Dyn i redeg milltir am bob pwynt i wneud rygbi Cymru'n 'fwy hwyl'
![Rhodri Williams](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/600/cpsprodpb/e393/live/fb6ff120-e23b-11ef-9abf-c98f6b7626ba.jpg)
Dywedodd Rhodri ei fod eisiau gwneud y bencampwriaeth yn fwy diddorol yn sgil y canlyniadau gwael diweddar
- Cyhoeddwyd
Mae un o gefnogwyr rygbi Cymru'n wynebu rhedeg milltiroedd ar filltiroedd dros yr wythnosau nesaf ar ôl gosod her yn seiliedig ar ganlyniadau'r tîm cenedlaethol.
Mae Rhodri Williams, Cymro sy'n byw ym Mryste, yn dweud ei fod am redeg milltir am bob pwynt o wahaniaeth yn y gemau mae Cymru'n colli ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Yn dilyn colled drwm nos Wener yn y gêm agoriadol - mae eisoes wedi gwneud 43 milltir ar ôl i Ffrainc drechu tîm Warren Gatland o 43-0 yn y Stade de France.
Dywedodd Rhodri ei fod eisiau gwneud y bencampwriaeth yn fwy diddorol wrth "gyfuno canlyniadau gwael diweddar Gymru a rhedeg a rhannu'r boen".
Yn siarad ar raglen Radio Wales Breakfast, dywedodd Rhodri: "Mae gwylio gemau Cymru wedi bod yn anodd yn ddiweddar ac o'n i'n chwilio am rywbeth i wneud y profiad yn fwy hwyl - os ni'n colli neu'n ennill."
'Gwaeth na'r disgwyl'
Roedd Rhodri wedi paratoi ei hun am golled yn erbyn Ffrainc ond dywedodd ei fod wedi'i synnu gan y sgôr, gyda Chymru'n methu a sgorio pwynt mewn gêm Chwe Gwlad am y tro cyntaf yn eu hanes.
"Ro'n i'n disgwyl i Ffrainc ennill yn gyfforddus gyda gwahaniaeth o ryw 20 pwynt," meddai.
"Doeddwn i ddim yn disgwyl i Gymru orffen y gêm heb yr un pwynt, felly oedd o'n dipyn gwaeth na be o'n i'n ei ddisgwyl!"
Ychwanegodd: "Os ydy'r gwahaniaeth yn fwy na 40 eto, bydd rhaid i fi ailfeddwl sut dwi'n mynd amdani achos oedd y daith dydd Sul yn anodd iawn.
"Dwi 'di disgyn allan o redeg yn ddiweddar a doeddwn i ddim yn disgwyl i'r her ddechrau gyda 43 milltir angen ei wneud yn syth - gobeithio bydd o'n agosach i 10 milltir tro nesa' ar ôl y gêm yn erbyn Yr Eidal."
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd31 Ionawr