Covid-19: 'Doedd dim hawl gan y llywodraeth i gau ysgolion'
- Cyhoeddwyd
Mae Ymchwiliad Covid-19 y DU wedi clywed nad oedd gan Lywodraeth Cymru yr hawl gyfreithiol i gau ysgolion ym Mawrth 2020 wrth i'r argyfwng coronafeirws ddwysáu.
Fe glywodd y gwrandawiad yng Nghaerdydd awgrym hefyd y gellid y weinyddiaeth, o edrych yn ôl, fod wedi paratoi ynghynt ar gyfer y pandemig.
Fe ddaeth i'r amlwg fod y Gweinidog Iechyd presennol, Eluned Morgan wedi teithio i Iwerddon bythefnos ar ôl i'r achos cyntaf o Covid gael ei gofnodi yng Nghymru.
Roedd Ms Morgan ymhlith tri aelod blaenllaw o lywodraeth Lafur Cymru a roddodd dystiolaeth i'r ymchwiliad ddydd Mawrth.
Cafodd yr achos cyntaf o Covid ei gadarnhau yng Nghymru ar 28 Chwefror 2020.
Fe glywodd yr ymchwiliad bod Ms Morgan - y cyntaf o'r gweinidogion i roi tystiolaeth - wedi teithio i Iwerddon ar 11 Mawrth.
A hithau'n weinidog ar gyfer cysylltiadau rhyngwladol ar y pryd, roedd hi hefyd wedi ymweld â Chanada a'r Unol Daleithiau ym mis Chwefror.
"Ar y pwynt hwnnw hyd yn oed doedden ni ddim wedi sylweddoli'n union faint o fygythiad oedd e," dywedodd.
"Doedd y Swyddfa Dramor ddim yn awgrymu bryd hynny na ddylai pobl deithio dramor."
Dywedodd ei bod wedi "dechrau deall pa mor ddifrifol oedd bygythiad Covid" ar ôl iddi ddychwelyd o Iwerddon.
Ychwanegodd ei bod hi wedi bod yn bwysig sicrhau bod yna berthynas gref gyda Iwerddon yn sgil Brexit.
Pan ofynnwyd iddi a oedd Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn ddigon cyflym i Covid, dywedodd Ms Morgan: "Os oedd gennym ni'r amser yna eto, rydyn ni'n cydnabod y dylen ni fod wedi bod yn gwneud paratoadau ynghynt".
Fe glywodd yr ymchwiliad hefyd bod Eluned Morgan wedi anfon negeseuon Whatsapp at Brif Weinidog Cymru yn ystod y dyddiau cyn y cyfnod clo cyntaf yn galw am gamau i atal pobl rhag dod i Gymru ar wyliau.
Ar 21 Mawrth 2020 dywedodd wrtho bod dau fws o bensiynwyr wedi cyrraedd Tŷ Ddewi.
Roedd hi'n bryderus hefyd bod y Daily Mail wedi argymell y dylai pobl ffoi i Gymru.
Wrth ymateb iddi, dywedodd Mark Drakeford bod cyngor wedi bod ers y dechrau yn erbyn teithio diangen.
Penderfyniad 'dewr'
Eluned Morgan oedd y gweinidog â chyfrifoldeb dros yr iaith Gymraeg yn ystod y pandemig hefyd.
Dywedodd wrth yr ymchwiliad bod "miloedd o bobl yn ychwanegol" wedi dechrau dysgu'r iaith ar-lein yn ystod y cyfnod hwnnw.
Wrth i'r dystiolaeth droi at benderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno cyfnod clo byr ym mis Hydref 2020, dywedodd Ms Morgan bod hynny wedi bod yn benderfyniad "dewr" gan nad oedd Llywodraeth y DU wedi gwneud yr un penderfyniad ar gyfer Lloegr bryd hynny.
Ychwanegodd ei bod hi'n "siomedig" na wnaeth Llywodraeth y DU roi cefnogaeth ariannol i gefnogi Cymru yn ystod y cyfnod clo byr.
"Roedd pobl yn teimlo fel ein bod ni'n ddinasyddion eilradd," meddai, gan nodi bod Llywodraeth y DU wedi rhyddhau arian ychwanegol pan ddechreuodd cyfnod clo tebyg yn Lloegr bythefnos yn ddiweddarach.
Yr wythnos ddiwethaf dywedodd Ysgrifennydd Cymru ar y pryd Simon Hart wrth yr ymchwiliad nad oedd Llywodraeth y DU wedi cael digon o rybudd gan Lywodraeth Cymru i'w galluogi hi i ryddhau arian ar gyfer y cyfnod clo byr.
Fe glywodd yr ymchwiliad hefyd ddydd Mawrth gan weinidog cyllid Llywodraeth Cymru, Rebecca Evans.
Fe eglurodd hi bod y llywodraeth wedi sefydlu pwyllgor arbennig ar ddechrau'r pandemig i weithio ar yr ymateb ariannol i Covid.
Dywedodd bod gweinidogion wedi ail-flaenoriaethu chwarter biliwn o bunnau.
Ychwanegodd Ms Evans nad oedd llawer o eglurder yn dod o'r Trysorlys yn San Steffan yn ystod misoedd cyntaf y pandemig, a'i bod hi wedi ysgrifennu at y Canghellor ar y pryd, Rishi Sunak.
"Roedd hi'n heriol iawn cael yr wybodaeth gywir," meddai.
Tro'r gweinidog addysg presennol, Jeremy Miles, oedd hi i roi tystiolaeth ddechrau'r prynhawn.
Fe oedd y Cwnsler Cyffredinol yn ystod y pandemig, sef prif gyfreithiwr Llywodraeth Cymru.
Yn ystod ei dystiolaeth fe wnaeth e gydnabod nad oedd gan Lywodraeth Cymru'r pŵer cyfreithiol i gau ysgolion yng Nghymru pan wnaed y cyhoeddiad ar 18 Mawrth 2020 y byddai gwyliau'r Pasg yn dechrau'n gynharach.
Ond eglurodd Mr Miles bod y llywodraeth yn cynnig arweiniad i'r sector addysg ar adeg pan roedd ysgolion yn dechrau cau'n barod.
Clywodd yr ymchwiliad hefyd na chafodd ysgolion eu "cau" fel y cyfryw, ond yn hytrach eu "hail-bwrpasu" ar gyfer plant gweithwyr allweddol a phlant bregus.
Bu Mr Miles hefyd yn trafod y cyfyngiadau Covid yng Nghymru a'r cosbau i bobl oedd yn m
Fe wnaeth e gydnabod bod y gwahanol reolau mewn grym mewn gwahanol rannau o'r Deyrnas Unedig wedi achosi dryswch, gan gynnwys i heddluoedd.
Ychwanegodd hefyd y bu'n rhaid cyflwyno cosbau troseddol i gyfleu "difrifoldeb" y sefyllfa ac i "ddarbwyllo" pobl rhag torri'r rheolau.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mawrth
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd6 Mawrth