Dyn yn y llys yn dilyn dymchwel achos trywanu mewn ysgol

Christopher Elias yn cyrraedd y llys yn Abertawe
- Cyhoeddwyd
Mae dyn wedi ymddangos yn y llys ar gyhuddiad yn ymwneud â dymchwel yr achos llys cyntaf yn dilyn trywanu mewn ysgol.
Ym mis Ebrill fe gafodd merch yn ei harddegau ddedfryd 15 mis yn Llys y Goron Abertawe am geisio llofruddio dwy athrawes ac un disgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin, ar ddiwedd ail achos a ddechreuodd ym mis Ionawr.
Mae Christopher Elias, 45 oed o Waunceirch, Castell-nedd Port Talbot, wedi ei gyhuddo o beidio ateb cwestiwn yn ymwneud â'i gymhwyster i wasanaethu ar reithgor.
Ymddangosodd Mr Elias gerbron y barnwr ardal Christopher James yn Llys Ynadon Abertawe fore Mercher.
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
- Cyhoeddwyd28 Ebrill
- Cyhoeddwyd3 Chwefror
Cafodd yr athrawon Fiona Elias, Liz Hopkin a disgybl na ellir ei henwi am resymau cyfreithiol eu trywanu gan y ferch, a oedd yn 13 oed ar y pryd, yn ystod amser egwyl yn Rhydaman fis Ebrill 2024.
Fe wnaeth yr achos cyntaf yn erbyn y ferch ddymchwel ym mis Hydref oherwydd yr hyn a ddisgrifiodd y barnwr fel "afreoleidd-dra mawr yn y rheithgor".
Mae'r cyhuddiad yn erbyn Mr Elias yn dod o dan y Ddeddf Rheithgorau 1974 sy'n rhestru'r gofynion am bwy sy'n gymwys i wasanaethu ar reithgor yng Nghymru a Lloegr, ac mae'n caniatau i swyddogion y llys ofyn cwestiynau i ddarpar reithwyr i ganfod a ydyn nhw'n gymwys i fod ar y rheithgor.
Cafodd yr achos yn erbyn Mr Elias ei ohirio ac fe gafodd ei ryddhau ar fechnïaeth ddiamod.
Bydd yn ymddangos eto yn Llys Ynadon Caerdydd ar 2 Mehefin.