Therapi canu opera wedi gwneud i fenyw fod 'eisiau byw eto'

Mae'r sesiynau canu opera wedi helpu i leddfu poen corfforol June Evans yn ogystal â chodi ei hwyliau
- Cyhoeddwyd
Mae technegau canu ac anadlu perfformwyr opera yn cael eu defnyddio i helpu pobl â chyflyrau sy'n achosi poen parhaol.
Cafodd June Evans, 67, ei chyfeirio at gynllun lles Opera Cenedlaethol Cymru ar ôl dioddef poen corfforol ac iselder o ganlyniad i effeithiau trawiad ar y galon, strôc a sawl salwch arall.
Yn ôl Opera Cenedlaethol Cymru, dywedodd dau draean o'r rheiny fu'n cymryd rhan bod eu hiechyd wedi gwella o ganlyniad i'r cwrs lles ar-lein.
Dywedodd Ms Evans, o Bowys, bod dysgu technegau canu opera wedi gwella ei iechyd corfforol a gwneud iddi "eisiau byw eto".
- Cyhoeddwyd29 Ionawr
- Cyhoeddwyd23 Awst 2021
- Cyhoeddwyd25 Awst 2021
Cafodd cynllun lles Opera Cenedlaethol Cymru ar gyfer pobl â phoen parhaol ei greu yn sgil llwyddiant cynllun tebyg ar gyfer pobl â Covid Hir.
Yn sgil cynllun peilot a gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, dywedodd 67% o'r rheiny fu'n cymryd rhan eu bod wedi profi llai o boen corfforol a bod eu hiechyd meddwl wedi gwella hefyd.
"Rydyn ni'n meddwl am y ffordd rydyn ni'n eistedd a mae'n helpu i ni i wella ein anadlu achos rydyn ni'n gwneud ymarferion anadlu, a wedyn rydyn ni'n twymo'r llais mewn ffordd hwylus," meddai June Evans.
"Chi'n gorfod gwneud synau trwy symud eich ceg mewn ffyrdd gwahanol cyn symud ymlaen at y canu. Mae'r awr gyfan yn llawer o hwyl.
"Mae'n brêc o'r cyfnodau ofnadwy. Mae'r profiad wedi trawsnewid fy mywyd."
- Cyhoeddwyd2 Mawrth
- Cyhoeddwyd21 Awst 2020
- Cyhoeddwyd6 Ebrill 2022
Timau rheoli poen byrddau iechyd Cymru sy'n gyfrifol yn bennaf am gyfeirio unigolion i'r cynllun lles, ond mae modd i rai pobl gyfeirio eu hunain hefyd.
Amcangyfrifwyd bod y cwrs yn achub dros £20 y person yr awr i'r gwasanaeth iechyd, gan ei fod yn lleihau'r angen i fyrddau iechyd ddarparu cyrsiau tebyg.
Canu'n 'tawelu'r system nerfol'
Dywedodd Owen Hughes, arweinydd cenedlaethol y GIG ar gyfer poen parhaol yn ystod y peilot: "Ein dealltwriaeth bresennol yw bod straen ar ein system nerfol yn gallu achosi poen parhaol a chronig ac mae'n anfon negeseuon i'r ymennydd bod rhywbeth yn bod, hyd yn oed yn bell ar ôl y broses o wella.
"Rydyn ni'n gwybod bod canu yn ffordd arbennig o wella'r system nerfol.
"Mae'r nerf fagws, sy'n rhedeg trwy'r llengig, yn gyhyr pwysig ar gyfer anadlu a chanu.
"Wrth ddefnyddio'r llengig rydych chi'n stimwleiddio'r nerf fagws a dyna sy'n tawelu'r system nerfol."

Mae'n "neis" bod pobl sy'n rhan o'r cynllun yn gallu dweud eu bod wedi canu gydag Opera Cenedlaethol Cymru, medd Kate Woolveridge
Cantorion opera proffesiynol sy'n arwain y sesiynau anadlu a chanu ar-lein.
Mae unigolion yn gallu cymryd rhan o'u cartrefi, does dim angen iddyn nhw fod ar gamera, ac mae hawl diffodd eu meicroffon.
"Mae'n gymuned ar Zoom lle mae pawb yn canu ar wahân yn eu cartrefi, ond sy'n rhannu'r holl beth â phobl sy'n rhannu profiadau personol tebyg," meddai'r mezzo soprano, Katie Woolveridge.
"Rydyn ni'n canu un gân Zulu - cân nad yw unrhyw un wedi canu neu glywed o'r blaen.
"Mae'r profiad yn helpu i gymryd eich meddwl i rywle gwahanol ac i ddianc meddwl am y poen am ychydig wrth i chi drio canolbwyntio ar ganu Zulu. O ganlyniad mae'r poen yn lleihau."
'Effeithiau positif ehangach hefyd'
Dywedodd Opera Cenedlaethol Cymru y byddai rhagor o arian yn eu galluogi nhw i ehangu'r cynnig i fwy o bobl â chyflyrau iechyd eraill ar draws y wlad.
"Fe ddechreuodd y prosiect fel rhywbeth i helpu pobl anadlu'r well, i ddefnyddio eu hysgyfaint yn fwy effeithiol ac i wella eu hiechyd meddwl," meddai Ms Woolveridge.
"Ond wrth barhau i ehangu'r cynnig, rydyn ni wedi gweld effeithiau positif ehangach i iechyd unigolion hefyd."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Bydden ni'n parhau i gydweithio ag Opera Cenedlaethol Cymru a Gwasanaeth Iechyd Gymru er mwyn creu rhagor o gyfleoedd i ein cymunedau elwa o gynllun gwerthfawr."