Rhaglenni Bore Sul a Cofio i ddod i ben ar BBC Radio Cymru

- Cyhoeddwyd
Mae BBC Radio Cymru wedi cyhoeddi y bydd rhaglenni Bore Sul a Cofio yn dod i ben fis nesaf.
O 2 Mawrth fe fydd Heledd Cynwal yn cyflwyno rhaglen newydd ar foreau Sul rhwng 08:00 a 10:00.
Bydd rhaglen Cofio brynhawn Sul hefyd yn dod i ben ar 16 Mawrth, er mwyn i'r cyflwynydd John Hardy "ganolbwyntio ar ei raglen foreol" yn ystod yr wythnos.
O 23 Mawrth, fe fydd rhaglen gelfyddydau Ffion Dafis hefyd yn cael ei chwtogi o ddwy awr i awr o hyd.
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd1 Hydref 2024
Fe ddechreuodd rhaglen Bore Sul - rhaglen dwy awr o hyd oedd yn trin a thrafod papurau'r Sul, prif straeon newyddion yr wythnos a sgyrsiau gyda gwestai arbennig - nôl yn 2021.
Roedd cyflwynwyr y rhaglen yn amrywio o wythnos i wythnos, gyda Bethan Rhys Roberts, Betsan Powys, Alun Thomas, Iwan Griffiths, ac Elliw Gwawr ymhlith y rhai fu wrth y llyw.

Mae Heledd Cynwal yn dweud ei bod yn "edrych ymlaen at gael dechrau pennod newydd"
Yn ôl BBC Radio Cymru, fe fydd y rhaglen sy'n cymryd ei lle yn trafod profiadau'r wythnos gyda chriw o westeion fydd yn adolygu papurau'r Sul ac yn "rhannu profiadau personol gan fynd â Heledd [Cynwal] ar daith i bob cwr o Gymru".
"Fe fyddwn ni'n gwmni i bawb yn fyw rhwng 8 a 10 bob bore Sul, ac yn ystod y ddwy awr, fe fydd sawl gwestai yn galw mewn i'r stiwdio, lle fyddwn ni'n sgwrsio, rhannu profiade' ac yn cael cyfle i wrando ar gerddoriaeth hyfryd," meddai Heledd.
"Yn ogystal â hynny, fe fydd ambell eitem yn mynd â ni i le neu ardal sy'n bwysig i rywun, yn ogystal â sgyrsiau eraill fydd, gobeithio, yn dod ag atgofion yn ôl i'r gwrandawyr gartref.
"'Wy' wir yn edrych mla'n at gael dechrau pennod newydd, ac mae'n deimlad hollol fendigedig cael bod yn rhan o orsaf sy' 'di bod yn gwmni i fi ers yn groten fach.
"Mae'n deimlad cyffrous wrth feddwl am ddechrau arni, ac mae'r drws led y pen ar agor i bawb i ymuno â ni."

Bydd John Hardy yn parhau i gyflwyno ei raglen foreol yn ystod yr wythnos
Fe ddechreuodd rhaglen wythnosol Ffion Dafis ym mis Ebrill 2023, a hynny ar ôl i'r orsaf gael ei beirniadu'n llym gan rai am ddod â'r unig raglen benodol ar y celfyddydau - Stiwdio - i ben yn 2022.
Yn ôl Ffion Dafis, er gwaetha'r cwtogi o ran hyd y rhaglen, fe fydd yn "parhau i fod yn adlewyrchiad o weithgarwch byd y theatr, celf weledol, cyhoeddi a cherddorol yng Nghymru heddiw".
"Er mwyn sicrhau ein bod yn gallu adlewyrchu'r ystod eang o gelfyddydau yng Nghymru fe fydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ein gwesteion ac ar y sgwrs gan adael y gerddoriaeth i Linda Griffiths, fydd yn dilyn ein rhaglen am 14:00."
'Diolch yn ddiffuant'
Dywedodd Dafydd Meredydd, golygydd BBC Radio Cymru: "Mae'n braf iawn cael croesawu Heledd i gyflwyno rhaglen newydd ar BBC Radio Cymru.
"Mae ei phrofiad a'i dawn o drin a thrafod pobl a chymunedau Cymru yn amlwg ac edrychwn ymlaen at gael ein tywys drwy'r wythnos a fu a'r wythnos sydd i ddod yn ei chwmni.
"O bryd i'w gilydd mae pob gorsaf radio yn gwneud newidiadau i'r amserlen, a dydi Radio Cymru ddim yn eithriad.
"Dyw hynny'n tynnu dim i ffwrdd o'r rhaglenni gwych sydd wedi bod a'r cyflwynwyr talentog sydd wedi bod wrth y llyw.
"O dro i dro mae'n beth iach i ddod a chynnwys creadigol o'r newydd gerbron.
"Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i griw Bore Sul – y cyflwynwyr a'u gwesteion - am eu cwmni dros y blynyddoedd ac i John Hardy sydd wedi dwyn cymaint o gynnwys gwych i'n cof ar ei raglen Cofio.
"Rydw i'n hynod o falch y byddwn ni'n dal i glywed ei lais yn y bore bach ar yr orsaf."
Amserlen dydd Sul newydd Radio Cymru
05:30 Linda Griffiths
07:00 Troi'r Tir
07:30 Caniadaeth y Cysegr
08:00 Heledd Cynwal
10:00 Swyn y Sul
12:00 Yr Oedfa
12:30 Bwrw Golwg
13:00 Ffion Dafis
14:00 Linda Griffiths (ail ddarllediad)
15:30 Troi'r Tir (ail ddarllediad)
16:00 Dogfen / Drama / Adloniant
16:30 Caniadaeth y Cysegr (ail ddarllediad)
17:00 Dei Tomos
18:00 Beti a'i Phobol
19:00 Y Talwrn
20:00 Ar Eich Cais
21:00 John ac Alun
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Ionawr
- Cyhoeddwyd20 Ionawr
- Cyhoeddwyd30 Medi 2024