Dim cynllun gofal yn achos Kaylea Titford - adolygiad

  • Cyhoeddwyd
Kaylea Titford
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kaylea Titford ei darganfod yn farw yn ei chartref ym mis Hydref 2020

Doedd dim cynllun gofal yn achos merch anabl yn ei harddegau a fu farw yn dilyn "esgeulustod brawychus", yn ôl adolygiad.

Bu farw Kaylea Titford, 16, yn ei chartref ym Mhowys fis Hydref 2020 mewn amodau aflan a gafodd eu disgrifio fel rhai "amhriodol ar gyfer unrhyw anifail".

Daeth yr adolygiad i'r casgliad bod sawl swyddog proffesiynol mewn cysylltiad â'r teulu ond nad oedd yr un person na chorff yn cydlynu gofal Kaylea.

Dywed y bwrdd diogelu lleol y bydd yn sicrhau bod gwasanaethau'n gwella.

Roedd Kaylea â'r cyflwr spina bifida, yn defnyddio cadair olwyn ac yn beryglus o ordew adeg ei marwolaeth gan bwyso 23 stôn.

Cafodd ei rhieni ddedfrydau o garchar am ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd - 10 mlynedd yn achos Alun Titford ac wyth mlynedd yn achos Sarah Lloyd-Jones.

'Anweladwy'

Fe gomisiynodd Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru (CYSUR) adroddiad i farwolaeth Kaylea, sy'n ei disgrifio fel "plentyn dygn" oedd yn "wynebu'r byd yng nghanol anghydraddoldebau iechyd a chymdeithasol cynyddol".

Fel plentyn ag anabledd, dywed yr adroddiad y dylai fod wedi cael asesiad ar gyfer cynllun gofal a chefnogaeth, ac yn niffyg hynny roedd anghenion y teulu'n "anweladwy" i'r cyngor.

Roedd natur ofidus dioddefaint diangen a marwolaeth Kaylea yn "wirionedd anochel", mae'n dweud, a chyflwr ei chorff yn arwydd o esgeulustod cronig.

Mae'n nodi pryderon sylweddol ynghylch ei hamodau byw budr a blêr, a "sioc, gofid a dicter" ynghylch yr hyn yr aeth Kaylea drwyddo yn ei misoedd olaf.

Ffynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys
Disgrifiad o’r llun,

Fe gafodd rhieni Kaylea - Alun Titford a Sarah Lloyd Jones - ddedfrydau hir o garchar am ddynladdiad trwy esgeulustod dybryd

Ar ddechrau 2019, roedd record presenoldeb Kaylea yn yr ysgol yn 98% ond fe waethygodd ei phroblemau iechyd yn y misoedd canlynol.

Cododd ei rhieni bryderon gan fynd â hi i apwyntiadau meddygol, er nad oedd yn gyson yn bresennol yn ystod rheiny.

Roedd ganddi lid yr isgroen (cellulitis) a lymffoedema - cyflwr cronig sy'n achosi chwyddo.

Erbyn Tachwedd 2019, roedd hi ond yn yr ysgol 70% o'r amser.

Fe amlinellodd ei rhieni ei phroblemau iechyd wrth staff mewn cyfarfodydd, gan ddweud hefyd bod Kaylea wedi cael ei bwlio yn yr ysgol.

Yn dilyn cwnsela anffurfiol fe gododd ei phresenoldeb i 82%, ond pan darodd y pandemig, fel plentyn bregus, roedd yn rhaid i Kaylea hunan-ynysu.

Doedd dim asesiad, medd yr adroddiad, o'r tebygolrwydd iddi ddioddef niwed sylweddol o ganlyniad i hynny.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kaylea wedi mynd yn ordew i raddau peryglus cyn ei marwolaeth

Oherwydd y "dystiolaeth o'r ffordd y bu farw" daw'r adroddiad i'r casgliad bod "effaith gyfrannol cwarantîn hir yn luosog a chymhleth, gan waethygu ei bregusrwydd a lleihau'r gefnogaeth yr oedd yn dibynnu arni".

Siaradodd yr ysgol â theulu Kaylea'n wythnosol rhwng Ebrill a Gorffennaf 2020 ac yn ddyddiol wedyn gyda'i mam rhwng 3 Medi a 9 Hydref 2020 - y diwrnod cyn i Kaylea farw.

Ers hynny mae'r ysgol wedi cryfhau'r camau gweithredu.

Er gwaethaf trafodaethau swyddogion iechyd ynghylch pwysau Kaylea, doedd yna fawr o ystyriaeth pa bryd roedd angen eu ystyried fel mater o ddiogelwch plentyn, medd yr adroddiad.

Doedd dim cyfeiriad at ei phwysau yn 2019 na 2020.

Dim cydlynu cyson

Dywed yr adolygiad hefyd y dylid fod wedi cynllunio gwasanaethau wrth i Kaylea gyrraedd ei llencyndod.

Roedd modd rhagweld ei hanghenion, meddai, ond doedd dim cydlynu cyson o ran gwasanaethau posib ar ei chyfer ar ôl i Kaylea gael ei rhyddhau o Wasanaeth Anabledd Integredig Powys yn 2017.

"Ni ddylid ryddhau plentyn ag anableddau sylweddol a chronig fel spina bifida o wasanaethau os yw hynny'n cyfyngu ar y gefnogaeth [wrth symud o] ofal pediatreg i ofal oedolion," medd yr adroddiad.

Pe byddai cynllun gofal a chefnogaeth wedi bod ar gael, fe allai hi a'i rhieni fod wedi cael cefnogaeth gwasanaethau oedolion, ychwanegodd.

Mae'n argymell bod cynghorau'n cynnig asesiadau gofal a chefnogaeth yn gyson, a bod yr awdurdod lleol a'r bwrdd iechyd yn adolygu'r systemau ar gyfer plant ag anableddau cronig.

Dywed Bwrdd Diogelu Canolbarth a Gorllewin Cymru (CYSUR) y bydd yn goruchwylio cynllun gweithredu, a'u bod yn ymroi i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu a bod gwasanaethau'n gwella.

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Cyngor Sir Powys, Bwrdd Iechyd addysgu Powys a Heddlu Dyfed-Powys bod yr adolygiad yn gyfle i ystyried a rhannu'r gwersi o'r achos.