Dau ddyn yn ddieuog o gynllwynio i ladd gwraig un ohonynt

Mae Paul Lewis a Dominique Saunders wedi eu cael yn ddieuog o gynllwynio i lofruddio gwraig un ohonyn nhw
- Cyhoeddwyd
Mae dau ddyn o Abertawe wedi eu cael yn ddieuog o gynllwynio i drefnu i rywun ladd gwraig un ohonyn nhw.
Roedd yr erlyniad yn honni fod Paul Lewis, 54, wedi talu £1,500 i Dominique Saunders, 35, i drefnu i ladd ei wraig, Joanne Atkinson-Lewis, rhwng mis Chwefror a mis Ebrill 2023.
Fe ddywedodd timau amddiffyn y ddau wrth y rheithgor fod Mr Saunders wedi twyllo Mr Lewis, ac nad oedd ganddo erioed y gallu na'r bwriad i gyflogi llofrudd.
Dywedodd y Barnwr, Mr Ustus Nicklin, wrth y rheithgor, er mwyn cyrraedd rheithfarn euog, fod yn rhaid iddyn nhw fod yn siŵr bod y ddau ddyn wedi gwneud cytundeb i ladd Joanne Atkinson-Lewis a bod bwriad gan y ddau ddyn i'r cynllun hwnnw "gael ei gyflawni".
Ar ôl dwy awr ac ugain munud, penderfynodd y rheithgor eu bod yn ddieuog.
'Sgamiwr, twyllwr'
Fe glywodd y llys fod gan Mr Lewis hanes o broblemau iechyd meddwl a'i fod wedi treulio cyfnodau hir mewn ysbytai seiciatrig, gan gynnwys o gwmpas cyfnod yr honiadau.
Dywedodd ei fargyfreithiwr John Hipkin fod Mr Saunders wedi manteisio arno ar yr achlysur hwn ac yn y gorffennol, a bod tystiolaeth yn yr achos yn ymwneud â "dyn a oedd yn sâl yn feddyliol a rhywun oedd yn sgamiwr, yn dwyllwr".
Talodd Mr Lewis £1,500 i Mr Saunders. Fe wnaeth Mr Saunders anfon £1,300 o hwnnw i'w gyfrif banc.
Clywodd y rheithgor fod y ddau wedi bod yn anfon negeseuon testun at ei gilydd yn rheolaidd yn ystod yr wythnosau wedi hynny.

Talodd Paul Lewis £1,500 i Dominique Saunders (ar y dde)
Dywedodd yr erlyniad fod ceisiadau rheolaidd wedi bod gan Paul Lewis yn gofyn a oedd "unrhyw newyddion?", gan gynnwys gofyn am gael gweld cynnwys oedd ar gamera GoPro.
Cyfeiriodd Mr Hughes hefyd at negeseuon yn dweud bod Mr Lewis wedi dweud ei fod wedi "gweld Joanne ar draeth Aberafan ac roedd hi'n edrych yn iawn".
Atebodd Mr Saunders gan ofyn a oedd yn siŵr.
Mewn negeseuon diweddarach, dywedodd Mr Lewis "talais £1,500 mewn ffydd dda" a "rwy'n dechrau meddwl tybed a ydw i wedi cael fy sgamio allan o £1,500".
Pan ofynnodd Mr Saunders "sut ydw i wedi eich sgamio chi?", derbyniodd neges yn dweud "mae hi'n dal i anadlu".
- Cyhoeddwyd14 awr yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
Fe glywodd y rheithgor dystiolaeth hefyd gan fab Paul Lewis, Kieron, a dywedodd wrth y llys ei fod wedi mynd i fflat ei dad ar 29 Ebrill 2023 wedi i'w nain fynegi pryder.
"Gofynnais yn blaen a oedd wedi trefnu hit ar Joanne," meddai.
"Wnaeth e ddim ateb, ond nodio i gadarnhau a dechrau crio."
Dywedodd y barnwr wrth y rheithgor fod angen iddyn nhw ystyried a oedd y cytundeb yn un "yr oedd y ddau yn bwriadu ei anrhydeddu".
Os nad oedd y bwriad hynny, roedd yn rhaid cael y ddau ddyn yn ddieuog o'r cyhuddiad o gynllwynio i lofruddio.
'Sgam o'r cychwyn cyntaf'
Dywedodd John Harrison, wrth amddiffyn Dominique Saunders, fod ei gleient yn cael ei adnabod fel "Dippy Dominique" ac na fyddai'n gallu trefnu i rywun ladd rhywun arall.
Aeth ymlaen i ddweud "pe na bai'r achos mor ddifrifol i'r diffynyddion, mi fyddai hyn yn ddoniol".
"Nid oes unrhyw dystiolaeth ei fod yn llofrudd llawn amser, rhan amser nac unrhyw amser," ychwanegodd.
Dywedodd Mr Harrison wrth y rheithgor fod ei gleient wedi manteisio ar Mr Lewis pan oedd yn agored i niwed trwy ei sgamio a chymryd yr arian.
Dywedodd y gallai Mr Saunders "fod yn haeddu ei gondemnio" ond nad oedd hynny'n dystiolaeth o gytundeb i ladd Joanne Atkinson-Lewis.
Dywedodd Mr Harrison na wnaeth Mr Saunders unrhyw beth "oherwydd nad oedd cytundeb rhyngddynt ac nad oedd ganddo unrhyw fwriad i wneud unrhyw beth ynglŷn â lladd Joanne Atkinson-Lewis".
Dywedodd: "Sgam oedd hwn o'r cychwyn cyntaf. Doedd e byth yn gytundeb ac mae'n ceisio dianc gyda £1,500."
Diolchodd y barnwr Mr Justice Nicklin i'r rheithgor am eu gwaith ar yr achos, gan ddweud eu bod wedi cyflawni eu gwaith "yn ddiwyd ac yn ofalus".
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.