Prifysgol De Cymru i dorri 90 swydd a chau rhai cyrsiau

- Cyhoeddwyd
Mae Prifysgol De Cymru yn bwriadu torri 90 swydd ac wedi "gwneud y penderfyniad anodd i gael gwared ar rai pynciau" wedi i gyrsiau y myfyrwyr presennol ddod i ben.
Yn wyneb heriau ariannol, dywedodd y brifysgol y byddai'n ymgynghori gyda chydweithwyr ac undebau ar y cynigion.
Mae'r cyrsiau sy'n debygol o ddod i ben yn cynnwys rhai lle nad yw'r brifysgol yn recriwtio myfyrwyr bellach.
Y bwriad yw cael gwared ar rai pynciau er mwyn canolbwyntio ar bedwar maes ymchwil penodol sef trosedd, diogelwch a chyfiawnder, iechyd a lles, amgylchedd cynaliadwy ac arloesi creadigol.
Mae'r brifysgol - sydd â 26,000 o fyfyrwyr ar draws Caerdydd, Casnewydd a Phontypridd - yn cyflogi tua 3,000 o bobl.
Y llynedd dywedodd y brifysgol eu bod yn wynebu twll ariannol o £20m yn 2024-25.
Yn gynharach ddydd Mercher fe gyhoeddodd Prifysgol Bangor eu bod yn rhagweld y bydd "tua 200 o swyddi" yn cael eu torri wrth iddyn nhw geisio gwneud arbedion o £15m.
Dechrau'r flwyddyn fe gyhoeddodd Prifysgol Caerdydd eu bod yn ystyried dyfodol 400 o swyddi.

Yn 2024, fe wnaeth dros 100 o bobl adael eu swyddi ym Mhrifysgol De Cymru yn dilyn proses o ddiswyddiadau gwirfoddol.
Y tro hwn, dywedodd llefarydd bod y brifysgol yn "argymell cael gwared â 90 swydd wrth i ni symleiddio a lleihau ein strwythurau rheoli cyfadran".
"Rydym yn rhagweld y bydd y rhan fwyaf o swyddi yn dod i ben ddiwedd y flwyddyn academaidd hon, ond bydd rhai yn gadael yn raddol dros yr ychydig flynyddoedd nesaf er mwyn sicrhau bod ein holl fyfyrwyr presennol yn gallu cwblhau eu hastudiaethau.
"Byddwn yn ceisio cyfyngu nifer y diswyddiadau gorfodol trwy ein prosesau arferol a byddwn yn cynnig diswyddiadau gwirfoddol i gydweithwyr y mae'r newidiadau yn effeithio arnynt.
"Bydd ein ffocws bob amser ar roi'r profiad gorau posibl i'n myfyrwyr ym Mhrifysgol De Cymru. Byddwn yn sicrhau bod ein myfyrwyr, ein cydweithwyr a'n partneriaid yn cael eu cefnogi'n llawn trwy gydol y broses heriol hon."
- Cyhoeddwyd28 Ionawr
- Cyhoeddwyd1 diwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd 2024
Mewn datganiad yn dilyn y cyhoeddiadau am brifysgolion De Cymru a Bangor ddydd Mercher, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r Gweinidog Addysg Bellach ac Uwch wedi bod yn glir y dylid diwygio'r sector addysg uwch.
"Mae gwaith eisoes ar y gweill gyda deddfwriaeth newydd yn ei le a chreu [corff newydd] Medr.
"Yn ogystal, rydym wedi cyhoeddi £18.5m ar gyfer prifysgolion i'w helpu i leihau costau gweithredu.
"Rydym yn deall y pryderon ynghylch y sector addysg uwch a'r effaith y bydd hyn yn ei chael ar staff a dysgwyr yn y sefydliadau yma."