Ymestyn dedfryd carchar rhieni Kaylea Titford

  • Cyhoeddwyd
Alun Titford a Sarah Lloyd JonesFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed Powys

Mae dedfryd rhieni gafodd eu canfod yn euog o ddynladdiad eu merch drwy esgeulustod difrifol wedi cael ei hymestyn.

Yn gynharach eleni cafodd Alun Titford, 45, ddedfryd o saith mlynedd a chwe mis yn y carchar, ac fe gafodd Sarah Lloyd-Jones, 40, ddedfryd o chwe blynedd, am achosi marwolaeth Kaylea Titford.

Bu farw Kaylea yn ei chartref yn Y Drenewydd ym mis Hydref 2020 ar ôl mynd yn ordew i raddau peryglus.

Mae defryd Alun Titford nawr wedi ei hymestyn i 10 mlynedd o garchar, tra bod Sarah Lloyd-Jones nawr yn wyth mlynedd.

'Amodau anaddas i anifail'

Wrth wrando ar yr achos, dywedodd barnwyr yn y Llys Apêl fod amgylchiadau marwolaeth Kaylea Titford yn rhai "eithafol".

Dywedodd William Emlyn Jones KC, ar ran Swyddfa'r Twrnai Cyffredinol, fod hynny oherwydd "cyfuniad o hyd yr esgeulustra, natur dioddefaint hir y dioddefwr, pa mor fregus oedd hi a'i dibyniaeth lwyr ar ofal gan ei rhieni, a'r amodau erchyll y cafodd ei gadael ynddynt, ac y bu farw ynddynt".

Gwyliodd Lloyd-Jones o gyswllt fideo o'r carchar, ond doedd Titford ddim yn bresennol, wrth i'r tri barnwr ymestyn eu dedfrydau.

Fe wnaeth manylion yr achos llys gwreiddiol ffieiddio llawer o bobl, gyda sefydliadau fel yr NSPCC yn dweud wedi hynny fod angen "troi pob carreg" er mwyn dysgu gwersi o'r farwolaeth a gwarchod plant eraill.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Kaylea Titford ei darganfod yn farw yn ei chartref ym mis Hydref 2020

Yn ystod yr achos clywodd y llys bod Kaylea Titford yn byw mewn amodau fyddai'n "anaddas ar gyfer unrhyw anifail", a bod ei chorff wedi ei ganfod yn gorwedd ar ddillad gwely budr, gyda chynrhon (maggots) a phryfed arni.

Roedd ganddi gyflwr spina bifida, a chanddi nifer o ddoluriau oedd wedi eu heintio pan fu farw.

Wrth ddedfrydu'r rhieni yn Llys y Goron yr Abertawe fis Mawrth, dywedodd y barnwr Mr Ustus Griffiths fod yr esgeulustod yn un parhaus.

"Roedd hwn yn achos arswydus - achos o esgeulustod parhaus wnaeth arwain at farwolaeth plentyn oedd yn gwbl ddibynnol, yn gaeth i'r gwely, ac yn anabl a hynny drwy law ei rhieni," meddai.

Ffynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Kaylea wedi mynd yn ordew i raddau peryglus cyn ei marwolaeth

Ychwanegodd y barnwr nad oedd yn derbyn safbwynt Alun Titford mai Sarah Lloyd-Jones oedd yn bennaf gyfrifol am edrych ar ôl Kaylea.

Cafodd Lloyd-Jones ddedfryd lai o garchar, am iddi bledio'n euog i'r cyhuddiad yn ei herbyn.

Yn gynharach fis Mai daeth i'r amlwg bod 32 adolygiad bellach ar y gweill i farwolaethau plant, neu blant sydd wedi eu hanafu'n ddifrifol, o ganlyniad i gamdriniaeth neu esgeulustod yng Nghymru.

Daw hynny yn sgil sawl achos diweddar o farwolaethau plant a gafodd eu cam-drin neu eu hesgeuluso, gan gynnwys Kaylea Titford, Lola James a Logan Mwangi.

Pynciau cysylltiedig