Ymchwiliad Covid: 'Dim sail dros beidio gweini alcohol'
- Cyhoeddwyd
Fe ddylai'r Deyrnas Unedig fod wedi cyflwyno cyfnod clo yn gynt yn 2020 ond byddai wedi bod yn anodd i Gymru weithredu'n annibynnol, yn ôl epidemiolegydd blaenllaw.
Roedd gan Dr Chris Williams - arbenigwr mewn clefydau heintus yn Iechyd Cyhoeddus Cymru - rôl flaenllaw wrth ymateb i fygythiad coronafeirws.
Dywedodd Dr Williams wrth ymchwiliad Covid-19 y Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd ei fod wedi dechrau sylweddoli bod gan y feirws "botensial pandemig" erbyn diwedd Ionawr 2020.
Fe fyddai wedi bod yn "amhosib" i gyflwyno cyfnod clo yng Nghymru yn gynt heb gydweithrediad ar draws y Deyrnas Unedig, meddai.
Dywedodd ei fod "wedi synnu" nad oedd cyfyngiadau gafodd eu cyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig ar 12 Mawrth 2020 yn fwy llym.
Erbyn hynny, meddai, roedd yr angen am gyfnod clo yn amlwg.
Dywedodd Dr Williams ei fod wedi treulio amser ers hynny yn gofyn i'w hunan a ddylai fod wedi dadlau'n galetach am weithredu mwy cadarn yn gynt, ond doedd e ddim yn meddwl y byddai wedi gwneud gwahaniaeth.
Ar y pryd roedd Cymru yn rhan o strategaeth y Deyrnas Unedig, meddai, a hynny oedd fwyaf ymarferol.
Dywedodd Dr Williams ei fod wedi dadlau o blaid cyflwyno gorchuddion wyneb yn y Grŵp Cyngor Technegol (TAG) oedd yn rhoi cyngor i'r llywodraeth ar yr ymateb i coronafeirws.
Doedden nhw ddim yn orfodol mewn siopau a mannau cyhoeddus eraill yng Nghymru nes 14 Medi 2020.
Roedden nhw'n orfodol yn Lloegr o fis Gorffennaf 2020.
Dywedodd Dr Williams nad oedd e'n cytuno gyda barn Dr Frank Atherton, y prif swyddog meddygol, yn haf 2020.
Doedd Dr Atherton ddim wedi ei argyhoeddi bod yna dystiolaeth dros wneud gorchuddion wyneb yn orfodol.
Credai Dr Williams y byddai "efallai yn werth trio mygydau, hyd yn oed yn absenoldeb tystiolaeth dda".
Roedd yna gwestiynau iddo hefyd am ei farn ym Mawrth 2020 nad oedd angen canslo digwyddiadau mawr wrth i'r feirws ledu.
Penderfynodd Llywodraeth Cymru beidio canslo gêm rygbi Cymru yn erbyn Yr Alban ar 14 Mawrth, ond gwnaeth Undeb Rygbi Cymru'r penderfyniad ddiwrnod cyn y gêm.
Dywedodd Dr Williams bod hi dal ddim yn eglur a oedd tystiolaeth bod digwyddiadau o'r fath yn gwneud gwahaniaeth sylweddol.
Fe fyddai canolbwyntio ar amddiffyn unigolion bregus yn hytrach na chloi cymdeithas wedi bod yn well strategaeth yn ystod y pandemig yn ôl arbenigwr iechyd cyhoeddus.
Dywedodd Dr Roland Salmon, cyn-gyfarwyddwr clefydau trosglwyddadwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, y dylai'r ymateb i Covid fod wedi cael ei dargedu gymaint â phosib.
Wrth roi tystiolaeth gerbron Ymchwiliad Covid-19 y DU dywedodd fod plant, pobl ifanc ac oedolion ifanc wedi cario gormod o'r baich yn sgil cyfyngiadau llym.
Dywedodd Dr Salmon, oedd yn gweithio i Iechyd Cyhoeddus Cymru tan 2013, hefyd bod diffyg synnwyr i rai o benderfyniadau Llywodraeth Cymru fel gwahardd gweini cwrw mewn tafarndai.
Yn Hydref 2020 doedd rhai rhannau o archfarchnadoedd ddim yn agored oherwydd gwaharddiad ar werthu nwyddau oedd ddim yn angenrheidiol.
O Ragfyr 2020, roedd gwerthu alcohol mewn lleoliadau lletygarwch yn groes i'r rheolau Covid.
"Alla'i ddim meddwl am unrhyw sail pam efallai y byddech chi'n meddwl y bydden nhw'n gweithio," meddai Dr Salmon.
Awgrymodd y gallai'r penderfyniad adlewyrchu diffyg profiad bywyd ymhlith y rheini oedd yn llunio polisi - ac o bosib "diffyg profiad byw o fynd i'r archfarchnad hyd yn oed".
Dywedodd bod agor tafarndai ond peidio cael cwrw efallai yn dangos "etifeddiaeth y capel".
Cyfnod clo hirach 'wedi bod yn well'
Yn ôl academydd o Brifysgol Abertawe a fu'n rhoi tystiolaeth brynhawn Gwener, fe ddylai'r cyfnod clo byr yng Nghymru yn Hydref 2020 wedi bod yn hirach.
Roedd yr Athro Michael Gravenor yn rhan o dîm fuodd yn paratoi modelau mathemategol o'r pandemig yng Nghymru.
Dywedodd bod y clo byr o bythefnos rhwng 23 Hydref a 9 Thachwedd 2020 wedi bod yn effeithiol wrth gadw lefelau'r feirws yn is am gyfnod ar ôl iddo ddod i ben.
Ond wrth edrych nôl, byddai cloi am bedair wythnos wedi bod yn well.
Pe bai hynny wedi digwydd, fe fyddai Cymru wedi bod mewn sefyllfa well yn Rhagfyr 2020, meddai, gyda'r potensial "y gallen ni fod wedi osgoi rhywfaint o'r gwaethaf o'r ail don".
Dechreuodd ail gyfnod clo llawn ddiwedd Rhagfyr 2020.
Roedd yna "storm berffaith" bryd hynny, meddai'r Athro Gravenor, fyddai dim ond wedi gallu cael ei osgoi gan glo hirach yn yr hydref.
Yn gynharach yn ei dystiolaeth dywedodd yr Athro Gravenor bod datganiad gan y Prif Weinidog Mark Drakeford yn ei dystiolaeth i'r ymchwiliad, bod effaith y cyfnod clo byr ddim wedi para mor hir ac roedd y modelau wedi awgrymu, ddim yn gywir.
Beth yw adolygiad Covid-19?
Pwrpas yr adolygiad Covid yw asesu pa mor barod oedd y Deyrnas Unedig ar gyfer pandemig Covid-19, yn ogystal â'r ymateb.
Y gobaith yw dysgu gwersi ar gyfer unrhyw ddigwyddiad tebyg yn y dyfodol.
Mae Cymru yn rhan o fodiwl 2B sydd yn ymchwilio i'r penderfyniadau gafodd eu gwneud gan y Senedd.
Bydd yr adolygiad yn parhau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Chwefror