Stori y rhedwr o Gwmaman, Ron Jones

Ron gyda'i arwr Ken Jones wedi i Ron ennill ei wythfed deitl 100m gan guro record yr athletwr Ken Jones yn 1970Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Ron gyda'i arwr, yr athletwr Ken Jones, wedi i Ron ennill ei wythfed teitl yn rhedeg 100m gan guro record Ken yn 1970

  • Cyhoeddwyd

“Anaml y byddwn i’n cerdded os o’n i’n gallu rhedeg, ac yn aml o’n i’n gwibio mor gyflym â phosib. Ro’n i’n mwynhau teimlo’r pŵer yn fy nghoesau yn curo’r ddaear wrth iddo basio’n gyflym o dan fy nhraed.”

Dyma ddisgrifiad y rhedwr o Gwmaman, Ron Jones, o’i blentyndod.

Ond nid rhedwr cyffredin oedd Ron - aeth ymlaen i osod 28 record sbrintio Cymreig, ennill 12 teitl Cymreig, cystadlu mewn pedair o Gemau'r Gymanwlad a dwy Gêm Olympaidd. Roedd yn gapten tîm athletau Prydain yng Ngemau Olympaidd Mecsico yn 1968.

Yn ystod y cyfnod clo penderfynodd Ron ysgrifennu ei hunangofiant gan lwyddo i orffen stori ei fywyd, Running Through my Life, ddyddiau cyn iddo farw yn 87 mlwydd oed yn Rhagfyr 2021.

Mae Cymru Fyw wedi siarad gyda’i weddw, Linda Chamberlain-Jones, am fywyd un o fawrion athletau Cymru a’r un oedd yn dal record sbrint 100m Cymru am bron i 22 o flynyddoedd.

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Ron gyda thîm ras gyfnewid 4x110 llathen Prydain a gurodd America a chipio record y byd yn 1963. Chwith i dde: Ron Jones, Peter Radford, David Jones a Berwyn Jones

Mae Linda’n disgrifio’r broses o fynd nôl dros fywyd ei gŵr fel ‘llafur cariad’.

“Dylai ei stori gael ei hadrodd fel ei bod ar gael i bawb,” meddai.

“Mae Running Through My Life nid yn unig yn sôn am hanes Ron yn y byd chwaraeon ond hefyd yr heriau a wynebodd a bu’n rhaid iddo oresgyn er mwyn cystadlu ar lwyfan y byd.

“Cyflawnodd gymaint ar y lefel uchaf gydag ychydig iawn o help. Arferai hyfforddi a chystadlu o gwmpas swydd llawn amser, ac am nifer o flynyddoedd, nid oedd ganddo drac rhedeg i hyfforddi arno.

“Mae hyn yn dyst i gryfder ei gymeriad, ei benderfyniad, a’r oriau di-ri o waith caled.”

Ganed Ron yn 1934 yng Nghwmaman ger Aberdâr. Yn ôl Linda: “Roedd yn fywyd caled yn tyfu i fyny mewn teulu glofaol heb unrhyw arian i'w sbario.

“’Nath hynny roi’r tân yn ei fola i fod eisiau llwyddo. Doedd e ddim yn sylweddoli bod rhedeg yn dalent pan oedd e’n fachgen. Roedd yn hoff iawn o'r teimlad o redeg – doedd e ddim yn cerdded os allai redeg.”

Aeth Ron i ysgol ramadeg Aberdâr ar ôl pasio ei 11+ a chafodd wersi Addysg Gorfforol yno am y tro cyntaf a sylweddoli’n fuan mai fe oedd y cyflymaf yn yr ysgol.

Dyna pryd y dechreuodd ei stori fel rhedwr.

Gwreiddiau

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Croeso mawr yng Nghwmaman wrth i Ron ddychwelyd o'r Gemau Olympaidd lle oedd wedi bod yn cystadlu fel capten tîm athletau Prydain

Mae Linda’n dweud fod ei wreiddiau yn ddylanwad arno drwy ei fywyd, yn arbennig pan oedd yn gweithio gydag elusennau i gefnogi plant o gefndiroedd amrywiol i gymryd rhan mewn chwaraeon: “Roedd yn siarad am ei athletau a beth oedd e wedi ei gyflawni er mwyn cael pobl i ddeall bod angen iddynt gefnogi plant o gefndiroedd fel hyn.

“Roedd yn aml yn dweud fod ei dad, oedd yn löwr o Gwmaman, yn dweud wrtho, ‘Don’t be a bighead son.’ Rhywbeth oedd yn nodweddiadol o’r Cymoedd a wnaeth aros gyda fe.”

Mae stori bywyd Ron yn cynnig cipolwg unigryw ar hanes athletau ym Mhrydain, yn arbennig y ffaith fod athletwyr ar y pryd yn gweithio mewn swyddi eraill ac yn hyfforddi yn eu amser hamdden.

Ar ôl ei ddyddiau ysgol bu Ron yn rhedeg ac yn cystadlu tra’n gweithio yn yr RAF.

Meddai Linda: “Daeth Ron allan o’r RAF yn benderfynol fod e’n mynd i gystadlu dros Gymru.

“Ac mi wnaeth e gyflawni hynny yn 1958 pan redodd yng Ngemau’r Gymanwlad. Roedd e’n hyfforddi ar gaeau pêl-droed a chaeau anwastad achos doedd ganddo ddim clwb athletau na thrac rhedeg.”

Ond yn y cyfnod yma cafodd gyngor gan Bernard Baldwin, yr athletwr wnaeth gychwyn y ras Nos Galan yn Aberpennar, i ymuno â chlwb rhedeg.

Ac felly ymunodd gyda’r Roath Harriers yng Nghaerdydd oedd yn ymarfer ym Maindy.

Dywedodd Linda: “Roedd Ron dim ond yn gallu fforddio’r tocyn o Aberdâr i Gaerdydd unwaith yr wythnos, ac felly dim ond un noson yr wythnos oedd e’n hyfforddi ar drac rhedeg.”

O ganlyniad i hyn wnaeth Ron fynd i Ilford i weithio er mwyn byw’n agosach at drac rhedeg.

Meddai Linda: “Doedd dim hyfforddwr rhedeg ganddo, ddim hyd yn oed ar gyfer Gemau’r Gymanwlad.

“Cafodd lawer o anafiadau a hyd yn oed pan oedd yn rhedeg dros Brydain ac yn gwneud yn dda doedd e ddim yn cael help gydag anafiadau.”

Ffynhonnell y llun, Llun cyfranwr
Disgrifiad o’r llun,

Ron Jones yn ei cit cystadlu dros Brydain

Trobwynt

Ond daeth trobwynt annisgwyl yn ei yrfa pan wnaeth gyfarfod cyfrifydd o'r enw Lindley Armitage oedd wedi astudio'r dechneg o redeg.

Meddai Linda: “Gwyliodd e Ron yn rhedeg a dweud wrtho nad oedd e'n rhedeg yn iawn. Wnaeth e roi cyngor iddo a newid ambell i beth – ac yn sydyn roedd Ron yn hedfan ar y trac.

“Daeth y cyfrifydd yma yn hyfforddwr iddo. Trodd y dyn yma yrfa Ron o gwmpas yn llwyr.”

Colled

Mae un o rannau mwyaf trist y llyfr yn sôn am gyfeillgarwch Ron gyda'r athletwraig Lillian Board pan oedd y ddau yn rhedwyr ifanc.

Yn ôl Linda: “Roedd ganddo sawl cyfeillgarwch cryf iawn pan oedd yn rhedeg gyda phobl. Yr un oedd anoddaf iddo ysgrifennu amdani oedd Lillian Board.

“Roedden nhw’n agos iawn ac yn cystadlu yn yr un Gemau Olympaidd yn 1968. Bu farw Lillian o ganser y coluddyn yn 22 oed. Roedd Ron yn ei gweld hi’n anodd ysgrifennu am hynny.

“Hyd yn oed yn 22 oed roedd hi’n enillydd medal arian yn y Gemau Olympaidd ac yn bencampwraig Ewropeaidd – felly roedd ganddi yrfa ryfeddol o’i blaen.

“Roedd y byd wrth ei thraed.”

Gyrfa

Ar ôl i’w yrfa mewn athletau ddod i ben, daeth Ron yn ffigwr pwysig ym myd rheoli chwaraeon, gan gynnwys gweithio fel Prif Weithredwr Queens Park Rangers yn yr 1970au a Rheolwr-Gyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Dinas Caerdydd yn yr 1980au. Bu’n gyfarwyddwr SportsAid Cymru Wales am 25 mlynedd.

Ffynhonnell y llun, Linda Jones
Disgrifiad o’r llun,

Linda a Ron gyda'r athletwr o Gymru, Jeremiah Azu

Ond mae Linda’n dweud taw ei lwyddiannau ar y trac rhedeg oedd bwysica’ i Ron.

Meddai: “Y llwyddiant oedd e’n siarad amdano mwyaf achos bod pobl yn disgwyl hynny oedd y ras gyfnewid 4x110 llath wnaeth osod record byd newydd. Curodd tîm Prydain yr Americanwyr, oedd yn cael eu hystyried yn amhosib i’w curo ar y pryd.

“Roedd yn anhygoel bod nhw wedi llwyddo i wneud hynny ac roedd gosod record byd yn wych.

“Ond y gwir yw roedd Ron yn ystyried mai un o’i lwyddiannau mwyaf oedd curo'r JJ Williams ifanc yn y pencampwriaethau Cymreig, pan oedd Ron yn 34 oed a JJ Williams yn fyfyriwr ifanc.

“Roedd e’n falch iawn o hynny.”

Ffynhonnell y llun, Ron Jones
Disgrifiad o’r llun,

Ron yn ennill yn erbyn JJ Williams ym Mhencampwriaeth Athletau Cymru 1968

Gobaith Ron gyda’i waith elusennol oedd i ysbrydoli plant o gefndiroedd tebyg iddo i gyflawni ac, yn ôl Linda, dyna yw’r gobaith gyda’r llyfr sy’n adrodd stori ei fywyd: “Pan dwi’n mynd nôl i Gymru mae pobl o hyd eisiau siarad am Ron – maen nhw’n hoffi cofio amdano a phopeth wnaeth e gyflawni ym maes athletau.

“Gobeithio fydd ei stori yn ysbrydoli mwy o bobl.”

Pynciau Cysylltiedig