Ymgyrch gymunedol i brynu marina'r Felinheli wedi methu
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrch i geisio prynu marina'r Felinheli ar gyfer y gymuned wedi cael gwybod bod y cais heb lwyddo.
Mewn chwech wythnos fe gododd Menter y Felinheli £127,000 yn y gobaith o brynu'r safle a aeth i ddwylo'r gweinyddwyr y llynedd.
Roedd trefnwyr yr ymgyrch wedi bod yn aros am ateb i'w cynnig ers cyn y Nadolig.
Maen nhw nawr wedi cael gwybod taw consortiwm o Sir Gaer fydd yn berchen ar y marina yn y pentref arfordirol rhwng Caernarfon a Bangor.
Mae'n fwriad nawr i gynnal cyfarfod cyhoeddus "i esbonio'r ffordd ymlaen" i gefnogwyr y fenter ac i ystyried a oes modd buddsoddi'r arian a gafodd ei godi mewn prosiectau eraill yn pentref.
Mewn datganiad ddydd Sul dywedodd trefnwyr y fenter fod "llythyr wedi ei anfon gan reolwr y marina i berchnogion cychod ar y safle yn dweud mai cynnig gan grŵp The Waterside Consortium o Sir Gaer sydd wedi llwyddo".
Gan ddisgrifio eu cynnig eu hunain fel un "beiddgar", maen nhw nawr yn apelio ar y "cannoedd o bobol sydd wedi cyfrannu... i gadw eu buddsoddiad yn y Fenter" tra eu bod yn "datblygu cynlluniau eraill ar gyfer buddsoddi yn y pentref".
Ar ben cyfraniadau 386 o fuddsoddwyr gwahanol, roedd yn fwriad i geisio am grantiau a benthyciadau er mwyn gwireddu eu cynlluniau.
"Mi rydan ni'n siomedig ofnadwy, wrth gwrs," dywedodd Huw Watkins, un o arweinwyr y cynllun.
"Fe fyddai perchnogaeth gymunedol o'r marina wedi bod yn gaffaeliad anhygoel i'r pentref.
"Fe fyddai'r holl elw o'r safle yn cael ei ddefnyddio er budd y gymuned - ond fe all pawb sydd wedi ymwneud â'r ymgyrch fod yn falch iawn o'r gwaith mae nhw wedi wneud.
"Fe allwn ni hefyd fod yn fodlon ein bod ni wedi gweithio'n tu hwnt o galed ac wedi cyflwyno cynnig teg a rhesymol am y safle."
Dyma, medd Menter Felinheli, oedd y tro cyntaf i fenter gymdeithasol yng Nghymru a Lloegr geisio prynu marina.
"Mae'n galonogol bod llawer o fentrau eraill ar hyd a lled y wlad yn edrych ar be wnaethon ni a gofyn sut gallan nhw hefyd fod yn fwy beiddgar," dywedodd un arall o'r arweinwyr, Gwyn Roberts.
"Felly, er na lwyddon ni y tro yma, mae'n galondid y gall ein hymgyrch fod yn sbardun i gymunedau ar draws Cymru i fod yn fwy uchelgeisiol ac edrych eto ar be allan' nhw gyflawni yn ei hardaloedd nhw."
Yn ôl un arall o drefnwyr yr ymgyrch, y digrifwr a'r cyflwynydd Tudur Owen, maen nhw eisoes wedi dechrau edrych ar opsiynau eraill ac yn awyddus i glywed gan unrhyw un sydd â syniadau i'w cynnig.
"Nid i brynu'r marina yn unig wnaethon ni ffurfio'r Fenter," meddai. "Ein bwriad ni o'r cychwyn cyntaf oedd creu a hyrwyddo prosiectau lleol fyddai'n elwa'r pentre', a dyna ydi'n bwriad ni o hyd.
"Mae'r marina wedi mynd rŵan, ond rydan ni eisoes yn meddwl be arall allwn ni wneud yma.
"Mae mentrau cymunedol ar hyd a lled Cymru wedi datblygu pob math o gynlluniau cyffrous i wella ei hardaloedd nhw - a dyna fyddwn ni'n wneud hefyd.
"Fe fyddai prynu'r marina wedi bod yn gam cyntaf gwych i'r fenter - ond rŵan mae'n rhaid meddwl am opsiynau eraill a dyna rydan ni'n wneud."
Dywedodd Alun Meirion, pedwerydd cyfarwyddwr y fenter: "Pob lwc i'r perchnogion newydd yn eu hymdrechion i redeg y busnes mewn safle pwysig iawn i'r pentref.
"Diolch o galon i bawb sydd wedi ein cefnogi. O unigolion sydd wedi cyfrannu punnoedd prin i Gyngor Gwynedd oedd wedi cymeradwyo benthyciad o filiwn o bunnoedd i ni, mae'r holl gefnogaeth wedi'n hysbrydoli.
"Ac er na fyddwn rŵan yn prynu'r marina, fe fydd yr arian yn cael ei ddefnyddio ar gyfer dibenion gwerth chweil eraill yn yr ardal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd21 Rhagfyr 2023
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd3 Awst 2023