Pryder am wthio 'agendâu cudd' protestiadau ffermio
- Cyhoeddwyd
Mae ffermwyr Cymru yn poeni bod protestiadau diweddar yn cael eu defnyddio i hyrwyddo "agendâu cudd".
Dros yr wythnosau diwethaf, mae ffermwyr wedi cynnal protestiadau ar draws y wlad i ddangos eu gwrthwynebiad i bolisïau amaethyddol Llywodraeth Cymru.
Roedd hynny'n cynnwys y cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig, rheoliadau i atal lledaeniad TB mewn gwartheg a rheolau ar lygredd nitradau.
Daeth cyfnod ymgynghori ar y cynllun ffermio cynaliadwy i ben yr wythnos ddiwethaf, ac yn ôl Llywodraeth Cymru, maen nhw'n gwrando ar bryder y sector.
Mae undebau amaeth Cymru wedi dweud bod ffermwyr yn haeddu cael datgan eu barn yn glir, heb i'w pryderon gael eu cyfuno gyda safbwyntiau eraill.
Mae Newyddion S4C wedi siarad gyda nifer o ffermwyr sydd yn poeni bod unigolion o du fas i gymunedau amaethyddol yn ceisio defnyddio protestiadau diweddar at ddibenion eraill.
Mae rhai wedi dweud bod unigolion a grwpiau sydd yn gwrthwynebu datganoli a thargedau newid hinsawdd wedi mynychu protestiadau ac wedi bod yn weithgar ar grwpiau ffermio ar y we.
Ddiwedd Chwefror, fe wnaeth Ioan Humphreys o Garno annerch miloedd o ffermwyr mewn rali ger y Senedd ym Mae Caerdydd.
Yn ddiweddarach, fe feirniadodd y sylwebydd gwleidyddol dadleuol Katie Hopkins wedi iddi gyhoeddi fideo ar gyfryngau cymdeithasol yn cefnogi protestiadau ffermwyr Cymru.
Dywedodd Mr Humphreys bod ffermwyr "am gael yr holl gefnogaeth bosib" ond ei fod yn teimlo "nad ei bwriad creiddiol oedd cefnogi ffermwyr Cymru".
Mae'n dweud nad yw hi "wedi sôn am ffermwyr" cyn y rali ym Mae Caerdydd bythefnos yn ôl.
"Ry'n ni am gael yr holl gefnogaeth bosibl ond dy'n ni ddim am i bobl wthio agendâu eraill gyda hynny," meddai Mr Humphreys.
"Dwi'n teimlo ei bod hi wedi dweud [yn y gorffennol] bod yr iaith Gymraeg yn farw a bod hi'n wastraff amser dysgu Cymraeg - ydy hi wir yn poeni am ffermwyr Cymru? Neu ydy hwn yn gyfle i bobl roi likes iddi?"
Ychwanegodd: "Ddylai hi dderbyn y feirniadaeth... mae ganddi enw oherwydd ei gorffennol a dwi'n meddwl bod y feirniadaeth yn deg."
Yn wyneb cyfarwydd fel un o gyflwynwyr rhaglen Ffermio, mae Alun Elidyr yn ffermio yn Rhydymain ger Dolgellau.
Mae'n cefnogi'r protestiadau diweddar: "'Da ni wedi cyrraedd lle o undod a chadernid ac mae isho cadw'r pwysau, trafod yn rhesymol a bod yn gymesur efo'n gofynion.
"A phrofi pam bod ni'n gofyn am newid i'r polisïau. Os allwn ni wneud hynny, mae llywodraeth resymol yn mynd i ymateb yn gadarnhaol achos nid lle unrhyw lywodraeth ydy gwneud bywyd ei dinasyddion yn salach."
Mae hefyd yn betrusgar bod rhai ffigyrau adnabyddus - gan gynnwys Katie Hopkins - yn ymwneud â'r ymgyrch.
"Os edrychwn ar un enghraifft o rywun sydd yn ddylanwadwr - Katie Hopkins - dangosodd hi gefnogaeth i'r ffermwyr ac roeddwn i wedi dychryn.
"Mae'n adnabyddus am gael barn hiliol, eithafol asgell dde, mae wedi ei gwahardd o wefan Twitter... yn y pen draw, dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n beth da i ni fel ffermwyr gael ein cysylltu gyda'r math yma o agweddau.
"Fy mhryder i yn y pen draw ydy bod ni'n gwahanu ein dadl a'n safbwyntiau drwy gysylltu â'r bobl allanol, ac yn y pen draw byddwn ni'n colli cefnogaeth y cyhoedd."
'Esgus i wthio safbwyntiau'
Er i'r BBC gysylltu â Katie Hopkins, ni ymatebodd hi i ofid y ffermwyr.
Ar ei chyfrifon ar wefannau cymdeithasol, dywedodd ei bod "o ffermio", bod ei merch yn ffermio a bod ganddi "hanes hir o gefnogi ffermwyr a pheryglu ei hun wrth wneud (De Affrica)".
Mewn datganiad, dywedodd Undeb Amaethwyr Cymru: "Yr ydym fel undeb o'r farn mai brwydr dros ddyfodol amaeth a chymunedau gwledig Cymru yw'r frwydr dros drefniadau effeithiol i gefnogi'r sector amaeth yn dilyn ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd.
"Ni ddylai unrhyw un sydd ag agenda wahanol fod yn defnyddio pryderon amaethwyr Cymru fel esgus i wthio safbwyntiau sydd a wnelo nhw ddim oll â dyfodol llwyddiannus i amaeth yng Nghymru."
Dywedodd NFU Cymru: "Mae'n amser tyngedfennol i amaeth yng Nghymru ac mae'n bwysig bod y materion pwysig yma yn cael sylw haeddiannol.
"Mae ffermwyr Cymru yn haeddu cael eu lleisiau wedi eu clywed yn glir heb i'w pryderon gael eu cyfuno gyda phwyntiau trafod eraill, boed hynny yn ddamweiniol neu fel arall."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd5 Mawrth
- Cyhoeddwyd28 Chwefror