Gosod rheolau Covid Cymru 'er mwyn bod yn wahanol' medd Hart
- Cyhoeddwyd
Cymhelliant Llywodraeth Cymru yn ystod y pandemig oedd bod yn wahanol dim ond er mwyn bod yn wahanol, mae cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart wedi dweud wrth ymchwiliad Covid-19 y DU yng Nghaerdydd.
"Roedd hynny'n adlewyrchiad o'r hyn yr oedd pobl yng Nghymru, yr hyn yr oedd rhanddeiliaid Cymreig yn ei ddweud wrthym, yr hyn yr oedd economi Cymru yn ei ddweud wrthym," meddai Mr Hart.
Dywedodd Mr Hart nad oedd yn dweud hynny "gydag unrhyw synnwyr o lawenydd" ond roedd y gwahaniaethau yn peryglu parodrwydd pobl i gydymffurfio gyda rheolau, meddai.
Dywedodd cyn-ysgrifennydd Cymru hefyd, pe bai un peth wedi'i wneud yn wahanol wrth fynd i'r afael â'r pandemig, mai gweithredu ar sail y DU gyfan fyddai hynny.
Roedd yn "gynyddol ysgytwol" iddo bod y pandemig yn cael ei drin ar hyd ffiniau gwleidyddol, meddai.
Dywedodd Mr Hart hefyd fod negeseuon WhatsApp a gasglwyd gan yr ymchwiliad yn dangos nad oedd gweinidogion Llywodraeth Cymru yn siŵr am eu rheolau Covid eu hunain.
"Roedd aelodau cabinet Mark Drakeford yn mynegi cryn ddryswch eu hunain ynglŷn â'r hyn y gallen nhw ei wneud," meddai.
'Bygythiad i ddyfodol y DU'
Yn gynharach ddydd Iau, clywodd yr ymchwiliad fod gan brif weinidog Cymru "bryder gwirioneddol, diffuant" bod gweithredoedd Llywodraeth y DU yn ystod cyfnod cynnar y pandemig yn "fygythiad gwirioneddol i ddyfodol y Deyrnas Unedig", meddai cynghorydd Llywodraeth Cymru Jane Runeckles.
Ychwanegodd bod y cyswllt rhwng Mark Drakeford a Boris Johnson yn "anaml" bryd hynny ac yr oedd Mr Drakeford o'r farn bod "holltau" o fewn llywodraeth y DU yn "tyfu, yn hytrach na chrebachu".
Dywedodd bod "tensiynau" oherwydd y camau gwahanol a gymerwyd gan lywodraethau Cymru a'r DU wedi dod yn "fwyfwy amlwg" tua diwedd Mai 2020.
"Roedd y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gwneud penderfyniadau mewn ffordd wahanol i Lywodraeth y DU yn golygu mai ychydig iawn oedd i siarad amdano."
'Sioc a siom'
Dywedodd Ms Runeckles fod y Prif Weinidog Mark Drakeford wedi cael "sioc a siom" bod cwmni ymgynghori Deloitte wedi sefydlu canolfan brofi Covid torfol yng Nghaerdydd heb i Lywodraeth Cymru nac Iechyd Cyhoeddus Cymru gael gwybod.
Ychwanegodd fod gweinidogion yn teimlo nad oedd y ffordd y mae'r GIG yn gweithio yng Nghymru wedi cael ei ystyried gan Lywodraeth y DU, a gomisiynodd y safle.
Ychwanegodd fod Iechyd Cyhoeddus Cymru, dros gyfnod o "bedwar neu bum niwrnod", wedi mynd o fod yn anymwybodol o fodolaeth y safle i'w staffio a'i redeg.
Gofynnwyd i Ms Runeckles a oedd pryder ynghylch cyfathrebu â llywodraeth y DU yn ystod camau cynnar y pandemig.
"Doedd dim rhybudd gwirioneddol pryd roedd cyfarfodydd Cobra [sy'n cael eu cynnal gan Lywodraeth y DU i drafod materion brys neu drychinebus] yn mynd i ddigwydd, beth fyddai'r agenda, tan yn agos iawn - weithiau 10-15 munud - cyn i'r cyfarfodydd hynny ddechrau.
"Roedd prif weinidog Cymru yn dechrau pryderu am y lefelau o ymgysylltu yr oedd yn teimlo oedd yn angenrheidiol oherwydd brys y sefyllfa yr oeddem ynddi."
Ychwanegodd yn ddiweddarach nad oedd gweinidogion yn dal i gael rhybudd digonol erbyn mis Hydref 2020.
Fe wnaeth Ms Runeckles gydnabod ei bod wedi defnyddio ei ffôn symudol personol ar gam ar gyfer busnes Llywodraeth Cymru.
Dywedodd nad oedd hi wedi defnyddio WhatsApp ar ei ffôn personol ar gyfer penderfyniadau Llywodraeth Cymru ond ei bod wedi ei ddefnyddio at "ddibenion gweinyddol ac ar gyfer morâl y tîm".
Gofynnodd cadeirydd yr ymchwiliad, y Farwnes Hallett, iddi "ond onid yw defnyddio eich ffôn personol at ddibenion gweinyddol yn ei ddefnyddio ar gyfer busnes Llywodraeth Cymru?"
"Ydy", meddai Ms Runeckles.
"Felly roeddech chi'n ei ddefnyddio'n anghywir?" ychwanegodd y Farwnes Hallett.
"Oeddwn", atebodd hi.
Dryswch?
Gwrthododd Toby Mason, pennaeth cyfathrebu strategol Llywodraeth Cymru, yr awgrym bod Llywodraeth Cymru yn ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am ddryswch y cyhoedd ynghylch negeseuon yn ystod y pandemig.
"Dydw i ddim yn credu hynny", meddai, "siaradon ni gyda phobl Cymru."
Clywodd yr ymchwiliad am newid mewn negeseuon yn Lloegr ym mis Mai 2020 i "aros yn effro" pan oedd yn dal i fod yn "aros gartref" yng Nghymru.
Roedd prif weinidogion Cymru a'r Alban wedi codi pryderon am rannu'r newid mewn polisi mewn ymgyrchoedd cyfathrebu ar draws y DU mewn cyfarfod Cobra.
Tra bod yna wahaniaethau ar adegau dywedodd Mr Mason fod cysylltiadau gyda gweision sifil Llywodraeth y DU wastad yn "foneddigaidd" ac yn "barchus".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
- Cyhoeddwyd4 Mawrth
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
- Cyhoeddwyd1 Mawrth
- Cyhoeddwyd29 Chwefror