Archesgob Cymru: 'Mae rhedeg yn gyfle i gael lle i feddwl'

Y Gwir Barchedig Andy John allan yn rhedegFfynhonnell y llun, Yr Eglwys yng Nghymru
Disgrifiad o’r llun,

Mae Andy John yn gweld bod rhedeg yn rhoi cyfle iddo feddwl

  • Cyhoeddwyd

Mae rhedeg wedi helpu Archesgob Cymru dros y blynyddoedd i ymdopi a phrysurdeb bywyd ac mae'r Gwir Barchedig Andy John yn gweld rhedeg fel ffordd o gynnig cydbwysedd i’w fywyd.

“O’r heriau i gyd, does dim byd i’w gymharu â’r pwysau mae rhedeg yn ei roi ar y corff ……ond hefyd yn gyfle i ddarganfod eich hun,” meddai ar Dros Frecwast ddydd Mawrth tra'n olygydd gwadd y rhaglen.

Mae wedi cymryd rhan yn Marathon Eryri dair gwaith hyd yma ac yn dal ati i hyfforddi ar gyfer o bosib ei farathon Eryri olaf yn 2024.

Bydd yn dathlu ei benblwydd yn 60 oed fis Ionawr ac wedi dwy flynedd fel Archesgob mae’n braf dianc meddai i "redeg o brysurdeb gwaith bob dydd".

Marathon Llundain ac Eryri

“Er ei bod hi’n gyfnod prysur, ac yn fraint gwneud y swydd, mae rhedeg yn gyfle i gael lle i feddwl ac mae hynny yn bwysig iawn i mi,” meddai’r Archesgob, sy’n aelod o glwb rhedeg Amlwch Arrows.

"Mae rhedeg yn rhywbeth dwi’n trio ei wneud yn fy amser sbâr, sydd bach yn brin ar hyn o bryd.

"Ond o’r holl o bethau dwi’n ei wneud, mae cael lle i feddwl, yn bwysig iawn i mi."

Fe ddechreuodd yr Archesgob redeg nôl tua 2002 ac yn y flwyddyn honno fe wnaeth o ymgeisio ym Marathon Llundain.

Harddwch a hwyl

Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd yn cymryd rhan yn flynyddol ym Marathon Eryri

“Wedi cyrraedd 19 milltir o amgylch Llundain, fe ddywedodd fy nghorff bod hi’n hen bryd gorffen, ond roedd ‘na saith milltir arall," meddai.

“Ond fe wnaeth o gychwyn blas newydd sydd gen i at redeg.”

Ond mae’n dweud nad oes dim i’w gymharu â Marathon Eryri a hynny am ei fod yn “cyfuno harddwch y lle a bach o sbort sydd i'w gael efo’r rhai sy’n rhedeg hefyd”.

“Mae pobl wedi gofyn pam mod i’n ffan o redeg.

"Mae ‘na deimlad, yn fy marn i, bod bod yn y mynyddoedd lle da chi ar goll bron, ‘da chi’n ail ddarganfod eich hunain a phethau sy’n bwysig i chi.

“I gael cydbwysedd yn eich bywyd, o’r holl bethau dwi’n eu gwneud, rhedeg ydi’r peth sydd wedi fy nharo i, sy’n bwysig i mi yn bersonol.”

Chwalu priodas

Dywedodd fod o sicr yn cael effaith ysbrydol arno hefyd.

“Wedi cwblhau un ras neu fod yn y mynydd, mae’r byd yn teimlo yn iawn ac mae’n rhoi persbectif newydd ar yr heriau da ni’n ei wynebu,” meddai.

“Dwi’n cofio amser anodd iawn yn bersonol ar ôl i’m mhriodas gynta’ ddod i ben.

“Fydde llawer yn dweud bod rhaid cael pethe i roi cydbwysedd i chi…. A falle gan ffrindiau a’r cyngor ges i, rhedeg oedd un o’r pethau roddodd gydbwysedd i mi ac wedi gwneud gwahaniaeth o’r holl bethau efallai a fy achub rhaid cyfadde’.”

'Cam wrth gam'

A be am gyngor rhedeg gan Yr Archesgob?

"Dal ati wrth gwrs. Ond os yn bosib, dechrau efo’r math o bellter sy’n siwtio chi.

"Un o’r camgymeriadau mwya' gan bobl ydi trio rhedeg marathon neu wneud lot o filltiroedd heb hyfforddi.

"Cam wrth gam ydi hi.

"Dechrau efo’r camau bach ac yna ychwanegu at y milltiroedd.

"Yn y bôn, fyddwch chi’n darganfod y bydd yn trawsffurfio bob dim."

Pynciau cysylltiedig