Gofalwr wedi gadael y maes i ennill mwy yn gyrru lori
- Cyhoeddwyd
Mae un gweithiwr yn dweud iddo adael y sector gofal cymdeithasol er mwyn ennill £10,000 y flwyddyn yn fwy fel gyrrwr lori.
Dywedodd Dan White, 40 o Fro Morgannwg, ei fod yn hoff iawn o'i hen swydd yn cefnogi oedolion bregus.
Roedd ei bartner Yoana Peacock hefyd yn arfer gweithio i'r GIG mewn theatrau llawdriniaeth.
Ond mae'r ddau wedi gadael eu swyddi gyda'r gwasanaeth iechyd er mwyn cael gwell tâl.
Mae gweithwyr y GIG wedi bod yn streicio dros y misoedd diwethaf er mwyn ceisio sicrhau gwell cyflogau ac amodau gwaith, gyda rhagor i ddod.
Dywedodd Llywodraeth Cymru ei bod yn cydnabod "ymroddiad diflino" staff y GIG, a'i bod wedi ymrwymo i wella amodau i staff gofal.
'Byddwn i'n mynd 'nôl yfory'
Wedi i yntau fod yn gaeth i gyffuriau yn ei ugeiniau, cafodd Dan ei ysbrydoli i weithio gyda'r rheiny sy'n ddigartref neu'n gaeth i alcohol a chyffuriau.
"Fe wnaeth y bobl nes i gyfarfod wrth i mi wneud sawl ymdrech i stopio fy ysbrydoli," meddai.
"Fe wnes i sylweddoli 'mod i'n angerddol am hyn, a hyn oedd yn fy ysgogi."
Bu'n gweithio mewn ysbyty dros y ffin yn Lloegr, ond dywedodd ei fod wedi penderfynu gadael y swydd oherwydd pwysau gwaith a thâl isel.
"Yn y swydd yna, hyd yn oed cyn yr argyfwng costau byw, ro'n i'n ei chael hi'n anodd," meddai Dan.
"Weithiau fe fyddwn i'n gwneud y siopa bwyd wythnosol ar gerdyn credyd ac yn ei dalu ffwrdd y mis wedyn, ond roedd hynny wedyn yn fy rhoi ar y droed ôl ar gyfer y mis nesaf."
Dywedodd fod y swydd yn "rhoi lot o foddhad" iddo, gan ychwanegu: "Pe bydden i'n gallu gwneud yr un arian â'r hyn rwy'n ei wneud yn gyrru lori, yn gwneud y swydd yna, fe fyddwn i'n mynd 'nôl yfory."
Beth yw'r problmau sy'n wynebu'r GIG?
Mae nifer o'r problemau sy'n wynebu'r gwasanaeth iechyd yn cael ei feio ar ddiffyg staff gofal cymdeithasol.
Ar gyfartaledd mae tua 1,200 o gleifion yn ysbytai Cymru yn disgwyl am becyn gofal neu asesiad cyn bod modd eu rhyddhau.
Mae hyn wedi arwain at fwy o oedi nag erioed mewn adrannau brys ac ambiwlansys, am nad oes gwelyau ar gael i gleifion sydd angen eu derbyn i'r ysbyty.
Nid achosion brys yn unig sy'n teimlo'r effaith, gyda dros hanner miliwn o gleifion yng Nghymru'n aros am driniaethau sydd wedi'u trefnu o flaen llaw, ond mae'r pwysau ar y GIG yn cyfyngu ar y nifer sy'n cael eu gweld.
Un sy'n gyfarwydd iawn â'r problemau ydy partner Dan, Yoana Peacock, 39.
Mae hi'n gweithio mewn rôl nyrsio mewn theatrau llawdriniaeth - un ai yn cefnogi'r llawfeddyg, yr anesthetydd, neu ar y ward yn helpu cleifion i wella.
Yn wreiddiol o Fwlgaria, dechreuodd weithio i'r GIG yn Lloegr yn 2003, ond fe adawodd yn 2015 i wneud yr un swydd - am fwy o arian - yn y sector preifat yng Nghaerdydd.
'Mwy o dâl a llai o bwysau'
"Ro'n i'n arfer gweithio mewn ysbyty cyffredinol mawr. Roedd e'n adran chaotic," meddai Yoana.
"Roedd gennym ni reolwr newydd pob rhyw chwe mis, felly doedd staff ddim yn cael eu cefnogi.
"Doedd yr adran ddim yn cadw staff, a doedd 'na ddim digon o bobl yn gweithio yno.
"Yn y sector preifat dyw cadw staff ddim i weld yn broblem, a phan mae gennych chi staffio llawn mae popeth yn gweithio'n llyfn."
A hithau'n fam i ferch yn ei harddegau a mab 10 mis oed, dywedodd fod ganddi gydbwysedd llawer gwell rhwng gwaith ac amser gyda'i theulu ers gadael y GIG.
"Rwy'n cael mwy o dâl a dyw'r shiffts ddim mor stressful ag oedden nhw yn y GIG," meddai.
Swyddi gwag er gwaethaf buddsoddiad
Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn amcangyfrif bod 3,000 o swyddi nyrsio yn wag yng Nghymru.
Gydag angen cyfreithiol i sicrhau lefelau staffio diogel ar wardiau, mae nifer o'r swyddi hynny yn cael eu llenwi gan staff sy'n gweithio oriau hir, neu staff asiantaeth.
Yn y flwyddyn ddiwethaf fe wnaeth GIG Cymru wario dros £260m ar staff asiantaeth - cynnydd o draean o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod "mwy o staff yn gweithio i GIG Cymru nag erioed o'r blaen".
"Eleni ry'n ni'n buddsoddi mwy nag erioed - £281m - ar hyfforddiant, a bydd bron i 400 yn rhagor o lefydd i hyfforddi nyrsys yn cael eu creu diolch i'r 8% o gynnydd ry'n ni'n ei roi i gyllideb hyfforddiant GIG Cymru," meddai.
Ychwanegodd fod y llywodraeth wedi ymrwymo i wella amodau i weithwyr gofal, gan ddweud eu bod yn buddsoddi £70m er mwyn sicrhau fod pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol fel isafswm.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd3 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd8 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2023
- Cyhoeddwyd31 Rhagfyr 2022
- Cyhoeddwyd12 Ionawr 2023