2024 yn flwyddyn i'w chofio i dimau dynion a merched Cymru

merched cymru yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Cymru yn chwarae yn Euro 2025 yn y Swistir

  • Cyhoeddwyd

Roedd 2024, ar y cyfan, yn flwyddyn lwyddiannus i bêl-droed yng Nghymru.

Heb os yr uchafbwynt oedd camp tîm y merched yn rowndiau rhagbrofol Euro 2025 - wrth iddyn nhw gyrraedd un o brif gystadlaethau'r gêm am y tro cyntaf.

Fe lwyddon nhw i wneud hynny gyda buddugoliaeth ddramatig o 2-1 oddi cartref yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon ddechrau mis Rhagfyr (3-2 ar gyfanswm goliau).

Wedi'r gwaith caled o gyrraedd y Swistir, mi fydd y dasg yr haf nesaf hyd yn oed yn anoddach.

Mae grŵp Cymru gyda'r anoddaf y gallen nhw fod wedi'i gael, gan y bydden nhw'n wynebu Lloegr, deiliaid y gystadleuaeth, Ffrainc, gyrhaeddodd y rownd gynderfynol yn 2022, a'r Iseldiroedd, oedd yn bencampwyr yn 2017.

Fe wnaeth y rheolwr Rhian Wilkinson gydnabod mai dyma, o bosib, oedd y grŵp anoddaf yn y gystadleuaeth, ond eu bod nhw'n edrych ymlaen at yr achlysur a pheth peryg fyddai diystyru eu gobeithion.

Craig Bellamy yn dathlu gyda'r chwaraewyrFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe wnaeth Cymru sicrhau dyrchafiad i Adran A yng Nghynghrair Y Cenhedloedd ym mis Tachwedd

O ran tîm y dynion, roedd hi'n gyfnod o newid gyda Rob Page yn gadael fel prif hyfforddwr ym mis Mehefin a Craig Bellamy yn ei olynu ym mis Gorffennaf.

Roedd ymadawiad Page yn anochel wedi'r methiant i gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2024 a'r canlyniadau siomedig yn y gemau cyfeillgar yn erbyn Gibraltar a Slofacia.

Mae penodiad Bellamy wedi tanio dychymyg y chwaraewyr a'r cefnogwyr, ond go brin fod neb yn disgwyl i Bellamy gael y fath ddylanwad mewn cyn lleied o amser.

Roedd awgrym o'r hyn oedd i ddod yn y gêm agoriadol yn erbyn Twrci yng Nghynghrair Y Cenhedloedd yng Nghaerdydd, er iddi orffen yn ddi-sgôr, roedd safon y pêl-droed yn uchel, gyda Chymru yn chwarae ar y droed flaen a'r chwaraewyr yn cael y rhyddid i fynegi eu hunain.

Roedd 'na ddatblygiad i'w weld ym mhob gêm ac wedi'r fuddugoliaeth o 4-1 yn erbyn Gwlad yr Iâ, a Thwrci yn colli yn erbyn Montenegro, roedd Cymru wedi sicrhau dyrchafiad i Adran A.

Rowndiau rhagbrofol Cwpan Y Byd fydd canolbwynt y sylw yn 2025, ac yn wahanol i grŵp y merched, mae grŵp y dynion - sy'n cynnwys Gwlad Belg, Lichtenstein, Kazakhstan a Gogledd Macedonia - yn un gymharol garedig, ac yn rhoi cyfle gwirionedd o gyrraedd Cwpan Y Byd am yr eildro yn olynol.

Wrecsam yn dathluFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

A fydd Wrecsam yn dathlu dyrchafiad arall ar ddiwed y tymor?

Mae hi wedi bod yn flwyddyn gymysg i'r pedwar tîm o Gymru yng nghynghrair bêl-droed Lloegr.

Wrecsam yr unig un o'r pedwar i brofi llwyddiant eleni, a phwy sydd i ddweud na fydd y Dreigiau yn chwarae yn erbyn Caerdydd ac Abertawe yn y Bencampwriaeth y tymor nesaf?

Ar ôl sicrhau dyrchafiad am yr ail dymor yn olynol, mae rhywun yn teimlo bod unrhyw beth yn bosib i glwb Y Cae Ras.

Eisoes y tymor hwn maen nhw wedi dangos eu bod yn gallu cystadlu tuag at frig Adran Un, ac yn sicr mi fydd y perchnogion o Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn gwneud eu gorau glas i helpu'r rheolwr Phil Parkinson wrth i'r clwb anelu am ddyrchafiad unwaith eto.

Roedd hi'n gyfnod o newid i Gaerdydd ac i Abertawe.

Fe ddaeth cyfnod Erol Bulut fel rheolwr yr Adar Gleision i ben ym mis Medi wedi eu dechrau gwaethaf i'r tymor mewn 94 o flynyddoedd.

Wedi wythnosau o ddyfalu fe gafodd Omer Riza ei benodi yn rheolwr tan ddiwedd y tymor, ond wedi dechrau addawol mae 'na waith i'w wneud yn 2025 er mwyn diogelu eu lle yn y Bencampwriaeth.

Caerdydd yn erbyn AbertaweFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

1-1 oedd y sgôr yn ystod gêm ddarbi de Cymru cynta'r tymor ym mis Awst

Fe gafodd Luke Williams ei benodi yn rheolwr Abertawe ym mis Ionawr 2024 wedi cyfnod siomedig Michael Duff wrth y llyw.

Mae 'na arwyddion calonogol wedi bod o ran arddull y pêl-droed, ond mae'r diffyg dyfnder o fewn y garfan yn broblem.

Ond gyda pherchnogion newydd, y gobaith ydy y bydd Williams yn cael y gefnogaeth sydd ei angen ym mis Ionawr i arwyddo chwaraewyr newydd.

Roedd yna newid hefyd o fewn coridorau Casnewydd gyda chyn-gadeirydd Abertawe, Huw Jenkins bellach yn brif gyfranddalwr yn Rodney Parade

Bydd Jenkins yn gobeithio tanio'r tîm i fyny tabl Adran 2, ond yn wahanol i'r tymhorau diwethaf fydd 'na ddim rhediad yng Nghwpan yr FA i'r Alltudion edrych ymlaen ato yn 2025.

Y Seintiau Newydd yn erbyn FiorentinaFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Seintiau Newydd wedi herio cewri fel Fiorentina o'r Eidal yn eu hymgyrch yng Nghyngres UEFA y tymor hwn

Doedd yna ddim syndod yn y Cymru Premier wrth i'r Seintiau Newydd gael eu coroni'n bencampwyr am yr unfed tro ar bymtheg, ond maen nhw hefyd wedi mwynhau llwyddiant yn Ewrop.

Bu'r Seintiau yn cystadlu yn erbyn timau fel Fiorentina o'r Eidal a Panathanikos o Groeg yng Nghyngres UEFA.

Wedi dweud hyn, roedd yna sioc yn rownd derfynol Cwpan Cymru wrth i'r Seintiau golli o 2-1 yn erbyn Cei Connah.

Tîm merched Caerdydd oedd pencampwyr yr Adran Premier, ac mae Gwalia United -yr unig dîm o Gymru sy'n chwarae ym mhyramid Lloegr - yn dîm uchelgeisiol sy'n gobeithio chwarae yn y brif adran yn y blynyddoedd nesaf.