Iechyd meddwl: Cynllun mentora yn gwneud 'byd o les' i ferched

Llun o Abbey, 36 a Carys, 17 ar y traethFfynhonnell y llun, Cat Mckay
Disgrifiad o’r llun,

Roedd Carys (chwith) ac Abbey (dde) wedi cwrdd drwy gynllun mentora 'Y Girls'

  • Cyhoeddwyd

Mae menyw ifanc yn dweud bod cynllun i helpu merched a allai ddatblygu problemau iechyd meddwl wedi newid ei bywyd hi.

Dywedodd Carys Evans, 17 oed o Gaerdydd ei bod "wedi cael amser gwael iawn yn yr ysgol" ond ei bod wedi bod yn rhan o gynllun mentora dros y chwe blynedd diwethaf.

"Roeddwn i mor isel - ond fyddwn i ddim lle rydw i nawr heb help y grŵp," meddai.

Ers sefydlu cynllun 'Y Girls' yn 2021, mae 59 o ferched yng Nghaerdydd, Y Barri a Bro Morgannwg wedi cael cefnogaeth.

Ond mae un mentor wedi dweud wrth Cymru Fyw ei bod yn poeni "nad oes digon o wasanaethau hir dymor, fel hyn, ar gael i bobl ifanc" ac mae pryderon am ddyfodol y cynllun.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym yn gweithio i wella ansawdd a diogelwch ein gwasanaethau iechyd meddwl ac wedi buddsoddi £2 miliwn yn y GIG i ysgogi gwelliannau."

Cat Mckay yw cydlynydd y cynllun, sy'n cael ei redeg gan elusen yr YMCA yng Nghaerdydd.

"Mae'n brosiect ymyrraeth gynnar i atal pobl ifanc rhag syrthio rhwng bylchau yn y ddarpariaeth," meddai.

Mae mentoriaid gwirfoddol yn cael eu rhoi i helpu merched lleol ac maen nhw'n cyfarfod ei gilydd er mwyn rhannu unrhyw bryderon.

Yn ogystal â hynny, mae clwb ieuenctid yn rhoi cyfle i'r merched gymdeithasu a chefnogi ei gilydd.

Ymunodd Cat â'r cynllun fel mentor, ond penderfynodd adael ei swydd fel nyrs i ailhyfforddi fel gweithiwr ieuenctid.

"Fe wnes i newid gyrfa ar ôl i mi gwblhau fy mlwyddyn gyda fy mherson ifanc oherwydd roedd y cynllun yn golygu cymaint i mi," meddai.

"Fe wnes i ddelio â phroblemau iechyd meddwl pan oeddwn i'n ferch ifanc a ges i brofiadau niweidiol yn ystod fy mhlentyndod.

"Roeddwn i eisiau rhoi nôl i blant sy'n strugglo yn yr un modd â fi."

Dwy fenyw ifanc yn gwenu ac yn dal crempog sy'n dweud "Y's Girls". Cat sydd ar y dde, mae hi'n gwisgo sbectol a crys tu YMCA. Ffynhonnell y llun, Cat Mckay
Disgrifiad o’r llun,

Cat Mckay (ar y chwith) yw cydlynydd y prosiect sy'n cael ei redeg gan yr YMCA yng Nghaerdydd

Er gwaethaf llwyddiant y prosiect, mae Cat yn dweud eu bod yn wynebu nifer o heriau.

Yn y gorffennol, mae'r cynllun wedi cael cyfraniadau ariannol ond mae Cat yn poeni os na fydd hi'n dod o hyd i fwy o gyllid, mae'n bosib y bydd yn rhaid iddo ddod i ben o fis Ebrill ymlaen.

"Rydyn ni'n ymladd am gyllid... ond er hynny, rydw i'n obeithiol iawn," meddai Cat.

"Ni yw'r unig brosiect fel hyn yng Nghymru."

Tair ferch yn eistedd wrth fwrdd yn gwneud celf a chrefft. Mae nifer o ddeunyddiau ar y bwrdd, megus papur, pensiliau, glud a gliter. Ffynhonnell y llun, Cat Mckay
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r merched yn cwrdd yn wythnosol i wneud gweithgareddau a threulio amser gyda'i gilydd

Mae problemau iechyd meddwl ymhlith merched ifanc wedi cynyddu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf.

Ers 2021, mae nifer y bobl ifanc sy'n cael eu cyfeirio at wasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol (LMPHSS) wedi cynyddu 20% ers 2021, yn ôl ffigyrau gan y gwasanaeth iechyd.

Cafodd 9684 o bobl eu cyfeirio at y gwasanaeth rhwng mis Ionawr a Medi 2024 yng Nghymru.

Yn ôl Cat, mae rhai o'r merched mae hi'n eu hadnabod wedi bod yn aros dros ddwy flynedd i gael triniaeth.

"Dydy'r plant ddim yn cael eu gweld yn gyflym, ac mae'n rhaid i ni geisio eu cefnogi yn y cyfamser.

"Fel arall, fyddai ganddyn nhw neb."

'Dim digon o wasanaethau i bobl ifanc'

Ychwanegodd Abbey Rowe, sydd hefyd yn fentor: "Y broblem gyda rhestrau aros yw bod mwy a mwy o bobl yn ceisio cael cymorth ond dyw'r gwasanaethau ddim yno i ateb y galw."

Ychwanegodd bod cynllun 'Y Girls' yn "wasanaeth gwych" ond "nad oes digon o wasanaethau hirdymor, fel hyn, ar gael i bobl ifanc".

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaethom ymgynghori'n ddiweddar ar ein Strategaeth Ddrafft Iechyd Meddwl a Lles ar gyfer pob oed.

"Byddwn yn cyhoeddi'r strategaeth derfynol yn fuan."

Selfie o Carys ac Abbey ar ddiwrnod braf o flaen llyn. Maent yn gwenu ac mae Carys yn dal ci bach.Ffynhonnell y llun, Cat Mckay
Disgrifiad o’r llun,

Mae Abby (dde) wedi bod yn helpu Carys (chwith) fel rhan o'r cynllun

Cafodd Abbey Rowe, sy'n arbenigo mewn iechyd meddwl plant ysgol gynradd, ei rhoi i weithio gyda Carys Evans.

Dywedodd: "Rydw i'n caru gweithio gyda pobl ifanc a rydw i wir yn mwynhau cael unrhyw gyfle i wneud hynny."

Eglura Carys ei bod yn teimlo'n ynysig yn yr ysgol, a'i bod yn teimlo fel bod pobl yn eu barnu hi heb ei hadnabod hi.

Cafodd drafferth gydag ymddygiad drwg a threisgar, yn ogystal â heriau gyda'i hunan-hyder.

Dywedodd: "Rydyn ni'n blant sy'n cael trafferth wirioneddol, nid jest merched drwg."

"Doedd gan neb yr amser i fi yn yr ysgol, neb eisiau gwrando arna i," meddai.

'Fe wnaeth hi gyflawni gymaint'

Nod Abbey oedd creu gofod diogel i Carys a chynnig lle iddi rannu ei phroblemau heb feirniadaeth.

"Roeddwn i eisiau bod yn oedolyn a allai fod yn ddylanwad cadarnhaol arni hi."

Treuliodd y ddwy flwyddyn gyda'i gilydd, yn cwrdd i fynd am dro, rhannu paned neu fynd mas am fwyd.

Yn ôl Abbey, roedd y profiad yn wobrwyol iawn gan neud iddi hi deimlo'n agosach nid yn unig i Carys, ond yr holl ferched oedd yn rhan o'r cynllun.

"Fe wnaeth hi gyflawni cymaint yn ein blwyddyn gyda'n gilydd... cafodd ei swydd gyntaf yn dysgu pêl-droed i ferched ifanc ac fe gafodd hi ei derbyn i'r coleg - yr holl bethau anhygoel yma."

Dywedodd Carys fod Abbey "wedi gwneud i mi deimlo'n falch ohona i fy hun".

Mam a merch yn dal llaw. Mae gan y dwy ohonynt gwallt melyn. Mae'r fam yn gwisgo froc glas a flodau arni ac y merch yn top du Superdry. Ffynhonnell y llun, Cat Mckay
Disgrifiad o’r llun,

Yn ôl Ruby, mae ymuno â'r cynllun yn "un o'r pethau gorau" mae hi wedi ei wneud

Mae Ruby yn 15 oed ac yn ofalwr ifanc i'w thad.

Cafodd ei chyfeirio at y cynllun oherwydd pryderon am ei hiechyd meddwl.

"Roeddwn i'n swil iawn, roeddwn i'n casáu'r byd ac roedd gen i orbryder gwael iawn," meddai.

"Roedd popeth yn fy mhoeni cyn i mi ymuno â'r cynllun."

Chwiliodd Ruby am gymorth o sawl ffynhonnell.

Mae'n dweud bod hynny wedi bod yn straen ac na chafodd gynnig cefnogaeth hirdymor.

Newidiodd hynny pan ymunodd â chynllun 'Y Girls'.

"Roeddwn i'n nerfus iawn yn cyfarfod â phobl newydd am y tro cyntaf," meddai.

"Ond rwy'n lot fwy hyderus nawr. Dwi dal i boeni am bethau ond mae fy mhroblemau'n teimlo'n llai," meddai Ruby.

"Dyma'r peth gorau all merched ifanc ei 'neud."

Pynciau cysylltiedig