Amharodrwydd i gyhoeddi argyfwng Covid-19 yn 'syfrdanol'
- Cyhoeddwyd
Doedd Llywodraeth Cymru ddim eisiau cyhoeddi sefyllfa ddifrifol yn sgil lledaeniad Covid, ac roedd amharodrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru i'w ddisgrifio fel argyfwng yn "syfrdanol", yn ôl ymgynghorydd iechyd.
Wrth roi tystiolaeth i Ymchwiliad Covid y DU yng Nghaerdydd ddydd Mercher, dywedodd Dr Quentin Sandifer fod y llywodraeth wedi gwrthod datgan "sefyllfa ddifrifol" ar 11 Mawrth 2020 ar ôl cael cyngor i wneud hynny.
Nododd fod Llywodraeth Cymru wedi dweud ar y pryd na fyddai datganiad o'r fath "o gymorth".
Ychwanegodd ei fod wedi derbyn e-bost ar 3 Mawrth 2020 gan Andrew Jones o Iechyd Cyhoeddus Cymru oedd yn dweud nad oedd lledaeniad Covid-19 yn "argyfwng sifil" a bod y sefyllfa yn cael ei hadolygu.
Dywedodd Mr Sandifer bod y neges honno wedi ei "syfrdanu".
Gwelodd yr ymchwiliad dystiolaeth o gyngor a gafodd ei roi i Lywodraeth Cymru gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar 11 Mawrth 2020 yn galw am gyhoeddi sefyllfa ddifrifol.
Dywedodd Mr Sandifer: "Ro'n i'n teimlo y dylen ni roi ein cardiau i gyd ar y bwrdd a dweud 'fel hyn yr ydyn ni'n gweld pethau, ydych chi'n mynd i ddefnyddio deddfwriaeth argyfwng?'"
Fe gadarnhaodd bod y llywodraeth wedi ymateb drwy ddweud na fyddai cyhoeddiad o'r fath o gymorth.
Clywodd yr ymchwiliad bod Mr Sandifer, cynghorydd ar y pandemig i Iechyd Cyhoeddus Cymru, wedi rhannu pryderon ym mis Chwefror 2020 ynglŷn ag effaith posib gwleidyddiaeth ar iechyd cyhoeddus - yn benodol ym maes profi.
Awgrymodd bod yna gytundeb llafar wedi ei wneud a chwmni fferyllol Roche iddyn nhw ddarparu 5,000 o brofion i Gymru, ond bod y mwyafrif helaeth wedi cael eu defnyddio fel rhan o'r ymateb ar hyd y Deyrnas Unedig.
"Fy mhryder i oedd ein bod ni am golli'r profion hynny... a dyna beth ddigwyddodd. Tua 500 o'r rheini gawsom ni yn y pendraw," meddai.
'Pryder a rhwystredigaeth'
Ychwanegodd fod yna "bryder a rhwystredigaeth" o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â pha mor gyflym yr oedd byrddau iechyd yn cynyddu eu capasiti profi.
Nododd fod Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cysylltu â'r byrddau iechyd ar 10 Chwefror yn gofyn iddyn nhw sicrhau bod unedau profi yn barod erbyn 14 Chwefror, ond awgrymodd y byddai hi wedi bod yn ddefnyddiol pe bai'r cyfarwyddyd hwnnw wedi cael ei rannu ynghynt.
Fe ddisgrifiodd Mr Sandifer yr amgylchiadau o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ddechrau'r pandemig yn "wyllt" a dywedodd na fyddai hi wedi bod yn bosib cadw cofnod o'r holl drafodaethau.
"Fe fyddai hi wrth gwrs yn well pe bai wedi bod modd cadw cofnod o'r holl drafodaethau oedd yn digwydd, ond erbyn diwedd mis Ionawr (2020) ro'n i yn fy swyddfa erbyn 07:00," meddai.
"Ac fel y rhan fwyaf o aelodau'r tîm, prin iawn oedd yr adegau ble ro'n i'n gadael cyn 21:00 neu 22:00. Mi oedd hi'n wyllt.
"Prin i mi gael cyfle i stopio a chael fy ngwynt ataf. Yn syml, doedd gen i ddim yr amser i gadw cofnod o bob dim."
Ond mae 'na waith i'w wneud o hyd i sicrhau bod Cymru yn barod ar gyfer pandemig yn y dyfodol, yn ôl Mr Sandifer.
Awgrymodd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru "mewn lle gwell o lawer erbyn hyn", gyda mwy o staff ac adnoddau i ddelio gyda sefyllfa o'r fath o'i gymharu â 2020.
'Cynghorau'r gorllewin a'r dwyrain yn anghytuno'
Roedd Chris Llewelyn, Prif Weithredwr Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ers 2019, hefyd yn rhoi tystiolaeth i'r ymchwiliad ddydd Mercher.
Clywodd yr ymchwiliad bod cynghorau sir yn teimlo y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi rhannu mwy o wybodaeth gydag awdurdodau lleol, a hynny yn gynt.
Dywedodd Mr Llewelyn nad oedd y gwahanol haenau o lywodraeth yn dangos "hyder ac ymddiriedaeth" yn ei gilydd.
Ychwanegodd bod yna wahaniaeth barn ymhlith cynghorau yng Nghymru ynglŷn â chyflwyno cyfnod clo byr yng Nghymru ym mis Hydref 2020, a bod yna safbwyntiau gwahanol gan gynghorau yn y dwyrain a'r gorllewin, a chynghorau dinesig a rhai gwledig.
Dywedodd bod y cynghorau wedi llwyddo i gytuno ar un polisi clir yn y pendraw, a bod y trafodaethau cyn cyflwyno'r cyfyngiadau hynny "yn enghraifft dda o sut y dylai'r fath drafodaethau gael eu cynnal".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
- Cyhoeddwyd1 Mawrth