Covid: 'Cymryd yn ganiataol mai Llywodraeth y DU fyddai'n gyfrifol'
- Cyhoeddwyd
Mae'r ymchwiliad Covid wedi clywed bod Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog Cymru wedi cymryd yn ganiataol mai Llywodraeth y DU fyddai'n gyfrifol am yr ymateb i Covid tan dridiau cyn y cyfyngiadau ar symud ledled y DU.
Cyhoeddwyd y cyfnod clo cyntaf gan y prif weinidog ar y pryd, Boris Johnson, ar 23 Mawrth 2020.
Defnyddiodd bwerau iechyd y cyhoedd yn hytrach na deddfwriaeth argyfyngau sifil, a oedd yn golygu mai Llywodraeth Cymru oedd yn gyfrifol am wneud penderfyniadau yng Nghymru yn y pendraw.
Wrth roi tystiolaeth i'r ymchwiliad dywedodd arbenigwr ar benderfyniadau o fewn Llywodraeth Cymru "mae'n sicr yn ymddangos mai dyna yw dealltwriaeth Prif Weinidog Cymru o'r sefyllfa".
'Aneglur'
Dywedodd yr Athro Dan Wincott ei fod yn parhau i fod "ychydig yn aneglur i ba raddau y trafodwyd y materion hyn neu i ba raddau y cawsant eu gwyntyllu yn gynharach".
Dywedodd cwnsler i'r ymchwiliad, Tom Poole, fod Mark Drakeford wedi cytuno â'r dull ar ôl i'r penderfyniad gael ei wneud, gan ei fod yn caniatáu iddo gyflwyno ymateb penodol i Gymru.
Mewn datganiad ysgrifenedig cynharach i'r ymchwiliad dywedodd Mr Johnson bod "dadl deg y dylem fod wedi defnyddio deddfwriaeth wrth gefn sifil yn lle deddfwriaeth iechyd cyhoeddus".
"Trwy ganiatáu o leiaf y gwahaniaeth mewn ymagwedd rhwng gwahanol rannau o'r DU roedd perygl o gryn ddryswch a rhwystredigaeth ymhlith y cyhoedd - pan oedd eglurder y neges yn hollbwysig," meddai.
Dywedodd Mr Johnson y byddai deddfwriaeth argyfyngau sifil posibl wedi caniatáu i'r DU "rwymo gyda'i gilydd".
Roedd Llywodraeth y DU wedi cael gwybod na allai ddefnyddio cyfraith argyfyngau sifil posibl oherwydd nad oedd yn ddigwyddiad annisgwyl.
Rhoi'r bai ar ei gilydd
Dywedodd yr Athro Wincott hefyd bod llywodraethau Cymru a'r DU wedi bod yn rhoi'r bai am unrhyw broblemau ar ei gilydd - rhywbeth a ddisgrifiodd fel "nodwedd o'r system".
Holwyd yr Athro Wincott a oedd gweinidogion Cymru yn gyfrifol am y penderfyniadau a wnaed yn eu henwau, a siaradodd am yr hyn a alwodd yn "ymylon miniog" y setliad datganoli.
"Gweinidogion Cymru sy'n dal i fod yn gyfrifol am benderfyniadau ond maen nhw'n arfer y cyfrifoldebau hynny o dan gyfyngiadau arbennig o dynn ac ansicr," meddai.
Dywedodd bod y "sefydliadau ar gyfer cydweithio" ymhlith llywodraethau "yn llawer llai datblygedig nag a fyddai orau mewn system fel y DU".
Mae sawl enghraifft o lywodraethau'r DU a Chymru yn cydweithio'n dda, meddai, "yn mynd yn ôl trwy hanes datganoli, er enghraifft ar fargeinion dinesig".
Ond mae Llywodraeth Cymru "wedi'i chyfyngu'n arbennig gan natur y setliad datganoli a'r ymylon garw hynny a'i pherthynas â Llywodraeth y DU".
"Gall fod dryswch ynghylch atebolrwydd," meddai.
'Ail don wedi taro'n arbennig o galed'
Mae'r Athro Syr Ian Diamond, prif weithredwr Awdurdod Ystadegau'r DU ac ystadegydd cenedlaethol, wedi bod yn tywys yr ymchwiliad drwy'r ffigurau marwolaethau yn ymwneud â Covid yng Nghymru - yn enwedig sut y gwnaeth yr ail don yn niwedd 2020 daro Cymru'n arbennig o galed.
Dywedodd yr Athro Diamond nad oedd unrhyw wahaniaeth ystadegol rhwng Cymru a Lloegr o ran marwolaethau wedi'u safoni yn ôl oedran, ond roedd yna o gymharu â'r Alban a Gogledd Iwerddon, gyda Chymru'n uwch.
Roedd gan Loegr ganran uwch o farwolaethau gormodol (excess deaths) - 11.9% - o gymharu â Chymru - 9.2% - yng nghyfnod y pandemig hyd at Chwefror 2022.
Yn yr ail don yn niwedd 2020, roedd marwolaethau yn uwch yng Nghymru nag yng ngwledydd eraill y DU.
Roedd 3,187 o farwolaethau gormodol yn yr ail don yng Nghymru - a 4,429 o farwolaethau a oedd yn cynnwys Covid, o gymharu â 2,251 o farwolaethau gormodol yn y don gyntaf a 2,109 o farwolaethau yn ymwneud â Covid.
Rhyddhau i gartrefi gofal
Clywodd yr ymchwiliad fwy o fanylion am 1,729 o gleifion ysbyty a gafodd eu rhyddhau i gartrefi gofal rhwng dechrau mis Mawrth a diwedd mis Mai 2020 - gan gynnwys cyfnod pan na chynhaliwyd unrhyw brofion.
Holwyd Stephanie Howarth, prif ystadegydd Llywodraeth Cymru, am ddata oedd yn dangos bod 81 o'r cleifion hyn wedi marw o Covid erbyn diwedd mis Mehefin - a 62 ohonyn nhw heb gael eu profi cyn rhyddhau.
Ym mis Mawrth, rhyddhawyd 792 o gleifion heb brawf - a rhyddhawyd 296 cyn newid canllawiau yn wythnos olaf mis Ebrill.
Daeth hyn â phrofion torfol o gleifion yn cael eu trosglwyddo i gartrefi gofal, o 27 Ebrill, ond roedd 47 o gleifion heb eu profi ar ôl y dyddiad hwn ac ar draws mis Mai.
Roedd bron i ddwy ran o dair (29) o'r rheiny yn ardal Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan, yn ôl y data.
"Gallai fod adegau pan oedd problem o ran cofnodi data neu adrodd," meddai Ms Howarth.
"Neu gallai fod oherwydd mewn gwirionedd na chynhaliwyd unrhyw brawf."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd23 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd27 Chwefror 2024
- Cyhoeddwyd26 Chwefror 2024