Rhybudd am effaith 'drychinebus' cyfyngiadau y tafod glas

Llun o fuwch ar iard fferm yn edrych yn syth at y camera. Mae dwy fuwch arall yn edrych i gyfeiriad gwahanol.
  • Cyhoeddwyd

Bydd cyfyngiadau sydd wedi eu cyflwyno gan Lywodraeth Cymru mewn ymateb i glefyd y tafod glas yn cael effaith "drychinebus" ar ffermwyr, yn ôl y gwrthbleidiau.

O'r cyntaf o Orffennaf bydd yn rhaid i wartheg, defaid a geifr brofi yn negyddol ar gyfer y feirws - sy'n gallu lladd anifeiliaid fferm - cyn iddyn nhw fedru cael eu cludo i Gymru.

Tra bod y tafod glas wedi lledu drwy rannau helaeth o Loegr erbyn hyn, does yr un achos wedi'i gofnodi yng Nghymru eleni ac mae'r llywodraeth yn dweud eu bod yn ceisio atal hynny "am mor hir â fedrwn ni".

Ond mae'r diwydiant amaeth wedi rhybuddio y gallai'r goblygiadau fod yn "drychinebus" i fasnachu ar draws y ffin.

Cafodd y mater ei godi yn ystod sesiwn holi'r prif weinidog yn San Steffan brynhawn Mercher gan Aelod Seneddol Caerfyrddin Ann Davies o Blaid Cymru a ddywedodd bod ffermwyr Cymru'n wynebu "ergyd ar ôl ergyd".

Mae "dros 550 o ffermydd ar y ffin ac mae marchnadoedd anifeiliaid yn dibynnu ar fasnach yr haf", meddai, gan ychwanegu bod y "tarfu" fydd yn cael ei achosi gan y cyfyngiadau symud yn "drychinebus".

Galwodd Ms Davies ar Lywodraeth y DU i "weithio gyda Llywodraeth Cymru ar gynllun i ddigolledi [ffermwyr]".

Wrth ymateb, dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog Angela Rayner – a gymerodd le'r prif weinidog – y byddai Llywodraeth y DU yn sicrhau "ein bod yn cefnogi Cymru a ffermwyr Cymreig".

Wedi'i wasgaru gan wybed mân, dyw'r feirws ddim yn fygythiad i ddiogelwch bwyd na iechyd pobl.

Ond gall gael effaith ddifrifol ar anifeiliaid sy'n cnoi cil, fel defaid a gwartheg.

Mae diwydiant amaeth Cymru yn cael ei reoli gan ffermydd defaid a gwartheg.

Mae parth cyfyngedig yn Lloegr - sy'n rhwystro symudiad anifeiliaid - wedi parhau i ehangu yn ystod y misoedd diwethaf wrth i'r clefyd ledu.

Mae Llywodraeth y DU bellach wedi penderfynu dynodi Lloegr gyfan fel parth cyfyngedig o 1 Gorffennaf, gan arwain at ymateb Llywodraeth Cymru.

Bydd y cyfyngiadau sydd wedi eu cyhoeddi gan Ysgrifennydd Materion Gwledig Cymru Huw Irranca-Davies yn golygu bod angen i ffermwyr sicrhau profion a thrwyddedi ar gyfer anifeiliaid sy'n cael eu cludo o Loegr i Cymru.

'Penderfyniad anghywir'

Cafodd y pwnc ei drafod ym Mae Caerdydd brynhawn Mawrth pan ddywedodd Mr Irranca-Davies wrth Aelodau o'r Senedd ei fod wedi pwyso a mesur y sefyllfa'n ofalus cyn penderfynu cyflwyno'r cyfyngiadau achos na allai "wahodd y tafod glas i Gymru".

Dywedodd Andrew RT Davies o'r Ceidwadwyr Cymreig: "Mae hyn fel dweud wrth siop cyn y Nadolig nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar y nwyddau maen nhw eu hangen i gwsmeriaid gael eu anrhegion."

Dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar faterion gwledig Llŷr Gruffydd bod Huw Irranca-Davies "wedi gwneud y penderfyniad anghywir".

Yn ôl arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig, Jane Dodds, mae'r sefyllfa'n achosi "pryder mawr, pwysau mawr i ffermwyr".