llun, Reuters
Disgrifiad o’r llun,

Bu Rishi Sunak yn ymweld â chyfnewidfa ffôn ar Ynys Môn ddydd Iau

Mae'r llythyr hefyd yn nodi: "Rydym wir yn gobeithio y byddwch yn ymyrryd ac yn hysbysu Llywodraeth Cymru fod y cyllid ond yn cael ei ddarparu os... bydd cynllun mwy realistig a chynaliadwy ar gyfer dyfodol amaethyddiaeth a chynhyrchu bwyd yng Nghymru."

Mae'r llythyr wedi cael ei rannu gyda rhaglen Newyddion S4C.

Dywedodd y Trysorlys fod amaeth yn fater datganoledig ac mai "Llywodraeth Cymru sy'n atebol yn y pendraw i ffermwyr Cymru am eu penderfyniadau".

Mewn datganiad dywedodd Llywodraeth Cymru fod "y rhan fwyaf o gyllid Cymru yn dod ar ffurf grant bloc sydd heb ei glustnodi" a bod "gweddill yr arian yn dod o drethi datganoledig".

Ar ôl i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd mae Llywodraeth Cymru wedi gorfod llunio eu cynlluniau eu hun i gefnogi amaethyddiaeth.

Mae cymorthdaliadau ffermio yn cael eu rheoli yng Nghymru yng Nghaerdydd, tra bod Llywodraeth y DU yn eu rheoli yn Lloegr.

Mae cynllun taliadau fferm newydd ôl-Brexit yn Lloegr wedi cael ei feirniadu am ganolbwyntio ar bolisi amgylcheddol dros gynhyrchiant bwyd.

Disgrifiad,

Beth yw barn rhai o'r ffermwyr fu'n protestio yng Nghaerfyrddin ddydd Iau?

Mewn cynhadledd yn gynharach yr wythnos hon fe wnaeth Mr Sunak addo pecyn o fesurau i helpu ffermwyr a gafodd groeso cyffredinol gan undeb yr NFU, er iddyn nhw ddweud nad oedd yn cynnwys unrhyw arian newydd mewn gwirionedd.Dywedodd Mr Sunak wrth y BBC: "Fe wnaethon ni gyhoeddi mwy o arian i gefnogi ffermwyr Prydain i gynhyrchu mwy o fwyd, oherwydd dwi'n meddwl mai dyna'r cynllun cywir".

Ychwanegodd: "Rydym wedi ymrwymo i ddarparu pob ceiniog o'r cyllid a gawsom yn flaenorol [gan yr Undeb Ewropeaidd] - £2.4bn ar draws y Deyrnas Unedig.

"Rydyn ni wedi cadw at yr ymrwymiad hwnnw ond mae sut mae hynny wedi cael ei ddefnyddio yng Nghymru yn hynod niweidiol i ffermwyr Cymru."

'Bydd newidiadau i'r cynlluniau'

Yn ymateb i sylwadau Mr Sunak dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cynnal lefel Cynllun y Taliad Sylfaenol ar £238m, tra bod Llywodraeth y DU wedi torri ar y cynllun yn Lloegr.

"Rhaid cofio hefyd ein bod yn dal i deimlo effaith y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU sy'n golygu ein bod wedi colli £243m yn y cronfeydd sy'n cymryd lle rhai'r Undeb Ewropeaidd," meddai.

Dywedodd Llywodraeth Cymru yn gynharach ddydd Iau eu bod "yn gwrando" ar bryderon ffermwyr ac y bydd newidiadau i gynlluniau amaeth yn sgil barn y rhai yn y diwydiant.

Yn ôl y gweinidog materion gwledig Lesley Griffiths bydd "pob ymateb unigol i'r ymgynghoriad yn cael ei ystyried", ac na fydd penderfyniad terfynol nes bod yr holl ymatebion wedi eu hystyried.

Dywedodd bod rhai newidiadau eisoes wedi eu cyflwyno, gan gynnwys bod y cynllun ar agor i bob ffermwr o 2025 ymlaen, ac addasiad i'r gofyniad am 10% o goetir i gynnwys coed presennol.

Ychwanegodd bod addasiadau i ffermwyr tenant, ac na fyddai'r gofyniad yn dod i rym nes 2030 er mwyn rhoi mwy o amser i weithredu.

Mae ymgynghoriad ar y cynlluniau ar agor tan 7 Mawrth.