Galeri Caernarfon yn penodi prif weithredwr newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Galeri Caernarfon wedi cyhoeddi mai Nia Arfon fydd eu prif weithredwr newydd.
Ers 10 mlynedd, mae hi wedi bod yn gweithio gyda Menter Môn lle bu'n arwain prosiectau iaith, pobl ifanc a phrosiectau adfywio strategol yng Ngwynedd a Môn.
Dywedodd ei bod yn "gwbl angerddol am y cyfle i weithio ar ran menter gymunedol arloesol y Galeri".
Mae ei phenodiad yn dod yn sgil ymadawiad y cyn-brif weithredwr, Steffan Thomas.
Gadawodd ei waith ym mis Awst, bedwar mis wedi iddo gael ei atal o'i waith ar gyflog llawn ar ôl pledio'n euog i stelcian.
'Mae gen i dân yn fy mol'
Dywedodd Nia Arfon: "Cerbyd yw Galeri sy’n ein galluogi i fuddsoddi mewn lles cymuned ac economi Caernarfon.
"Dyma gyfle heb ei ail i wneud hynny yn fy milltir sgwâr, lle dw i’n byw a magu teulu ifanc.
"Mae gen i dân yn fy mol am y swydd, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau gyda brwdfrydedd mewn sefydliad creadigol, wedi degawd amhrisiadwy gyda Menter Môn Cyf."
Yn ei swydd bresennol fel cyfarwyddwr cynlluniau Menter Môn, mae hi'n gyfrifol am bortffolio cynlluniau cymunedol y cwmni gan gynnwys prosiectau ARFOR, Economi Gylchol a rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin Grymuso Gwynedd.
Mae hi’n byw yng Nghaernarfon gyda’i gŵr ac yn fam i ddau o blant.
Dywedodd Iestyn Harris, Cadeirydd Bwrdd Cyfarwyddwyr Galeri Caernarfon y bydd Nia Arfon "yn dod â chyfoeth o brofiad adfywio a datblygu cymunedol ac edrychwn ymlaen i’w chroesawu i’r tîm yn fuan yn y flwyddyn newydd”.
Meleri Davies fydd y Prif Weithredwr dros dro tan i Nia Arfon ddechrau yn swyddogol ar 3 Chwefror, 2025.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Awst
- Cyhoeddwyd9 Ebrill