Plaid Cymru'n addo 'hybiau llawfeddygol' i daclo rhestrau aros

Tu fewn i ysbyty The Grange Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Byddai'r canolfannau'n cael eu sefydlu ledled Cymru, gyda phob un wedi'i neilltuo ar gyfer arbenigedd penodol

  • Cyhoeddwyd

Mae Plaid Cymru'n dweud y byddai'n sefydlu o leiaf un "hwb llawfeddygol" ym mhob ardal bwrdd iechyd pe bai'n ennill etholiad y Senedd yn 2026.

Fe fyddai'r canolfannau yn rhan o'u cynlluniau - a gafodd eu cyhoeddi ddydd Mawrth - i geisio lleihau rhestrau aros y gwasanaeth iechyd.

Mae canolfan o'r fath eisoes yn bodoli ym Mhort Talbot, gyda dau arall wedi'u cynllunio ar gyfer Llandudno a Llantrisant.

Gyda rhestrau aros iechyd yng Nghymru wedi parhau i gynyddu am wyth mis yn olynol, mae iechyd am fod yn un o'r prif frwydrau cyn etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026.

Mae'r Prif Weinidog Eluned Morgan eisoes wedi dweud mai iechyd fydd un o'i phrif flaenoriaethau.

Fe wnaeth Llywodraeth Cymru glustnodi £50m i geisio lleihau rhestrau aros y llynedd.

Byddai'r "hybiau gofal dewisol" sy'n cael eu hawgrymu gan Blaid Cymru yn cael eu sefydlu ledled Cymru, gyda phob un wedi'i neilltuo ar gyfer arbenigedd penodol.

Nid yw'r cynllun yn golygu adeiladu safleoedd newydd na recriwtio staff ychwanegol, ond yn hytrach ail-bwrpasu ysbytai presennol ac ad-drefnu staffio yn unol â hynny.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mabon ap Gwynfor bod cynlluniau Plaid Cymru am "daclo'r ôl-groniad a dod â rhestrau aros i lawr"

Byddai uned newydd hefyd yn cael ei greu rhwng gofal meddygon teulu a meddygon ymgynghorol er mwyn ailasesu'r angen i gleifion fod ar restr aros yn y lle cyntaf, meddai Plaid Cymru.

Nod y "gwasanaeth triage gweithredol" yma fyddai ceisio gwella'r broses atgyfeirio.

Mae cynlluniau'r blaid hefyd yn sôn am greu dyletswydd gyfreithiol ar fyrddau iechyd i gydweithio ar ddod o hyd i gapasiti ar gyfer apwyntiadau.

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Mabon ap Gwynfor bod y cynllun am "daclo'r ôl-groniad a dod â rhestrau aros i lawr".

"Ar y diwrnod cyntaf, bydd llywodraeth Plaid Cymru yn cymryd camau ar unwaith i wella'r broses o atgyfeiriadau triniaeth drwy sefydlu gwasanaeth brysbennu gweithredol; sicrhau mwy o gydweithio rhwng byrddau iechyd i nodi capasiti ar gyfer apwyntiadau... a chyflwyno hybiau llawfeddygol dros dro ar draws Cymru i gael pobl i gael triniaeth."

'Cynnydd wedi'i wneud' ar restrau aros

Dywedodd Llywodraeth Cymru: "Mae GIG Cymru yn gweithio'n galed i ddarparu gofal o ansawdd uchel ac mae cynnydd wedi'i wneud i leihau'r amseroedd aros hiraf am driniaeth."

Ychwanegodd llefarydd eu bod wedi buddsoddi £50m yn ychwanegol i gefnogi byrddau iechyd a bod £600m yn rhagor wedi'i ddyrannu i iechyd a gofal cymdeithasol yn y gyllideb ddrafft.

Dywedodd fod y nifer sy'n aros dros ddwy flynedd am driniaeth wedi gostwng dwy ran o dair ers eu hanterth yn y pandemig, a bod yr amser aros cyfartalog rhwng atgyfeiriad a thriniaeth wedi gostwng o 29 wythnos i 23 wythnos.