Y sêr chwaraeon a newidiodd gampau

- Cyhoeddwyd
Mae'r bencampwraig Olympaidd ar ddau achlysur Jade Jones wedi cyhoeddi ei bod yn rhoi'r gorau i Taekwondo er mwyn rhoi cynnig ar focsio.
Enillodd yr athletwraig 31 oed fedalau aur mewn Taekwondo yn y Gemau yn Llundain yn 2012 ac yn Rio yn 2016. Cafodd ei choroni'n bencampwraig byd yn 2019 ac mae hi hefyd wedi bod yn bencampwraig Ewropeaidd deirgwaith.
Ond nid Jones yw'r unig athletwr i newid camp. Mae'n siŵr hefyd nad hi fydd y diwethaf.
Dyma olwg ar rai o'r rheiny sydd wedi gwneud y naid i gamp arall – a'u llwyddiannau cymysg.
Louis Rees-Zammit

Enillodd Rees-Zammit 32 o gapiau dros Gymru cyn croesi'r Iwerydd i roi cynnig ar bêl-droed Americanaidd
Roedd hi'n dipyn o sioc ym myd rygbi'r undeb fis Ionawr 2024 pan gyhoeddodd Rees-Zammit ei fod yn gadael y gamp er mwyn ceisio creu argraff ym myd pêl-droed Americanaidd.
Cafodd y cyn asgellwr gyda Chymru a Chaerloyw ei dderbyn i'r NFL International Player Pathway (IPP) - sy'n rhoi cyfle i athletwyr elit sicrhau cytundeb gydag un o brif glybiau'r Unol Daleithiau.
Ddiwedd mis Mawrth y llynedd, cafodd gytundeb gyda'r Kansas City Chiefs cyn symud i'r Jacksonville Jaguars ym mis Awst.
Fis diwethaf, fe ail-arwyddodd gyda Jacksonville wrth iddo barhau i geisio gwireddu ei freuddwyd o chwarae yn yr NFL.
Lauren Price

Chwaraeodd Price dros dim pêl-droed Caerdydd o 2012 i 2014
Price yw'r bencampwraig bocsio benywaidd y byd gyntaf o Gymru. Enillodd hefyd y fedal aur yn y Gemau Olympaidd yn Tokyo yn 2020, ynghyd ag aur mewn Pencampwriaeth Byd a Gemau'r Gymanwlad.
Mae'r focswraig 30 oed o Ystrad Mynach – sy'n dal gwregys y WBA yn y pwysau welter - yn paratoi ar gyfer gornest fwyaf ei gyrfa nos Wener, pan fydd hi'n ymladd pencampwraig y WBC a'r IBF Natasha Jonas i uno'r gwregysau.
Ond fe allai Price fod yn paratoi ar gyfer Pencampwriaethau Pêl-droed Ewropeaidd yr haf hwn gyda Chymru.
Wedi chwarae gyda thîm merched Caerdydd, fe enillodd hi ddau gap i'r tîm cenedlaethol 'nol yn 2012 – gan gyd-chwarae gydag enwau fel Jess Fishlock – cyn penderfynu canolbwyntio ar focsio dwy flynedd yn ddiweddarach. Ar ben hyn hefyd, buodd Price yn bencampwraig bocsio cic y byd yn gynharach yn ei gyrfa.
Gerwyn Price

Roedd Gerwyn Price yn chwarae rygbi'r undeb a rygbi'r gynghrair cyn troi ei law at ddartiau - enillodd Bencampwriaeth PDC Dartiau'r Byd yn 2021
Enillodd Gerwyn Price Bencampwriaeth Dartiau'r Byd y PDC yn 2021, y Cymro cyntaf i wneud hynny.
Fe ddechreuodd chwarae dartiau fel hobi yn ei glwb rygbi lleol – tra hefyd yn chwaraewr rygbi.
Buodd yn fachwr gyda chlybiau Cross Keys a Chastell-Nedd yn Uwch Gynghrair Cymru. Fe chwaraeodd hefyd am gyfnod gyda Glasgow Warriors.
Mae Price – gyda'i lysenw 'The Iceman' – wedi ennill 7 prif deitl y PDC hyd yn hyn, ac yn parhau i fwynhau rygbi – fe arwyddodd i'w dim lleol Bedwellte ym mis Ionawr 2023.
Non Evans

Enillodd Non Evans 86 cap dros Gymru rhwng 1996 a 2010
Wedi disgleirio mewn sawl camp ar hyd ei gyrfa, cafodd ei anrhydeddu â'r MBE yn 2011, yn ogystal â hawlio'i lle yn Oriel Anfarwolion Chwaraeon Cymru.
Enillodd 87 cap i dîm rygbi Cymru, yn sgorio 64 cais, gan gicio'r gic gosb fuddugol wrth guro Lloegr am y tro cyntaf.
Yn ogystal â rygbi, enillodd dwy fedal arian yng Ngemau'r Gymanwlad mewn jiwdo. Buodd hi hefyd yn cystadlu'n rhyngwladol yn codi'r pwysau a reslo.
Evans oedd y cyntaf i gynrychioli Cymru mewn tair camp wahanol mewn Gemau Cymanwlad. Buodd hi hefyd yn cystadlu yn y gyfres wreiddiol o 'Gladiators'.
Wilf Wooller

Roedd Wooller yn chwaraewr rygbi, criced, ac yn newyddiadurwr uchel ei barch
Enillodd 18 cap i dîm rygbi Cymru rhwng 1933 a 1939. Chwaraeodd hefyd i glwb rygbi Caerdydd.
Roedd Wooller yn rhan o'r tîm cenedlaethol gurodd Seland Newydd yn 1935 - yr un flwyddyn gwnaeth ei 'debut' yn chwarae criced dosbarth cyntaf gyda thîm Prifysgol Caergrawnt.
Chwaraeodd i Forgannwg am y tro cyntaf yn 1939, ac yn dilyn yr Ail Ryfel Byd, buodd yn gapten y Sir am 14 o flynyddoedd, gan ennill teitl Pencampwriaeth y Siroedd yn 1947.
Yn ogystal, chwaraeodd Wooller, buodd farw'n 84 oed yn 1997, bêl-droed am gyfnod byr gyda chlybiau Caerdydd a'r Bari.
Ian a Liam Botham

Liam Botham yn hawlio pum wiced i Hampshire yn ei gêm gyntaf ar lefel dosbarth cyntaf yn 1996, ac yn cynrychioli Caerdydd yn 2020
Mae blaenasgellwr presennol Cymru, James Botham yn dod o deulu adnabyddus a llwyddiannus o ran chwaraeon – mae ei Dad-cu Ian yn cael ei ystyried gan nifer fel arwr i griced Lloegr, a'r chwaraewr amryddawn gorau o'i genhedlaeth.
Yn ystod ei yrfa ryngwladol rhwng 1974 tan 1993, sgoriodd 19,399 o rediadau, fe gipiodd 1,172 o wicedi mewn 402 gêm.
Chwaraeodd hefyd 11 gêm yn y Gynghrair Bêl-droed i Scunthorpe United. Buodd hefyd yn rhan o dîm Yeovil Town.
Ac fe chwaraeodd ei fab Liam – tad James – dymor gyda chlwb criced Hampshire, cyn newid camp i rygbi'r undeb gan chwarae i Gaerdydd a'r Newcastle Falcons.
Fe chwaraeodd rygbi'r undeb yn ogystal, gyda thimau Leeds Rhinos, London Broncos a Wigan Warriors.
Hefyd o ddiddordeb:
- Cyhoeddwyd7 Mawrth
- Cyhoeddwyd6 Mawrth
- Cyhoeddwyd16 Ionawr