Cais i greu parc trampolinio mewn hen siop yn Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Gallai hen siop Debenhams yn Wrecsam gael bywyd newydd fel parc trampolinio fel rhan o gynlluniau newydd.
Fe gaeodd y siop yng nghanolfan siopa Dôl yr Eryrod yn Wrecsam bron dair blynedd yn ôl, wedi i'r cwmni stryd fawr fynd i ddwylo gweinyddwyr.
Bu'r uned fawr yn wag ers Mai 2021, ond mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno i ddefnyddio rhan o'r adeilad ar gyfer pwrpas hamdden.
Mae dogfennau sydd wedi'u cyflwyno i Gyngor Wrecsam yn dangos fod perchnogion y safle wedi bod yn trafod gyda chwmni sydd â diddordeb troi llawr cynta'r adeilad yn barc trampolinio i blant.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o siopau yng nghanolfan Dôl yr Eryrod wedi cau, gyda'r ergyd ddiweddaraf yn dod wrth i Marks and Spencer symud oddi yno i safle parc manwerthu Plas Coch tua diwedd 2023.
Ond mae asiant ar ran y cwmni sy'n rhedeg y safle, Wrexham Shopping Mall Ltd, yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd denu mwy o fusnesau hamdden yn adfywio'r lle a chreu swyddi.
Llenwi bylchau mawr
Pan aeth cwmni Debenhams i'r wal, fe wnaeth hynny gael effaith fawr ar ganol nifer o drefi ar draws Cymru.
Roedd siopau'r cwmni yn rhan ganolog o drefi fel Wrecsam, Bangor a Chaerfyrddin, ac mae'n gur pen i awdurdodau lleol sut i lenwi'r bylchau.
Yng Nghaerfyrddin, mae'r cyngor sir - mewn partneriaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Cymru, y Drindod Dewi Sant - wedi penderfynu prynu hen adeilad Debenhams er mwyn ei ail-ddatblygu at bwrpas cwbl newydd.
Fe fydd £15m yn dod o Gronfa Codi'r Gwastad Llywodraeth y DU, ynghyd â £3.5m o goffrau'r cyngor, i ddatblygu canolfan aml-bwrpas fydd yn cyfuno gwasanaethau'r cyngor, iechyd, llesiant dysgu gydol oes a diwylliant.
Pan ddaeth y cyhoeddiad yna, dywedodd y Dirprwy Weinidog dros newid hinsawdd, Lee Waters, fod angen "ymyrraeth radical" i achub canol trefi, gan annog cydweithio, dychymyg ac "arweinyddiaeth uchelgeisiol".
"Mae'r ffordd ni'n siopa wedi newid am byth, dwi'n siŵr. Mae'n rhaid i ni ailfeddwl pwrpas canol y dref," meddai.
Cynnal y ganolfan
Yn ôl yn Wrecsam, dywedodd asiant ar ran y datblygwyr mewn datganiad: "Mae'r uned wag sylweddol yma yn cynrychioli tua 32% o'r gwagle yn Nôl yr Eryrod.
"Gydag effaith negyddol y newid mewn manwerthu brics a mortar, mae pwyslais newydd ar ddenu tenantiaid hamdden, gyda pheth llwyddiant.
"Mae'r cynllun yn cynnig cyfle gwych i gyflwyno defnydd hamdden o fewn Canolfan Siopa Dôl yr Eryrod, ac ein gobaith yw creu mwy o ddiddordeb yn y ganolfan o fewn y ddinas gyfan."
Bydd Cyngor Wrecsam yn gwneud penderfyniad ar y cais ar ddyddiad i'w gadarnhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Ebrill 2023
- Cyhoeddwyd15 Chwefror 2022
- Cyhoeddwyd20 Mawrth 2023
- Cyhoeddwyd25 Hydref 2022