Oedi posib i yrwyr ar Bont y Borth yr wythnos hon

Pont y Borth
Disgrifiad o’r llun,

Ers iddi ailagor fis Chwefror, mae'r bont wedi cael ei chyfyngu i un lôn yn unig ar rai adegau

  • Cyhoeddwyd

Gall gyrwyr sy'n croesi Pont y Borth rhwng Ynys Môn â'r tir mawr wynebu oedi yr wythnos hon wrth i waith gwirio peirianyddol gael ei gynnal.

Fis Hydref y llynedd cafodd y bont ei chau am dri mis yn sgil pryderon am ei diogelwch.

Bellach mae ceblau wedi'u hychwanegu i rodenni haearn, gan gysylltu'r ffordd i'r gadwen grog fel mesur diogelwch dros dro.

Dim ond un lôn fydd ar agor rhwng 09:00 a 18:00 tan y penwythnos.

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Pont y Borth ei chau am dri mis yn ddirybudd ddiwedd 2022

Bydd y gwaith gwirio yn sicrhau bod yr atgyweiriadau dros dro ar y bont yn ddiogel.

Ddiwedd y flwyddyn bydd y rhodenni yn cael eu hailosod yn barhaol.

Yn 2026 bydd hi'n 200 mlynedd ers i'r bont agor i draffig am y tro cyntaf.

Cafodd ei chynllunio gan Thomas Telford a'i hagor yn 1826 er mwyn gostwng yr amser teithio o Lundain i Gaergybi, ac yna i Iwerddon.

Mae'r bont ar agor i draffig i'r ddau gyfeiriad - ond ar hyn o bryd mae yna gyfyngder pwysau o 7.5 tunnell.

Pynciau cysylltiedig