Trenau'n ôl yn y Rhondda Fawr wedi bwlch o naw mis

  • Cyhoeddwyd
Disgrifiad,

'Gweld y goleuni' wrth i wasanaeth tren ddychwelyd

Does dim gwasanaeth wedi bod ar y rheilffordd rhwng Pontypridd a Threherbert ers Ebrill 2023, wrth i waith atgyweirio sylweddol gael ei wneud fel rhan o'r cynllun ar gyfer Metro De Cymru.

Ond naw mis yn ddiweddarach ac mae'r trenau wedi dychwelyd i'r Rhondda.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud bod y seilwaith wedi'i newid yn barod ar gyfer trenau trydan, fydd yn dechrau cael eu defnyddio ddiwedd 2024.

Dros y naw mis diwethaf mae trigolion y Rhondda Fawr wedi gorfod defnyddio gwasanaeth bws yn lle'r trenau.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Gethin Wyn Jones fod Trafnidiaeth Cymru yn "falch o'r gwaith sydd wedi digwydd"

Yn ôl Gethin Wyn Jones o Drafnidiaeth Cymru, mae wedi golygu cryn dipyn o waith gan fod rhan o'r seilwaith ar linell y Rhondda yn dyddio o'r cyfnod Fictorianaidd.

"Mae hyn wedi cynnwys gosod llinellau trydanol uwchben ar gyfer ein trenau newydd [iddyn nhw] allu rhedeg ar drydan, yn ogystal â gwelliannau i'r gorsafoedd, platfformau a'r cyfleusterau ar gyfer teithwyr," dywedodd.

"'Dan ni'n hynod falch o'r gwaith sydd wedi digwydd ac i'r timau sydd wedi bod yn gweithio'n galed dros y naw mis diwethaf, a 'dan ni' edrych ymlaen at groesawu pobl yn ôl i'r lein heddiw 'ma."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd y gwasanaeth cyntaf o Bontypridd i Dreherbert wedi'r gwaith atgyweirio yn gadael toc wedi 0700 fore Llun

Mae pobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Rhondda yn dweud bod dim gwasanaeth trenau wedi achosi problemau dros y misoedd diwethaf.

"Mae wedi bod yn anodd," meddai Heledd Bianchi, sy'n byw yn Nhynewydd, Treherbert.

"Mae wedi bod yn real pen tost achos s'dim pawb â char, ac mae'r effaith mae wedi'i gael o ran faint o fysys sydd wedi gorfod mynd ar yr hewl i gymryd drosodd o'r trenau, mae jyst yn Piccadilly Circus yma!"

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Julie Gofrey fod y diffyg trenau "wedi bod yn anodd i bobl wneud pethe syml"

Mae busnesau'r cwm hefyd wedi gweld effaith y diffyg trenau, meddai Julie Godfrey, sy'n gweithio mewn siop anifeiliaid anwes ar stryd fawr Treorci.

"Mae wedi bod yn anodd i bobl wneud pethe syml fel mynd â'r plant i'r ysgol, mynd at y feddygfa - ac yn y siopau 'dan ni'n ffeindio does dim yr un footfall.

"Os 'dach chi ddim angen mynd i Dreorci, pan mae problemau 'dach chi ddim yn mynd i wneud."

'Gweld goleuni'

Fe fydd cynllun tocynnau hanner pris ar gyfer pobl sy'n byw ar hyd y rheilffordd yn parhau tan ddiwedd mis Mai.

"'Dan ni'n ymwybodol o'r amynedd mae pobl wedi dangos i Drafnidiaeth Cymru yn ystod y gwaith yma," meddai Gethin Wyn Jones.

Fydd trenau trydan ddim yn cael eu defnyddio tan ddiwedd y flwyddyn, sy'n rhywfaint o siom i Heledd Bianchi yn Nhreherbert.

"Mae'r pethe 'ma yn cymryd amser - Rome wasn't built in a day, ife - ond fe allai weld y goleuni.

"Mae'n lyfli gweld y tracs 'na yn edrych mor ddiwydiannol, ac mae e jyst yn edrych fel lle mwy exciting i ddod - chi'n gallu teimlo y positifrwydd - gyda Thwnnel y Rhondda yn ailagor, ac wedyn mae 'da chi Zip World ar draws y Rhigos."

Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr actor Richard Elfyn ymhlith y rhai a ddefnyddiodd y gwasanaeth fore Llun

Mae Heledd yn gobeithio y bydd y sefyllfa wedi gwella erbyn dechrau'r Eisteddfod Genedlaethol Rhondda Cynon Taf ym Mhontypridd ym mis Awst.

"Mae'r steddfod yn dod, meddai. "Gobeithio bydd y trenau yn rhedeg bach yn well ar gyfer y steddfod."

Dywedodd yr actor Richard Elfyn, oedd yn teithio ar y lein y bore 'ma, ei fod yn falch o weld y gwasanaeth yn dychwelyd.

"Mae'n braf cael y trên yn ôl yn gweithio a deud y gwir, mae wedi bod yn golled fawr gorfod gyrru trwy'r traffig i fynd i weithio yng Nghaerdydd," meddai.

Pynciau cysylltiedig