Rygbi Caerdydd... 150 mlynedd o hanes
- Cyhoeddwyd
Roedd Clwb Rygbi Caerdydd yn un o'r 11 a sefydlodd Undeb Rygbi Cymru mewn cyfarfod yn y Castle Hotel yng Nghastell-nedd yn 1881.
Cafodd Clwb Rygbi Caerdydd ei hun ei sefydlu yn 1876, ond yn hytrach na dathlu pen-blwydd arbennig yn 150 y tymor nesaf, mae'r cefnogwyr yn mynd drwy gyfnod o ofidio am y dyfodol.
Wythnos yma daeth y newyddion bod Rygbi Caerdydd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr.
Felly, gyda sefyllfa bresennol Rygbi Caerdydd yn cael ei thrafod, dyma gipolwg ar hanes un o dimau/ranbarthau eiconig Cymru.

Un o'r lluniau cynharaf o dîm rygbi Caerdydd (1881)
Mae'n debyg bod tîm rygbi yng Nghaerdydd ers oddeutu 1870, ond fe chwaraeodd tîm o dan yr enw 'Caerdydd' yn gyntaf yn 1876 mewn gêm yng Nghasnewydd.
Yn 1881 enillodd Caerdydd ei thlws cyntaf drwy guro Llanelli i gipio Cwpan Her De Cymru - cystadleuaeth a gafodd ei diddymu yn fuan wedyn.
Yn 1898 Caerdydd oedd pencampwyr (answyddogol) Cymru am y tro cyntaf erioed. Blwyddyn yn ddiweddarach cafodd Gwyn Nicholls ei ddewis fel y chwaraewr cyntaf o'r clwb i gynrychioli'r Llewod. Mae'r giatiau i Barc yr Arfau o ochr Gwesty'r Angel gyda'i enw arnynt.
Yn 1905 roedd pedwar o chwaraewyr Caerdydd yn nhîm Cymru a drechodd y Crysau Duon, ac yn 1907 roedd Caerdydd yn fuddugol yn erbyn De Affrica 17-0 - dipyn o gamp o ystyried i'r tîm Springboks yna guro Cymru 0-11.

Mae'n debyg mai o 1894 ymlaen y cychwynodd Caerdydd ddefnyddio streips glas a du, yn hytrach na'r sgwariau blaenorol
Cafodd y Rhyfel Byd Cyntaf gryn effaith ar y clwb, gyda'r chwaraewr Johnnie Williams yn marw ym Mrwydr Y Somme, a nifer o chwaraewyr eraill yn cael eu hanafu a gorfod rhoi'r gorau i chwarae.
Wedi'r rhyfel fe unodd Clwb Rygbi Caerdydd a Chlwb Criced Caerdydd i greu Clwb Athletau Caerdydd. Dyma'r sefydliad ymbarél sydd uwchlaw Clwb Rygbi Caerdydd heddiw, yn ogystal â'r Clwb Criced, Clwb Bowls, tenis a hoci. Ffurfio Clwb Athletau Caerdydd oedd y cam allweddol i berchnogi Parc yr Arfau.
Curo'r Crysau Duon yn '53
Dros y blynyddoedd mae Caerdydd wedi curo Seland Newydd, Awstralia, De Affrica, Yr Eidal, Rwmania, Canada, Fiji ac ambell wlad arall. Ond mae'n debyg daeth y fuddugoliaeth enwocaf yn 1953.
Mae tîm Seland Newydd o ddechrau'r 1950au yn cael ei ystyried fel un o'r timau rygbi rhyngwladol gorau erioed, ac roeddent ar daith i Brydain, Iwerddon, Ffrainc a Gogledd America yn 1953-54.
Chwaraeodd y Crysau Duon 36 gêm, gan golli dim ond pedair. Caerdydd oedd yr unig glwb i guro'r Crysau Duon ar y daith honno – Cymru, Ffrainc, a thîm de-orllewin Ffrainc oedd y timau eraill i gael y gorau arnynt.
Y canolwr Bleddyn Williams oedd capten Caerdydd yn y gêm gofiadwy ar 21 Tachwedd, 1953, ac ef oedd capten Cymru hefyd yn y fuddugoliaeth ar 19 Rhagfyr.

Y tîm a gurodd Seland Newydd yn 1953
Bu cyfnod ar ddiwedd y 1960au pan yr oedd Gareth Edwards, Barry John a Gerald Davies i gyd yn chwarae ymysg olwyr y tîm, ac yn yr 1980au daeth chwaraewyr adnabyddus fel Gareth Davies, Mark Ring a Terry Holmes i'r clwb.

Chwaraeodd Gareth Edwards gyda Chaerdydd drwy gydol ei yrfa (1966-1978)
Gan fod rygbi'r undeb yn parhau fel gêm amatur yn yr 1980au a 1990au cynnar fe adawodd llawer o dalent y clwb i chwarae rygbi'r gynghrair yng ngogledd Lloegr – y mewnwr Terry Holmes, a'r prop, Dai Young, i enwi dau.
Ond fe barhaodd y clwb i gynhyrchu chwaraewyr o'r radd flaenaf, fel Mark Ring, Mike Hall a Rob Norster.

Mark Ring a Rob Howley, dau o sêr Caerdydd yn yr 1980au a 1990au
Proffesiynoldeb rygbi
Ar ddiwedd tymor 1995–96 fe fuddsoddodd Peter Thomas arian mawr yn y clwb a olygai bod posib arwyddo Dai Young yn ôl o rygbi'r gynghrair, yn ogystal â Rob Howley, Leigh Davies, Gwyn Jones a Justin Thomas.
Cyrhaeddodd Caerdydd ffeinal Cwpan Ewrop yn 1996 gan golli 21-18 yn erbyn Toulouse wedi amser ychwanegol.
Yn 1998-99 fe wrthododd Caerdydd ac Abertawe chwarae yn Uwchgynghrair Cymru, gan chwarae cyfres o gemau cyfeillgar yn erbyn timau Lloegr. Roedd Caerdydd am weld cynghrair Prydeinig yn cael ei ffurfio, gyda thimau o Loegr a'r Alban, ond fe wrthododd Undeb Rygbi Cymru'r cynnig.
Crëwyd y Cynghrair Celtaidd yn 2001, gan uno timau Cymru, Iwerddon a'r Alban mewn cystadleuaeth – naw tîm o Gymru, pedair talaith Wyddelig, Caeredin a Glasgow. Ymunodd Iestyn Harris â'r Gleision am £1m, gan sgorio hatrick o geisiau yn ei gêm gyntaf, sef buddugoliaeth 46-7 yn erbyn Glasgow.

Iestyn Harris, y seren rygbi'r gynghrair a ddaeth i Gaerdydd yn 2001
Creu'r Gleision
Yn 2003 daeth rhanbarthau Cymru i fodolaeth, gyda phum rhanbarth newydd yng Nghymru – y pedwar sydd gennym heddiw a'r Rhyfelwyr Celtaidd, a chwaraeodd am un tymor yn unig.
Yn fuan wedi ffurfio'r Gleision daeth nifer o enwau mawr i'r rhanbarth fel Xavier Rush a Jonah Lomu o Seland Newydd yn dod yn 2005, a Kiwi arall, Ben Blair, flwyddyn yn ddiweddarach.

Un o chwaraewyr eiconig y byd rygbi, Jonah Lomu, yn chwarae dros y Gleision yn erbyn Calvisano, 17 Rhagfyr, 2005
Enillodd Caerdydd y Gwpan Eingl-Gymreig yn 2009 gan guro Caerloyw 50-12 yn y rownd derfynol.
Yn yr un flwyddyn fe gyrhaeddodd Y Gleision rownd cynderfynol Cwpan Ewrop, gan golli i Gaerlŷr mewn gêm ddramatig yn dilyn 'shootout' at y pyst.

Roedd Ben Blair, y cefnwr amryddawn o Seland Newydd, gyda'r rhanbarth o 2006 i 2012
Y Gleision oedd y tîm cyntaf o Gymru i ennill anrhydedd Ewropeaidd, gan gipio Cwpan Her Ewrop yn 2010.
O flaen torf o 50,000 yn Marseilles fe enillodd Y Gleision yn erbyn Toulon, a oedd yn cynnwys chwaraewyr fel Sonny Bill Williams a Johnny Wilkinson yn eu rhengoedd.
Yn 2018 llwyddodd Y Gleision gyflawni'r un gamp drwy ennill Cwpan Her Ewrop am yr ail waith, gan guro Caerloyw yn y rownd derfynol yn y San Mames, Bilbao.

Y Gleision yn codi'r Cwpan Her yn 2010 a 2018
Eleni, er gwaethaf y trafferthion oddi ar y cae mae'r rhanbarth yn gobeithio cadw ei safle yn wyth uchaf y Cynghrair Rygbi Unedig, ac ennill lle ym mhrif gystadleuaeth Ewrop y tymor nesaf.
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd5 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl
- Cyhoeddwyd6 o ddyddiau yn ôl