Cyn-brif weithredwr yn cyflwyno achos Uchel Lys yn erbyn S4C

Cafodd Siân Doyle ei diswyddo fel prif weithredwr S4C ym mis Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-brif weithredwr S4C wedi cyflwyno achos niwed personol yn erbyn ei chyn-gyflogwr yn yr Uchel Lys.
Cafodd Siân Doyle ei diswyddo o'i swydd gyda'r darlledwr ym mis Tachwedd 2023 ar ôl cael ei chyhuddo o "ymddwyn fel unben a chreu diwylliant o ofn".
Mewn datganiad i raglen Newyddion S4C, dywedodd cyfreithiwr Ms Doyle iddi ddioddef "cyfnod cwbl eithriadol ac anaddas o gamdriniaeth" tra'n brif weithredwr, sydd wedi "niweidio ei hiechyd a'i lles yn ddifrifol".
Cyflwynodd Ms Doyle ei hachos i'r Uchel Lys ar 7 Chwefror, gan enwi S4C a chyn-gadeirydd y darlledwr, Rhodri Williams, fel diffynyddion.
Doedd S4C na Rhodri Williams ddim am wneud sylw am yr achos arfaethedig yn yr Uchel Lys na datganiadau cyfreithwyr Siân Doyle.
- Cyhoeddwyd24 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd28 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd25 Tachwedd 2023
Dan reolau'r llys, mae gofyn i Ms Doyle gyflwyno manylion ei hachos o fewn pythefnos i gyflwyno'r cais - gan amlinellu'r niwed personol iddi hi a'r iawndal mae'n hawlio.
Pan gysylltodd Newyddion S4C gyda chyfreithwyr Siân Doyle i ofyn ynghylch manylion ei chwyn, dywedodd ei chynrychiolydd cyfreithiol:
"Gallaf gadarnhau, oherwydd methiant hir ac afresymol gan S4C a Rhodri Williams i gytuno â'n cynnig i gymodi a'r oedi annerbyniol o ran ymateb i lythyr yn amlinellu'r cynnig, mae hawliadau cyfreithiol heb eu capio [uncapped] wedi eu cyflwyno yn yr Uchel Lys yr wythnos hon.
"Mae'r hawliadau yma am esgeulustod (methiant o ran dyletswydd gofal i'n cleient), aflonyddu anghyfreithlon, camweithrediad mewn swydd gyhoeddus, torri hawliau preifatrwydd, torri cyfrinachedd a thorri rheolau diogelu data.
"Yn weithiwr ifanc neu brofiadol, ddylai neb gael eu trin yn y modd hwn, gan gorff a chadeirydd sydd â rheidrwydd cyfreithiol i ymddwyn yn gyfreithlon, yn deg ac yn unol ag egwyddorion Nolan sydd yn llywodraethu ymddygiad mewn swydd gyhoeddus."
'Camdriniaeth' wedi achosi 'niwed parhaus'
Fe wnaeth gŵr Ms Doyle, Rob Doyle, yrru'r datganiad canlynol: "Rwy'i wedi fy nhristau yn fawr gan yr effaith ddirdynnol mae triniaeth fy ngwraig gan S4C a'r cyn-gadeirydd wedi ei gael ar Siân a fy nheulu.
"Mae'r trallod a'r niwed emosiynol mae wedi dioddef yn enbyd ac mae'n effeithio ar bob agwedd o'i lles.
"Mae'r gamdriniaeth yna sydd yn dal i barhau ac wedi achosi niwed parhaus. Rydyn ni am sicrhau cyfiawnder llawn dan gyfraith y DU ac egwyddorion Nolan."

Rhodri Williams oedd cadeirydd S4C tra roedd Siân Doyle yn brif weithredwr
Wedi i undeb llafur Bectu gwyno am "ddiwylliant o fwlio" o fewn i S4C ddwy flynedd yn ôl, fe gyhoeddodd y cyn-gadeirydd Rhodri Williams ar raglen Newyddion S4C y byddai ymchwiliad annibynnol yn cael ei gynnal i'r honiadau.
Penodwyd cwmni cyfreithiol Capital Law i ymgymryd â'r gwaith, gyda 92 o bobl yn rhoi tystiolaeth am yr awyrgylch gwaith yn S4C.
Yn ôl yr adroddiad, fe wnaeth 10 o bobl lefain wrth roi eu tystiolaeth, gydag 11 yn dweud bod gweithio yn S4C "yn niweidiol i'w hiechyd".
'Wedi dod yn ddagreuol iawn'
Cafodd rhai eu dyfynnu yn dweud bod Siân Doyle wedi niweidio eu hiechyd yn uniongyrchol.
Dywedodd un: "Roedd y prif weithredwr wedi fy rhoi mewn sefyllfa gas iawn, llawer o staff eraill hefyd, roeddwn yn ymwybodol o hynny... roedd fy ffrindiau a fy nheulu yn poeni llawer am fy iechyd meddwl ar y pryd.
"Roeddwn i wedi dod yn ddagreuol iawn. Allwn i ddim cysgu."
Honnodd gweithiwr arall iddyn nhw ddioddef "digwyddiad iechyd sylweddol" wedi "sgwrs fywiog" gyda Ms Doyle, gyda honiad bod y prif weithredwr wedi dweud y byddai'n cael gwared ar "o leiaf 50" o bobl oedd "ddim yn werth poeni amdanynt".
Dywedodd Ms Doyle ar y pryd: "Cafodd yr adroddiad ei gomisiynu a'i ddarparu gan y cadeirydd felly dyw hi'n ddim syndod, o 92 o bobl oedd yn rhan o'r ymchwiliad, i'r adroddiad ganolbwyntio ar farn lleiafrif bach."
Ychwanegodd nad oedd wedi cael rhybudd cyn i'r adroddiad gael ei gyhoeddi, na 'chwaith wedi cael cyfle i ymateb gan S4C, a'i bod wedi darllen yr adroddiad gyntaf yn y cyfryngau.