Cyfyngiadau y Tafod Glas yn ddi-fudd ac anymarferol - undebau

Llun o wartheg mewn rhes yn bwyta glaswellt. Mae un yn edrych yn syth at y camera.
Disgrifiad o’r llun,

O ddydd Mawrth ymlaen, bydd parth cyfyngedig y Tafod Glas yn Lloegr yn ehangu at ffin Cymru

  • Cyhoeddwyd

Mae undebau ffermio'n dweud bod cyfyngiadau a gyflwynwyd i geisio atal feirws y Tafod Glas rhag lledaenu i dda byw yng Nghymru yn ddi-fudd ac yn anymarferol.

Mae'r cyfyngiadau'n golygu y bydd angen i ffermwyr dalu a gwneud cais am brofion a thrwyddedau i ddod â da byw dros y ffin o Loegr.

O ddydd Mawrth ymlaen, bydd parth cyfyngedig y Tafod Glas yn Lloegr yn ehangu hyd at ffin Cymru.

Mae gweinidogion yn dweud eu bod nhw'n ceisio cefnogi ffermwyr i gadw'r feirws allan o Gymru.

Llun o Farchnad Da Byw Sir Fynwy ger Rhaglan
Disgrifiad o’r llun,

Roedd digon o stoc ym Marchnad Da Byw Sir Fynwy ger Rhaglan ond mae rhai'n poeni

Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gyfyngiadau i geisio atal lledaeniad feirws y Tafod Glas.

Mae'n golygu y bydd angen i unrhyw ffermwr dalu a gwneud cais am brofion a thrwyddedau i ddod â da byw o Loegr i Gymru.

Mae parth cyfyngu ar y Tafod Glas ond wedi bod yn cwmpasu rhannau o Loegr hyd yn hyn.

Ond o ddydd Mawrth ymlaen, bydd Llywodraeth y DU yn ymestyn hynny i Loegr gyfan. 

Mae'n golygu y bydd symudiad rhydd i anifeiliaid o fewn Lloegr, ond nid y tu hwnt i'w ffiniau.

'Byddwn ni mewn sefyllfa anodd iawn'

Mae'r Tafod Glas yn cael ei ledaenu gan wybed bach, a gall fod yn angheuol i anifeiliaid fel defaid a gwartheg, ond nid yw'n fygythiad i bobl na diogelwch bwyd.

Ym Marchnad Da Byw Sir Fynwy ger Rhaglan yr wythnos hon, roedd digon o stoc ar werth ond mae llawer o ffermwyr yn poeni.

Mae rheolwr y farchnad, Phil Jones, yn ddigalon iawn: "Bydd yn ddinistriol i ni, ac i lawer o'r ffermwyr a phob marchnad da byw ar hyd ffin Cymru a Lloegr hefyd.

"Yn bersonol i ni, bydd yn effeithio tua 20% allan o'r busnes rydyn ni'n ei wneud.

"Os bydd y cyfyngiadau hyn ar waith pan ddaw tymor gwerthu bridio ddiwedd mis Gorffennaf, Awst, a thrwy fis Medi yna byddwn ni mewn sefyllfa anodd iawn."

Llun o fuwch a llo mewn marchnad da byw.
Disgrifiad o’r llun,

Bydd modd i anifeiliaid symud yn rhydd o fewn Lloegr, ond nid y tu hwnt i'w ffin yn dilyn y cyfyngiadau

Mae undeb ffermio yr NFU yn dweud nad yw'r cyfyngiadau'n gymesur â'r risg o'r Tafod Glas, tra bod Undeb Amaethwyr Cymru'n dweud nad oes budd i'r polisi a'i fod yn anymarferol.

Dywedodd Pennaeth Polisi UAC, Gareth Parry: "Wrth gwrs, ar bapur fel ffermwyr da ni ishe cadw pob risg allan o Gymru ond ar sail y sefyllfa ar ôl trafod hyn yn bellach efo aelodau'r undeb, polisi ni fel undeb yw alignio efo Lloegr i osgoi effaith sylweddol ma' hyn yn mynd i greu ar gyfer y diwydiant o ran cost a hefyd o ran gwaith papur a rheolau hefyd."

Mae'r gwrthbleidiau hefyd wedi beirniadu strategaeth Llywodraeth Cymru ar lawr y Senedd yr wythnos hon. 

Mae'r Ceidwadwyr yn dweud y dylai gweinidogion fod wedi edrych ar effaith economaidd y penderfyniad.

Mae Plaid Cymru am i weinidogion hyrwyddo brechu a sicrhau bod digon ar gael.

Ond, mae'r gweinidog sy'n gyfrifol, yr Ysgrifennydd Materion Gwledig, Huw Irranca-Davies AS, yn dweud mai dyma'r peth iawn i'w wneud: "Ein nod ni nawr yw gwneud ein gorau glas i gadw'r Tafod Glas allan o Gymru, i atal ei ymlediad i Gymru.

"Rydyn ni'n ceisio gwneud hyn i brynu amser i ffermwyr hefyd.

"Ond gadewch i mi fod yn glir; os bydd y Tafod Glas yn lledaenu, ac os bydd yn lledaenu'n gyflymach nag yr y'n ni yn ei ragweld, gallwn newid yn gyflym ac yn ddeinamig iawn."