Mam dyn ifanc gafodd ei ladd 'methu disgrifio'r boen a'r dicter'

Liam Morgan WhittleFfynhonnell y llun, Llun teulu
Disgrifiad o’r llun,

Wedi ei farwolaeth cafodd Liam Morgan-Whittle ei ddisgrifio gan ei deulu fel "dyn ifanc rhyfeddol"

  • Cyhoeddwyd

Mae mam wedi ymateb i garcharu'r dyn a laddodd ei mab drwy ddweud ei bod hi wedi "cael dedfryd oes o'r eiliad y cafodd Liam ei gymryd oddi wrthym".

Bu farw Liam Morgan-Whittle, 22, ar ôl dioddef anafiadau i'w ben wedi iddo gael ei daro ar noson allan yn Llanelli ar 25 Mawrth, 2023.

Yn Llys y Goron Abertawe ddydd Llun, cafodd Jason Thomas ei garcharu am ddwy flynedd a hanner ar ôl pledio'n euog i ddynladdiad.

Dywedodd Claire Whittle, mam Liam, "na all unrhyw eiriau ddisgrifio'r boen, y trallod a'r dicter rydyn ni wedi ei deimlo" ers marwolaeth ei mab.

Jason ThomasFfynhonnell y llun, Heddlu Dyfed-powys
Disgrifiad o’r llun,

Clywodd y llys fod Thomas a Mr Morgan-Whittle wedi bod yn dadlau ynglŷn â phwy fyddai'n gallu ymdopi â'r ergyd galetaf

Clywodd y llys ddydd Llun fod Liam Morgan-Whittle wedi bod ar noson allan yn Llanelli cyn iddo fynd i eiddo ar Stryd Robinson yn y dref gyda'i ffrind.

Roedd Jason Thomas yno hefyd ac fe wnaeth ffrae rhwng y ddau droi yn gorfforol, gan arwain at Thomas yn taro Mr Morgan-Whittle yn ei ben ddwywaith.

Dywedodd yr erlyniad fod y ddau wedi bod yn dadlau ynglŷn â phwy fyddai'n gallu dioddef yr ergyd galetaf.

Roedd Mr Whittle yn anymwybodol pan gyrhaeddodd y gwasanaethau brys, a bu farw yn oriau man y bore.

Fe blediodd Thomas yn euog i gyhuddiad o ddynladdiad mewn gwrandawiad blaenorol ym mis Chwefror.

Roedd Thomas a Mr Morgan-Whittle wedi gweithio i gwmni adeiladu gyda'i gilydd am gyfnod.

'Dylai neb orfod mynd drwy'r fath hunllef'

Dywedodd Claire Whittle: "Fyddwn i ddim yn dymuno i unrhyw un arall orfod wynebu'r hyn yr ydym ni wedi gorfod delio â fo.

"Doedd gan Liam ddim afiechyd wnaeth ei ladd yn ifanc, doedd o ddim wedi cael damwain annisgwyl a doedd o ddim eisiau marw. Fe gafodd ei ladd.

"Dylai neb orfod mynd drwy'r fath hunllef - mae o'n ddi-ddiwedd. Ddown ni byth i delerau gyda'r hyn sydd wedi digwydd, fyddwn ni byth yn gwella.

"Roedd gan Liam amser i wireddu ei freuddwydion, ond mae'r breuddwydion hynny yn deilchion nawr.

"Fe wnaethon ni ddechrau dedfryd oes o'r eiliad gafodd Liam ei gymryd oddi wrthym, a fydd hwnnw yn parhau am byth."

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed-Powys fod y digwyddiad yn enghraifft drist o sgil effeithiau trais sydd â chysylltiad ag alcohol ac maen nhw'n galw ar bobl i ystyried effaith posib eu gweithredoedd.