'Dylai pobl sydd wedi lladd a stelcio fyw mewn parthau cyfyngedig'

Dywedodd Rhianon Bragg ei bod yn teimlo'n "gaeth" pan gafodd ei stelciwr ei ryddhau o'r carchar
- Cyhoeddwyd
Dylai pobl sydd wedi cyflawni troseddau llofruddiaeth, dynladdiad neu stelcio gael eu gorfodi i fyw mewn ardaloedd cyfyngedig ar ôl cael eu rhyddhau o'r carchar ar drwydded, meddai ymgyrchwyr.
Dywed Rhianon Bragg, o Wynedd, ei bod yn teimlo'n "gaeth" ar ôl i'w stelciwr gael ei ryddhau o'r carchar yn amodol - doedd ganddo ddim hawl i fynd i bedair sir o gwmpas ei chartref.
Dywedodd y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod yr hyn sy'n cael ei alw yn barthau gwahardd yn atal troseddwyr rhag mynd at ddioddefwyr.
Mae Ms Bragg yn rhan o grŵp o ddioddefwyr sy'n dweud y dylai cyn-garcharorion "risg uchel" fod ond yn gallu byw, gweithio a theithio mewn ardaloedd penodol o'r DU am weddill eu hoes.
Mae rhai arbenigwyr yn poeni y gallai dull o'r fath fod yn gyfystyr â mynd yn groes i hawliau dynol troseddwyr.

Cafodd Rhianon Bragg ei dal yn wystl a'i bygwth gan ei chyn-bartner gyda gwn
Cafodd Ms Bragg, o Rosgadfan, ei stelcian, ei chadw yn wystl ac yna'i bygwth â gwn am oriau gan ei chyn-bartner Gareth Wyn Jones yn 2019.
Cafodd Jones ei garcharu am bedair blynedd a hanner yn 2020 a'i ryddhau'n ddiweddarach ar drwydded ym mis Chwefror 2024.
Mae bod ar drwydded yn golygu bod person yn dal i gael dedfryd o garchar ond yn gallu byw yn y gymuned dan amodau llym.
Ni chafodd Jones fynd i'r pedair sir o amgylch cartref Ms Bragg am gyfnod o bum mlynedd, ond dywedodd Ms Bragg ei bod wedi dechrau teimlo'n "gaeth".
'Dim rhyddid bellach'
"Doedd yna ddim rhyddid bellach, ddim mewn gwirionedd," meddai.
"Efallai ei bod yn swnio yn ardal fawr, ond mater o amser oedd hi.
"Ro'n i'n poeni am deithio a stopio mewn man gwasanaethau rhag ofn y gallai fod yno.
"Roedd bod y tu allan i'r parth diogelwch yn teimlo fel risg go iawn, ac ni ddylai fod felly."
Daeth Ms Bragg i wybod yn ddiweddar fod Jones wedi marw.
"Y bore ar ôl i mi gael y newyddion yna, doeddwn i ddim yn gallu gweithio allan beth oeddwn i'n ei deimlo, doeddwn i ddim yn gallu rhoi enw arno," meddai.
"Roedd yn deimlad gwahanol, anghyfarwydd ac yna 'nes i feddwl yn sydyn, 'dyna yw rhyddid'
"Mae dioddefwyr wedi bod trwy ddigon yn barod, fe ddylen ni i gyd gael y profiad o deimlo'n rhydd."

Mae Emma King a Carole Gould hefyd eisiau gweld rhai troseddwyr yn cael eu gorfodi i fyw a gweithio mewn parthau cyfyngedig
Dywedodd Emma King fod yn rhaid iddi hi "frwydro" i sicrhau bod y dyn a laddodd ei chwaer ddim yn cael dod o fewn pum milltir i'w chartref.
Cafodd Julie Butcher ei llofruddio yn 2005 gan ei chyn-ŵr Richard Butcher yn eu cartref yn Chiseldon, Wiltshire.
Cafodd Butcher ei garcharu am 13 mlynedd, ond dywedodd Ms King iddo symud yn ôl i'r un ardal ar ôl cael ei ryddhau.
"Rydyn ni mewn gwirionedd wedi cael ein carcharu ein hunain nawr mewn ardal fach, a byddwn yn edrych dros ein hysgwyddau am byth," meddai Ms King.
Dywedodd y dylai parthau gwahardd fod yn lleiafswm o 50 milltir (80km) ac y dylid eu cyflwyno wrth ddedfrydu er mwyn osgoi trawma pellach i deuluoedd dioddefwyr.
'A ddylen ni symud i ffwrdd?'
Mae Ms King a Carole Gould bellach yn ymgyrchu gyda'i gilydd.
Cafodd merch 17 oed Ms Gould - Ellie - ei thrywanu i farwolaeth yn ei chartref yn Calne, Wiltshire, yn 2019 gan Thomas Griffiths ar ôl iddi ddod â'u perthynas i ben.
Ar ôl clywed am brofiadau Ms King, dywedodd Ms Gould bod y cyfan yn "arswydus".
"Yn naïf roeddwn i'n meddwl na fyddai Griffiths yn cael dychwelyd i dde-orllewin Lloegr [ar ôl cael ei ryddhau] ond o glywed beth sydd gan Emma i'w ddweud, mae hynny'n golygu y gallai Griffiths symud yn ôl a byw gyda'i rieni, sydd wedi dewis peidio â symud allan o'r ardal," meddai Ms Gould.
"Dydyn nhw ddim yn cymryd i ystyriaeth ein pryderon, heb sôn am y galar, am be ddylen ni ei wneud.
"A ddylen ni symud i ffwrdd neu aros i weld beth sy'n digwydd?"

Carole Gould gyda'i merch Ellie, a gafodd ei thrywanu i farwolaeth yn ei chartref yn 17 oed
Mae Diana Parkes hefyd wedi cymeradwyo'r galwadau am barthau cyfyngedig - fe gafodd ei merch Joanna Simpson ei lladd yn ei chartref yn Berkshire yn 2010.
Dywedodd Ms Parkes, a sefydlodd Ymddiriedolaeth Joanna Simpson yn enw ei merch i gefnogi plant sydd wedi'u heffeithio gan gam-drin domestig a dynladdiad, fod dioddefwyr yn "llawn ofnau" pan mae troseddwyr yn dod allan o'r carchar.
"Mae pob dioddefwr rydw i wedi siarad â nhw am i droseddwr fod mewn parth cyfyngedig ac yn teimlo y dylai'r dioddefwr allu parhau â'i fywyd, oherwydd nad ydyn nhw wedi gwneud dim o'i le," meddai.
"Pam mai mewn ardal waharddedig yn unig y dylen nhw deimlo'n ddiogel?
"Rwy'n ymladd hyd eitha' fy ngallu i wneud yn siŵr bod pobl yn deall - yn enwedig y rhai sy'n deddfu.
"Pe bydden nhw wedi colli aelod o'r teulu fel ni, byddent yn meddwl yn wahanol."
'Mynd yn groes i hawliau dynol'
Dangosodd data diweddaraf y Weinyddiaeth Gyfiawnder fod 62,821 o bobl ar drwydded neu'n cael eu goruchwylio wedi iddyn nhw gael eu rhyddhau ers Medi 2024.
Dywedodd Craig Court, cyfreithiwr o dde Cymru sydd wedi cynrychioli carcharorion a dioddefwyr cam-drin, y gallai cyflwyno parthau cyfyngedig - lle byddai troseddwyr yn byw a gweithio - fynd yn groes i Ddeddf Hawliau Dynol 1998.
Dywedodd fod y ddeddf yn nodi i raddau helaeth pa amodau y dylai troseddwyr eu derbyn.
"Mae ymgyrchoedd dioddefwyr, yn gwbl briodol, wedi galw am amodau mwy cyfyngedig er mwyn sicrhau eu diogelwch a'u lles seicolegol," meddai Mr Court.
"Er fy mod yn cytuno bod mesurau cyfyngu o'r fath yn hollbwysig, yn enwedig lle mae risg barhaus o niwed, mae'r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw gyfyngiad - fel atal troseddwr rhag mynd i mewn i feysydd penodol - gydymffurfio ag Erthygl 5 (hawl i ryddid) ac Erthygl 8 (hawl i fywyd preifat a theuluol) o'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol."
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd7 Tachwedd 2023
- Cyhoeddwyd22 Tachwedd 2024
Ychwanegodd Mr Court nad oedd yr hyn sy'n bod eisoes yn gwahardd amodau sy'n cyfyngu ond ei bod yn ofynnol iddynt fod yn gymesur, yn angenrheidiol, ac yn seiliedig ar asesiad clir o risg barhaus.
Dywedodd mai'r nod yw diogelu anghenion dioddefwyr tra'n peidio â thanseilio hawliau sylfaenol troseddwyr.
"Fel y mae'r gyfraith ar hyn o bryd, mae cyfyngu troseddwr i ardal benodol neu gyfyngu troseddwr rhag gadael ardal ddiffiniedig yn golygu y bydd perygl gwirioneddol o dorri Erthyglau 5 a neu 8," ychwanegodd.
Galw am 'newid y pwyslais'
Dywedodd Ms Gould ei bod yn teimlo y dylai'r pwyslais "newid yn llwyr".
"Mae'n ymwneud â hawliau dynol y troseddwyr ac nid ein rhai ni, ac mae hynny mor anghywir," meddai.
"Mae angen iddyn nhw fod o fewn radiws penodol fel ein bod ni'n gwybod ble maen nhw ac mae gennym ni ryddid yn y DU."
Dywedodd llefarydd ar ran y Weinyddiaeth Gyfiawnder: "Rhaid i ddioddefwyr deimlo'n ddiogel, a dyna pam mae unrhyw droseddwyr sy'n cael eu rhyddhau ar drwydded sy'n torri'r rheolau yn wynebu mynd yn ôl i'r carchar.
"Mae'n rhaid iddyn nhw ddilyn amodau llym, fel cyrffyw, parthau gwahardd sy'n eu hatal rhag mynd at eu dioddefwyr, a chyfyngiadau ar ddefnydd ffôn a rhyngrwyd."
Os yw'r materion yn yr erthygl hon wedi effeithio arnoch gallwch ddod o hyd i fanylion sefydliadau a all helpu drwy BBC Action Line.