Perfformio yn Glastonbury yn 'freuddwyd' i fenyw ifanc o'r de

Llun agos o Nancy yn gwenu yn edrych ar y camera. Mae hi'n eistedd i lawr. Y tu ôl iddi mae planhigion a chadeiriau plastig coch, a thu ôl i hynny mae tu allan carreg llwyd lleoliad cerddoriaeth Clwb Crown. Mae gan Nancy wallt brown tywyll hir ac mae hi'n gwisgo top brown oddi ar yr ysgwydd.
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nancy Williams o Ferthyr Tudful yn perfformio yn Glastonbury eleni

  • Cyhoeddwyd

Mae merch yn ei harddegau o Ferthyr Tudful yn dweud ei bod "mor swreal" cael gwahoddiad i berfformio yn un o wyliau cerddoriaeth mwyaf y byd.

Mae Nancy Williams yn mynd i Glastonbury yr wythnos hon, lle bydd hi'n chwarae ar lwyfan Croissant Neuf.

Dywedodd Nancy, 19, ei bod hi'n "freuddwyd" cael slot ar y llwyfan ble fu Ed Sheeran yn perfformio yn yr ŵyl am y tro cyntaf yn 2011.

Dywedodd y DJ Cymreig Huw Stephens ei bod yn "enfawr o beth" bod Nancy wedi sicrhau'r cyfle, sy'n aml yn hwb mawr i yrfaoedd artistiaid ifanc.

Tair blynedd yn ôl fe gafodd sengl gyntaf Nancy, I Don't Wanna Grow Up, sylw miloedd o bobl ar-lein, gan gynnwys y cynhyrchydd Jonny Owen.

Roedd y Cymro wedyn wedi ei helpu i wneud cyswllt â label recordio.

Ers hynny, mae hi wedi rhyddhau tair cân arall y mae hi'n eu disgrifio fel "cerddoriaeth merch drist" wedi'i ysbrydoli gan werin.

Ei gobaith ydy efelychu artistiaid fel y gantores-gyfansoddwraig Americanaidd Gracie Abrams.

Mae Nancy a Harry yn perfformio ar y llwyfan. Mae gan y ddau gitarau ac maen nhw'n canu i'r standiau meicroffon. Y tu ôl iddyn nhw ar sgrin fawr mae poster Gorwelion Horizons. Mae Nancy, ar y dde, yn gwisgo jîns glas, top brown oddi ar yr ysgwydd ac esgidiau hyfforddi gwyn. Mae Harry, ar y chwith, yn gwisgo trowsus llwyd, crys gwyn, tei a siaced. Mae amryw o offerynnau a gwifrau o'u cwmpas ar y llwyfan.
Disgrifiad o’r llun,

I baratoi ar gyfer yr ŵyl mae Nancy wedi bod yn perfformio gyda'i chanwr cefndir Harry ym Merthyr Tudful

Dechreuodd Nancy, sy'n astudio perfformio yn Llundain, ysgrifennu caneuon pan oedd hi'n naw oed.

"Rydw i bob amser wedi canu yn y gawod," meddai.

"Ond dwi'n meddwl bod ysgrifennu caneuon wedi gwneud i mi sylweddoli fy mod i wir eisiau bod yn gantores."

Ar ôl darganfod ei chariad at gyfansoddi caneuon, dysgodd Nancy sut i chwarae'r iwcalili ac yna'r gitâr.

Hunlun o Nancy, Jonny a'i thad. Mae'r tri yn gwenu ar y camera. Mae Nancy yn y canol ac mae ganddi wallt hir brown tywyll. Mae Jonny ar y chwith ac mae'n gwisgo cap, crys-t gwyn a siaced ddu. Mae ei thad, sydd â gwallt golau a barf, yn gwisgo siwmper lwyd.Ffynhonnell y llun, Nancy Williams
Disgrifiad o’r llun,

Helpodd y cynhyrchydd ffilm a'r actor Jonny Owen - ffrind i dad Nancy - i lansio ei gyrfa drwy ei rhoi mewn cyswllt â label cerddoriaeth

Dywedodd Nancy ei bod hi'n 14 oed pan ddechreuodd gredu o ddifrif y gallai cael gyrfa ym myd cerddoriaeth.

Roedd hi'n postio fideos o'i hun yn canu ar y cyfryngau cymdeithasol pan wnaeth y cynhyrchydd ffilm a'r actor Jonny Owen - ffrind agos i'w thad - ei gweld hi a phenderfynu ei helpu.

"Mae'r diolch iddo ef fy mod i yma nawr, ac mae gen i dîm mor hyfryd y tu ôl i mi hefyd," meddai Nancy.

'Brawychus' rhyddhau ei sengl gyntaf

Drwy gysylltu â label cerddoriaeth cafodd Nancy fynd i'r stiwdio i recordio, a rhyddhaodd ei sengl gyntaf ym mis Hydref 2024.

O fewn pythefnos, roedd wedi cael ei chwarae 20,000 o weithiau ar Spotify.

"Dyma'r gân gyntaf a wnaeth i mi feddwl, galla i wneud hyn mewn gwirionedd," meddai.

"Roedd ei chyhoeddi a'i rhoi allan yn frawychus.

"Ond fe wnaeth yn dda iawn a dwi mor ddiolchgar am hynny oherwydd dyna pam dwi yma nawr."

Mae Nancy ar y dde ac yn gwenu'n edrych ar ei brawd sy'n eistedd wrth ei hymyl. Mae Nancy yn gwisgo jîns glas, Converse gwyn, siaced hir beige a thop du ac mae ganddi wallt tywyll hir. Mae ei brawd, sydd hefyd â gwallt tywyll, yn gwisgo jîns glas, siwmper lwyd, sbectol haul du ac yn dal cwpan papur.Ffynhonnell y llun, Nancy Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae ei brodyr yn gefnogaeth enfawr, yn ôl Nancy

Roedd Nancy gyda'i ffrindiau yn y dafarn leol ym mis Rhagfyr pan gafodd wybod y byddai'n perfformio yn Glastonbury eleni.

"Roedd mor swreal," meddai.

"Alla i ddim credu fy mod i'n cael gwneud hyn - mae'n freuddwyd."

Ychwanegodd ei bod hi'n "wallgof" ei bod hi'n dilyn ôl-troed cerddorion fel Ed Sheeran.

"Rwy'n edrych arno nawr ac rwy'n meddwl y gallai hynny fod yn fi, gallwn i fod yno," meddai.

"Dyna sy'n fy ysgogi i barhau."

Mae Nancy gyda'i ffrind yn eistedd ar flanced ar draeth wrth i'r haul fachlud. Mae Nancy ar y dde yn defnyddio ei ffôn. Mae hi'n edrych ar y camera yn gwenu. Mae Nancy yn gwisgo joggers llwyd a chrys llewys hir glas golau. Mae ei ffrind ar y chwith yn darllen llyfr. Ffynhonnell y llun, Nancy Williams
Disgrifiad o’r llun,

Mae Nancy yn dweud bod ei ffrindiau yng Nghymru i gyd yn ei chefnogi

Canmol Nancy mae'r cyflwynydd Huw Stephens, gan ychwanegu ei fod bob amser wedi mwynhau chwarae ei cherddoriaeth ar ei sioeau.

Esboniodd fod cael lle yn Glastonbury yn hollbwysig i artistiaid ifanc.

"Nid yw pawb yn cael chwarae yno. Boed yn Llwyfan y Pyramid neu un llai, mae'n enfawr," meddai.

Ychwanegodd fod y cyfle yn nodi cam mawr yn nhaith Nancy.

Mae Huw Stephens wedi mynychu Glastonbury bob blwyddyn ers 2000, ac mae'n cofio gwylio'r cerddor a'r cyfansoddwr o Gymru, Carwyn Ellis ar lwyfan BBC Introducing, cyn iddo fynd ymlaen i gael "gyrfa gerddorol anhygoel".

"Felly ie, mae'n gyfnod cyffrous iawn i Nancy," ychwanegodd.

'Nid breuddwyd yn unig yw hi'

Dywedodd Nancy fod ei theulu "mor falch" ohoni, yn enwedig ei thad, sy'n mynychu pob un o'i gigs.

"Mae fy mrodyr yn gefnogol iawn hefyd," ychwanegodd.

"Nhw yw'r rhai sy'n fy nghadw i fynd ac yn fy ysgogi i barhau i wneud hyn."

Ar ôl chwarae yn Glastonbury, mae Nancy yn gobeithio aros yn Llundain, ysgrifennu mwy o ganeuon a pherfformio ledled y wlad.

"Nid breuddwyd yn unig yw hi - gallwch chi wireddu breuddwyd os ydych chi'n gwneud yr ymdrech ac yn gweithio'n galed."

Pynciau cysylltiedig