Swyddfa'r Post yn 'troi cefn' ar Wynedd wrth dorri gwasanaethau

Siân Gwenllian a Liz Saville Roberts ASFfynhonnell y llun, Plaid Cymru
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Siân Gwenllian (chwith) nad yw cymunedau gwledig gogledd Cymru "o bwys i sefydliadau mawr fel Swyddfa'r Post"

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru wedi cyhuddo Swyddfa'r Post o "droi cefn ar gymunedau gwledig" yn sgil eu penderfyniad i gael gwared ar wasanaethau symudol mewn rhannau o Wynedd.

Daw'r sylwadau ar ôl i Swyddfa'r Post gadarnhau na fydd fan allgymorth yn teithio i 21 o gymunedau yn y sir, gan gynnwys Bryncir, Rhosgadfan, Blaenau Ffestiniog a Llithfaen.

Mae gwleidyddion Plaid Cymru wedi cyhuddo Swyddfa'r Post "o fynd allan o'u ffordd i wneud bywyd yn galetach i'w cwsmeriaid ffyddlon".

Mae Swyddfa'r Post wedi ymddiheuro, gan ddweud bod y newidiadau o ganlyniad i ymddiswyddiad postfeistr Cricieth - oedd yn cynnal y gwasanaethau teithiol.

Nod fan allgymorth y Swyddfa Bost yw cynnig gwasanaethau i bobl mewn cymunedau lle nad oes canolfan barhaol.

Mae'r sefydliad bellach wedi cydarnhau na fydd y gwasanaeth symudol ar gael mewn 21 o gymunedau yng Ngwynedd.

Roedd pryder am hyd at 25 o gymunedau yn dilyn ymddiswyddiad postfeistr Cricieth - y ganolfan oedd yn cynnal y gwasanaethau teithiol.

Yr ardaloedd fydd yn cael eu heffeithio gan y cyhoeddiad yw; Efailnewydd, Llanaelhaearn, Bryncir, Llithfaen, Pantglas, Abererch, Minffordd, Borth y Gest, Nasareth, Llanfrothen, Y Fron, Rhosgadfan, Llangybi, Talysarn, Edern, Blaenau Ffestiniog, Chwilog, Gellilydan, Garn, Morfa Bychan, Sarn, Llanfair, a Llanbedr.

Mae'r toriadau hyn yn ychwanegol i'r ansicrwydd am ddyfodol cangen Caernarfon.

Y gwasanaeth 'yn achubiaeth i lawer'

Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd Liz Saville Roberts AS a'r Aelod o'r Senedd, Mabon ap Gwynfor: "Mae'r penderfyniad i gael gwared ar 21 o'r 25 o wasanaethau swyddfa post symudol ar draws ein hetholaeth yn annirnadwy a dweud y lleiaf.

"Mae'r rhain yn 21 o gymunedau gwledig yn bennaf, a fydd yn awr yn cael eu hamddifadu rhag cael mynediad i wasanaethau Swyddfa'r Post yn agos at adref.

"Mae'r gwasanaeth hwn yn achubiaeth i lawer o gymunedau yn ein hetholaeth, gan alluogi pobl i gael mynediad at wasanaethau Swyddfa'r Post heb fod angen teithio'n bell.

"Mae'r gwasanaeth yn arbennig o bwysig i'r henoed, pobl fregus, a'r rhai nad oes ganddynt fynediad at drafnidiaeth gyhoeddus."

Ychwanegodd Siân Gwenllian, yr Aelod o'r Senedd dros Arfon, fod hyn yn brawf "nad yw cymunedau gwledig, ôl-ddiwydiannol yng ngogledd Cymru ddim o bwys i sefydliadau cenedlaethol mawr fel Swyddfa'r Post".

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na ansicrwydd ar hyn o bryd am ddyfodol cangen Swyddfa'r Post yng Nghaernarfon hefyd

Dywedodd Swyddfa'r Post bod y newidiadau'n dod yn dilyn adolygiad o'r rhwydwaith, gyda'r nod o sicrhau'r buddion mwyaf i bob cwsmer.

Ymddiheurodd llefarydd i gwsmeriaid sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau allgymorth yn y gorffennol, gan gadarnhau y byddant yn dod i ben o ddiwedd Ionawr.

Er hynny, dywedodd y llefarydd y bydd rhai gwasanaethau allgymorth yn parhau dan drefniant newydd - yn Nhalsarnau, Gellilydan, Clynnog Fawr a Garndolbenmaen.

Fe fydd gwasanaeth yn dychwelyd i Nefyn hefyd, meddai.

Pynciau cysylltiedig