Cymru 'ddim yn cael chwarae teg gan ddarlledwyr'
- Cyhoeddwyd
"Nid yw Cymru'n cael chwarae teg gan ddarlledwyr" ym marn un o bwyllgorau Senedd Cymru.
Mae adroddiad newydd gan y Pwyllgor Diwylliant ym Mae Caerdydd yn galw ar y darlledwyr cyhoeddus i wneud mwy, gan awgrymu bod gwylwyr yng Nghymru yn "haeddu gwell".
Maen nhw'n dweud bod angen mwy o arian a sicrwydd i S4C, i'r BBC wario lefelau tebyg o arian ar gynnwys teledu yng Nghymru ag yn Yr Alban, ac i ITV gynhyrchu mwy o gynnwys yng Nghymru.
Dywed y darlledwyr y byddan nhw'n ymateb i'r adroddiad maes o law.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, Delyth Jewell: "Mae'n amlwg nad yw Cymru'n cael chwarae teg gan ein darlledwyr.
"Mae'n ofynnol i'r BBC, ITV ac S4C wasanaethu gwylwyr Cymreig a'r rhai sy'n talu ffi'r drwydded mewn gwahanol ffyrdd, ond mae'n amlwg nad ydyn nhw'n cyflawni'n llawn yr hyn a ddisgwylir ar hyn o bryd."
Mae'r adroddiad yn dweud bod angen mwy o arian ar S4C, a fformiwla ariannu a fyddai'n rhoi sicrwydd iddi ac yn ei helpu i gynllunio'n well at y dyfodol.
Mae'n nodi fod trefniant ariannu'r sianel "wedi newid deirgwaith yn ystod y 15 mlynedd diwethaf" a bod ei chyllid gan Lywodraeth y DU wedi gostwng "dros 30% mewn termau real" ers 2010.
Mae'n dadlau bod y setliad ariannu yma'n "cyfyngu'n ddifrifol ar y darlledwr... ar adeg pan fo angen ehangu i ddarparu gwasanaethau ar draws llwyfannau darlledu ac ar-alw".
Byddai rhoi mwy o arian, mae'n dadlau, yn helpu S4C i gyflawni ei gwaith fel darlledwr cyhoeddus, ac yn cefnogi'r ymgais i sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae'r pwyllgor hefyd yn galw ar S4C "i sicrhau dosbarthiad mwy cyfartal o'i gwariant drwy Gymru", gan nodi mai yn y de y mae'r rhan fwyaf o'r gwariant ar hyn o bryd.
Ychwanegodd bod S4C "yn cydnabod bod angen iddi wneud mwy a bydd y Pwyllgor yn monitro'r sefyllfa".
Dywedodd llefarydd ar ran S4C eu bod yn gwerthfawrogi'r "gefnogaeth drawsbleidiol i sicrhau dyfodol cynaliadwy i S4C.
"Ers ei sefydlu, mae S4C wedi chwarae rhan allweddol wrth ysgogi'r gadwyn gref o gwmnïau cynhyrchu annibynnol sydd wedi eu sefydlu ar draws Cymru.
"Rydym yn falch iawn o fod â'n pencadlys yng Nghaerfyrddin, o fod yn rhan o'r gwaith o sefydlu Stiwdio Aria yn Llangefni, ac yn falch hefyd o'r gwaith cynhyrchu a ffilmio sydd yn digwydd ym mhob cwr o'r wlad."
Yn achos y BBC, dywedodd Ms Jewell: "Ni all fod yn iawn bod y BBC yn gwario dwywaith cymaint ar gynnwys Saesneg yn Yr Alban ag y mae'n ei wario yng Nghymru - mae talwyr ffi'r drwydded yng Nghymru yn haeddu gwell.
"Rydym yn galw am gynnydd o flwyddyn i flwyddyn yn y gwariant hyd nes y bydd cydraddoldeb â'r Alban."
Dywedodd llefarydd ar ran BBC Cymru bod yr adroddiad yn "dangos buddsoddiad cynyddol y Gorfforaeth mewn cynnwys wedi ei gynhyrchu yng Nghymru a sut mae'r genedl yn elwa o'r penderfyniad i symud mwy o gynyrchiadau y tu hwnt i Lundain.
"Eleni, mae buddsoddiad yn radio'r rhwydwaith a gynhyrchir yng Nghymru wedi dyblu. Eleni hefyd yw'r flwyddyn fwyaf o ddrama o Gymru ar y BBC.
"Mae'r BBC hefyd yn falch o fod wedi gweld cynnydd sylweddol o flwyddyn i flwyddyn yng nghynulleidfaoedd i gynnwys BBC Cymru ar BBC iPlayer, Sounds a Newyddion ar-lein, ac o fod wedi cefnogi oriau estynedig o ddarlledu dros y misoedd diwethaf ar Radio Cymru 2."
Gan alw i sicrhau bod ITV yn cynhyrchu mwy o'i gynnwys yng Nghymru, mae'r adroddiad yn nodi bod gwariant rhwydwaith ITV ar gyfer DU, yn ôl data'r rheoleiddiwr Ofcom, wedi "plymio i bron i 0%" yng Nghymru yn 2022.
Yn y blynyddoedd diwethaf, roedd y ffigwr oddeutu 5%.
Dywedodd pennaeth newyddion a rhaglenni ITV Cymru Wales, Phil Henfrey eu bod yn edrych ymlaen at weithio gyda'r pwyllgor "i sicrhau bod darlledu cyhoeddus masnachol yng Nghrymu'n parhau i fod yn gynaliadwy".
Ychwanegodd bod ITV "yn gwneud cyfraniad pwysig i ddarlledu a bywyd cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys rhoi dewis amgen i'r BBC o ran newyddion a materion cyfoes yn Saesneg a Chymraeg, gan ddenu cynulleidfa dorfol".
Ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru fore Llun, dywedodd Cadeirydd Teledwyr Annibynnol Cymru (TAC) fod yr adroddiad yn "profi'r hyn yr oedden ni'n ei wybod yn barod".
"Dwi ddim yn credu bod 'na chwarae teg... wrth gwrs byddai'r darlledwyr yn dweud bod diffyg arian, ond os y'ch chi'n edrych ar ganfyddiadau'r adroddiad fe welwch chi fod tipyn llai, ar gyfartaledd, yn cael ei wario gan ITV a'r BBC yng Nghymru ar raglenni Cymraeg a rhaglenni Saesneg na'r hyn sy'n cael ei wario mewn rhanbarthau eraill.
"Mae'n rhaid i ni gofio fod y sector darlledu a chreu a chynhyrchu cynnwys yng Nghymru yn sector sy'n tyfu, ac mae'n ddiddorol ac yn dda o beth fod Llywodraeth Cymru yn gweld hwn fel sector all ddenu mwy o fuddsoddiadau i dyfu fwy fyth."
Mae'r pwyllgor hefyd yn cytuno ag awgrym y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru y dylai llywodraethau Cymru a'r DU "gytuno ar fecanweithiau ar gyfer llais cryfach i Gymru ar bolisi darlledu, craffu ac atebolrwydd".
Mae'n galw am i'r Senedd gael cynnal gwrandawiadau cyn penodi ymgeiswyr sy'n cael eu ffafrio i gynrychioli Cymru ar fyrddau Ofcom a'r BBC, neu i gael eu penodi'n gadeirydd ar S4C.
Ar ben hynny maen nhw'n dweud y dylai fod yn ofynnol i Lywodraeth y DU gael cytundeb Llywodraeth Cymru wrth benodi Cadeirydd S4C.
'Rhaid sicrhau gwasanaeth priodol'
Gan bwysleisio rôl bwysig darlledu o ran "portreadu a llunio hunaniaeth Gymreig" a chryfhau democratiaeth, dywedodd Ms Jewell bod hi'n "hanfodol inni gael hyn yn iawn ar gyfer y dyfodol" mewn cyfnod o newid mawr yn y sector.
Ychwanegodd eu bod "yn galw ar ddarlledwyr, llywodraethau a rheoleiddwyr i dderbyn ein hargymhellion a gwneud yn siŵr bod pobl yng Nghymru yn cael gwasanaeth priodol oddi wrth y darlledwyr maen nhw'n cyfrannu atyn nhw ac yn dibynnu arnyn nhw."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Diwylliant Llywodraeth y DU bod y BBC yn gyfrifol am eu penderfyniadau gwariant, ond bod disgwyl i'r gorfforaeth ddarparu gwasanaeth effeithiol i wylwyr ar draws y DU.
Ychwanegodd bod S4C, ers setliad y drwydded yn 2022, wedi derbyn ei holl incwm - £88.9m - o'r drwydded.
Mae hynny, meddai, "yn setliad teg sy'n cefnogi S4C o ran darparu cynnwys Cymraeg o safon uchel ac yn cefnogi ei rôl o ran tyfu'n diwydiannau creadigol yng Nghymru".
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Mawrth
- Cyhoeddwyd29 Chwefror
- Cyhoeddwyd3 Ionawr