Englynion beddi Cymraeg ym mhen draw'r byd
- Cyhoeddwyd
Dr Guto Rhys, gweinyddwr y grŵp Englyn Bedd ar Facebook, sy'n ysgrifennu am y cwpledi Cymraeg sydd wedi dod i'r fei ar feddi Cymry alltud dros y byd:
Mae’n debyg bod y rhan fwyaf ohonoch o fewn milltir neu ddwy y funud hon. Meddyliwch ble mae’r fynwent agosaf, ac mae’n bur debyg bod englyn bedd ynddi.
Beth yn union ydi englyn bedd felly? Yr ateb yw bod y Cymry wedi bod yn gosod englynion unodl union (ac ambell fesur arall) ar gerrig bedd ers o leiaf 1656, ac mae’r traddodiad wedi ffynnu hyd heddiw.
Yn wir mae’n debyg iawn bod gennym dros 25,000 o englynion bedd ledled y byd. Ledled y byd? Meddech chi. Oes wir.
Lle bynnag aeth y Cymry aethon nhw’r â’r traddodiad hwn gyda nhw ac felly mae englynion o Lundain i Lerpwl, o’r Andes i’r Rockies, o Iwerddon i ogledd Lloegr ac o Ffrainc i’r Aifft.
Dros y ffin
Nid yw’n syndod bod nifer o englynion bedd yng Nghroesoswallt, tref sydd hyd heddiw yn ddigon Cymreigaidd.
Dyma englyn i’r bardd coronog a’r archdderwydd, Cadvan (1846-1923).
Awenol fardd, annwyl fu:- heulwen hael
I lên-wyliau Cymru;
Ac o’i groes rhoes yr Iesu
Dafod tân i Gadvan gu.
Mae’r ddau englyn dilynol yn eglwys St Oswald ei hun, ond ni wyddom lawer am eu cefndir. Mae’r arddull yn awgrymu eu bod yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg.
Dan y Gareg hon i Gorwedd - preyd
Shone Prichard Lloyd yn farwedd ,
O Gynnwynion gwirionedd.
Yn fud ar waelod i fedd.
Ystyr, ddyn, yr hun hon, - a'r gweryd
Y gorwedd y meirwon;
At ddydd brawd bydd di brydlawn,
Cerdd yn iawn a bấr Dduw Ion.
L . W .
Damwain yn Cumbria
Yn Eglwys Settle, Cumbria, mae’r canlynol i John G. Owen o Gaergybi, 1873. Cafodd ei ladd gan graen yn disgyn wrth adeiladu rheilffordd o Settle yn Swydd Efrog i Gaerlywelydd yn Cumbria.
Dyma englyn a gyfansoddwyd ar gyfer bachgen ifanc arall, o law Eben Fardd.
Ai mewn bedd mai Ioan bach — O Ie
Ioan sy'n llwch bellach
Ond daw'n ol etto'n iach
At ail [o]esi'n fil tlysach.
Lerpwl
Mae llawer iawn o englynion ym mynwentydd Lerpwl, tref oedd â thros ddeg ar hugain o gapeli Cymraeg ganrif yn ôl.
Dyma un, ar gofeb fawreddog, i’r enwog Harry Evans (1873-1914), ‘Musician and Composer, First conductor of The Liverpool Welsh Choral Union’ ym Mynwent Toxteth Park.
Cerub fu’n llywio corau; gwefreiddiol
Gyfareddwr tannau;
Creai gerdd, ac er ei gau
Isod, rhoes gân i’r oesau.
Mae un hyd yn oed yn Falmouth, Cernyw, i Walter Morris a fu farw yn 1839 yn 37 mlwydd oed ar long ar ei daith yn ôl o ynys Madeira.
Yn mhell o wlad fy nhadau — cloedig
Mewn cleidir yw’m fferau
Ond tyr ION eto’r iau
A dringaf o dir angau.
Pedair englyn ar un garreg yn Llundain
Ym mynwent Bunhill Fields yn Islington, Llundain, mae pedwar englyn ar fedd y telynor enwog Hugh Pugh a fu farw yn 1840 yn 28 mlwyddd oed. Nodir bod ei dad yn dywysydd i ben Cader Idris, ger Dolgellau.
Hoyw fwyn dalent Huw fu'n dilyn - Gwiwdeg
A gadael hyn gwedyn;
Yma y daeth ammod y dyn,
Fu'n deilwng efo'i delyn.
Bardd Idris, Llwyn
Talent fel teimlydd Telyn - modd enwog
Meddianodd yn Blentyn;
Mae'r bysedd hoywedd er hyn,
Ffraeth ranau heb ffrwyth ronyn.
Dewi Wnion
Tra rhyfedd fod gwedd Huw gain - yn gorwedd
Dan garreg yn Llundain;
'E fydd mwy yn ei fedd main,
Er cur Delynor cywrain.
Meurig
Ei hoff waith ganwaith oedd gweini - Diliau
O'r Delyn i'n lloni;
Ond yn awr er ei fawr fri,
Mewn tawel fedd mae'n tewi.
Iwerddon a'r Wladfa
Gwyddom am un yn Iwerddon, i Griffith Parry (1787-1847), ym Mynwent eglwys Castletown Arra, Tipperary.
Brodor o Landygái yn hen sir Gaernarfon oedd Griffith a ymfudodd i Iwerddon i weithio yn y chwareli llechi ger Killaloe. Bu farw pan gwympodd craig ar ei ben yn chwarel lechi Curraghbally.
Gwir enwog wr o Wynedd — wedd iesin
Sydd isod yn gorwedd;
Parry y cyfaill Purwedd,
Pur wych a fu parch i’w fedd.
Dewi Wnion
Yn y Wladfa mae degau o englynion, yn dyst i weithgarwch llenyddol Cymry Patagonia. Dyma un ym mynwent y Gaiman, i’r Cadben W. E. Roberts o Benbre (1827-1909). ‘Cafodd fathodynau y llywodraeth Brydeinig am y rhan a gymerodd ym mrwydrau yr Alma, Sabastopol ac Inkerman yn rhyfel mawr y Crimea.’
Er cryfder corph pêr piurwyn, - er bonedd
Arbenig ei wreiddyn,
Ac er mawl ac aur melyn.
Bedd yw anedd diwedd dyn.
Dyma un arall i John Freeman ‘Arloeswr Godre’r Andes’, 1946 yn y Gaiman.
Ber fu oes yr Arloesydd, - er angau
Rhyw angel arweinydd
Archodd iddo, rodio’n rhydd
I blaned fwy ysblennydd.
Tudur Evans
Rhyfel Cartref UDA
Mae llawer iawn ym mynwentydd yr Unol Daleithiau, lle bu dros 300 o gapeli Cymraeg. Efallai mai dau o’r mwyaf diddorol yw’r rheiny i ddau frawd a fu’n ymladd yn myddinoedd y Gogledd.
Bu farw Owen R. Davis yn 1863 a John Davis yn 1864, y ddau o effeithiau brwydro yn Rhyfel Cartref yr Unol Daleithiau.
Malurio ar ol milwraeth - yr wy'
Ar rych oer marwolaeth;
Ar elor, er yr alaeth,
I yr ddaearen Owen aeth.
Cofnodir bod John yn aelod o'r cafalri a gymerwyd yn garcharor fis Hydref 1863, ei ryddhau ar barôl ar 20 Mawrth 1864 a marw ar 28 Mawrth 1864.
Da'i rodiad a dewr ydoedd - dioddai lawr
Arwyddlun terfysgoedd;
A thrwy'r gad rhuthrai ar goedd,
A'r angau a'i dwg o'r rhengoedd.
Dyma un arall, y tro hwn gan Bardd Horeb (Evan Thomas) i’w ferch, Mary Thomas a fu farw yn 1852 yn 23 oed. Digwydd ym mynwent Paddy’s Run, Ohio.
Tiroedd a moroedd mawrion – a deithiais,
Nes deuthum at estron,
I geisio hawl o’r gŵys hon
I orwedd gyda’i feirwon.
Dyma un trist arall gan dad i’w ferch. Maggie, ’anwyl ferch W.W. Rowlands a'i briod [Jane]’, yr hon a fu farw Meh 4, 1895 yn 21 mlwydd oed:
I fedd oer o'm hanfodd i – i huno
Am enyd daeth Maggie;
Nefol Dad, gofala di,
Yn dyner iawn amdani.
Awdur Moliannwn yn Vermont
Mae’n siŵr eich bod oll yn gyfarwydd â’r gân Moliannwn. Wyddech chi mai alaw o’r Unol Daleithiau yw, ond mai Benjamin Thomas (1838–1920), a luniodd y geiriau?
Yn Vermont y cafodd ei gladdu, gydag englyn gan Ieuan Fardd ar y garreg.
Er gweryd caiff aur goron - fyw ei wlad
Fel awdwr englynion;
A'i urddas yn mhlith beirddion,
Ga' rawg hwy na'r gareg hon.
Mae hyd yn oed ambell englyn yn Awstralia, fel yr un ym Mynwent Sale, talaith Victoria i Amy Cartwright (1890–1893).
Hygar flodyn gwyrf ledai — o wydd
Byd gan bawb a'i hedmygai;
Ond o'i serch hwyr llwyr bellhau
Iesu, ei hunan a'i swynai.
Ychydig dros ganrif yn ôl roedd cymuned o Gymry yn Ne Affrica, yn gweithio mewn chwarel yno, llawer ohonynt o ardal Llanrug, ger Caernarfon.
Un oedd John David Morris, ‘born at Eithin Duon, Llanrûg, Carnarvonshire, North Wales, died at Pilgrim’s Rest, Z.A.R. 1898' yn Mpumalanga, De Affrica.
John Dewi Morrys erys am orig
Yma, lle huna, mewn bro bellenig’
Ond, ’e gwyd yn fendigedig, - eto,
Heb wyrth i’w effro’n neuheubarth Affrig.
Llew Llwyfo
Cofio milwyr dros y dŵr
I gloi rhaid sôn am y gwŷr niferus a fu farw yn ymladd dramor dros eu gwlad. Câi teuluoedd y rhain ddewis arysgrif fer i’w gosod ar y garreg, ac yn achlysurol mae’r rhain ar gynghanedd.
Cawn gwpled o gywydd ar garreg fedd Robert H. Hughes, Ty Nant, Nantlle yn Ypres, Gwlad Belg, 1918. Ymddengys ei enw hefyd ar gofeb Chwarel Pen yr Orsedd, Nantlle.
Tirion frawd mewn estron fro,
"Bob" annwyl o bawb yno.'
Ym Mhalesteina cawn yr englyn milwr canlynol i Lance Corporal Willie Owen Tachwedd 6, 1917, ym Mynwent Filwrol Beersheba.
Hwyliodd yn wyn o Walia
Drwy y drin wron da
I’w hir saib yn Beersheba.
Yr olaf i’w nodi yw’r un i’r Signalman Elfed Jones yn 1943 o Bontardawe ym Mynwent Filwrol Kanchanburi, Gwlad Thai.
Dros ei wlad y rhoes ei lw
Dros for fe droes i farw.
Casglwyd nifer o’r rhain gan aelodau chwilfrydig y grŵp Facebook Englyn Bedd.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Ebrill 2019
- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2018
- Cyhoeddwyd3 Mai 2018