Gary Lineker wedi gwthio'r ffiniau i'r eithaf, meddai cyn-gadeirydd y BBC
- Cyhoeddwyd
Mae Elan Closs Stephens, a gadeiriodd y BBC yn ystod y cyfnod cafodd Gary Lineker ei atal o’i waith dros dro, wedi dweud fod y cyflwynydd wedi gwthio ffiniau'r gorfforaeth i'r eithaf.
Bu'r Fonesig Elan yn siarad am ei phrofiad o gyfnod cythryblus i'r gorfforaeth, gan gynnwys yr helynt pan oedd stori Huw Edwards yn y penawdau.
Roedd y Gymraes yn aelod o Fwrdd y BBC ers 2017 - a'i ragflaenydd, Ymddiriedolaeth y BBC, am saith mlynedd cyn hynny - cyn cael ei hapwyntio'n gadeirydd dros dro rhwng Mehefin 2023 a Mawrth 2024.
Yn ystod cyfnod y Fonesig Elan ar y bwrdd, roedd Lineker - cyflwynydd Match of the Day - wedi dod o dan y lach yn gyson am ei sylwadau ar y cyfryngau cymdeithasol.
'Mae o'n bryfoclyd'
Y llynedd roedd Lineker, cyn-gapten tîm pêl-droed Lloegr, yn cael ei gyhuddo o dorri rheolau diduedd y BBC.
Wedi iddo feirniadu ieithwedd y llywodraeth Geidwadol wrth drafod ffoaduriaid, fe gafodd ei ddiswyddo am gyfnod ym mis Mawrth 2023.
Fe wnaeth hyn amharu ar arlwy chwaraeon y BBC wedi i'w gyd-weithwyr ei gefnogi a gwrthod gweithio.
Cafodd Lineker ddychwelyd i'w swydd yn y pen draw ac fe gyhoeddodd y BBC arolygiad o'u canllawiau mewnol ynglŷn â'r cyfryngau cymdeithasol.
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol dywedodd y Fonesig Elan: "Bob tro ro'n i'n mynd i weld yr Ysgrifennydd Gwladol [Lucy Frazer] mi roedd mater Gary Lineker ar flaen ei bysedd hi.
"Ac mae'n rhaid dweud mae o [Lineker] yn bryfoclyd hefyd - mae o'n popian fyny bob hyn a hyn - a tydi o ddim yn 'neud bywyd rhywun yn hawdd.
"Ac mae o'n gwthio'r ffinia'. Hynny ydy, roedd genno' ni arweinlyfr ar be' oeddech chi'n gallu dweud ar y cyfryngau cymdeithasol, a dewrder a ffolineb Lineker ydy bod o'n gwthio'r ffiniau yna i'r eithaf.
"Os oedd 'na drydar dy'dwch am gwch oedd wedi suddo neu rywbeth, bydda fo'n ail drydar o - fydda fo ddim yn dweud dim byd ac felly doedd o ddim wedi dweud bod o'n cytuno nag anghytuno - roedd o jest wedi ail drydar.
"Ond wrth gwrs roedd hynny'n dân ar groen llawer iawn o bobl oedd eisiau gweld o'n cael ei ddiswyddo."
Pan gysylltodd Cymru Fyw gyda chynrychiolydd Lineker am ymateb i sylwadau'r Fonesig Elan, dywedodd na fyddai am wneud hynny.
'Stori drist' Huw Edwards
O fewn wythnosau i'r Fonesig Elan ymgymryd â'r gwaith fel cadeirydd, fe ymddangosodd straeon yn y wasg ynglŷn â'r darlledwr Huw Edwards wnaeth arwain iddo ddod oddi ar yr awyr yn haf 2023.
Yn ddiweddarach fe wnaeth y BBC ymddiheuro am y ffordd y gwnaethon nhw ddelio â'r gŵyn amdano.
Dywedodd y Fonesig Elan: "Roedd hi yn stori drist."
"Ac wrth gwrs roedd marwolaeth y Frenhines, angladd y Frenhines a'r Coroni - roedd y cyfan wedi digwydd o fewn ychydig fisoedd.
"Y peth cyntaf wrth gwrs oedd gwneud yn saff bod Huw yn iawn a bod y teulu yn cael gofal a diogelwch… ond yn fwy na hynny alla'i ddim sôn."
Yn ystod ei chyfweliad mae'r Fonesig Elan, sydd hefyd yn Ddirprwy-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac yn gyn-gadeirydd S4C, yn sôn am y tensiynau rhwng Llywodraeth Geidwadol y DU ar y pryd a'r BBC.
Wedi iddi gael ei phenodi'n gadeirydd dros dro Bwrdd y BBC, roedd hi'n aml yn cael cyfarfodydd heriol gyda'r ysgrifennydd gwladol, Lucy Frazer, meddai.
Mae'r Fonesig Elan hefyd yn trafod ei barn ar ddatganoli darlledu a sefyllfa S4C.
Gallwch wrando ar y cyfweliad llawn ar raglen Beti a'i Phobol ar BBC Radio Cymru am 18:00 dydd Sul 21 Gorffennaf ac ar BBC Sounds
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mawrth
- Cyhoeddwyd29 Ionawr