'Fedrwn ni ddim cael pedwar rhanbarth, does dim digon o arian'

Steffan EmanuelFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae Rygbi Caerdydd wedi cyhoeddi eu bod yn bwriadu mynd i ddwylo gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd

Nid oes modd cael pedwar clwb rygbi proffesiynol yng Nghymru bellach gan nad oes digon o arian ar gael i'w cynnal, yn ôl cyn-brif weithredwr Chwaraeon Cymru.

Daw'r sylwadau wedi'r cyhoeddiad ddydd Llun bod disgwyl i Rygbi Caerdydd fynd i ddwylo'r gweinyddwyr, gydag Undeb Rygbi Cymru (URC) yn debygol o berchnogi'r rhanbarth.

Dywedodd Huw Jones fod dyfodol rygbi yn gyffredinol yn "anodd iawn" ond bod angen edrych eto ar strwythur y gêm yng Nghymru, gan sicrhau fod y clybiau yn "yr ardaloedd iawn".

Mae URC yn dweud eu bod yn "cydweithio'n agos gyda bwrdd Rygbi Caerdydd a'r gweinyddwyr i ddiogelu dyfodol rygbi proffesiynol yn y brifddinas".

Y grŵp buddsoddi Helford Capital Limited sydd wedi bod yn berchen ar Rygbi Caerdydd ers mis Ionawr 2024 ar ôl prynu gwerth 84.55% o gyfranddaliadau yn y tîm rhanbarthol.

Wedi'r cyhoeddiad ddydd Llun, mae URC yn debygol o berchnogi'r rhanbarth ond nid oes modd gwneud hynny yn syth.

Mae disgwyl i Undeb Rygbi Cymru gyhoeddi cytundeb newydd gyda'r pedwar rhanbarth yn y dyfodol agos - un a fyddai'n sicrhau parhad y pedwar rhanbarth, yn ogystal â chynnig arian ychwanegol i Gaerdydd, y Dreigiau, y Gweilch a'r Scarlets.

Matt SherattFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Nid oes disgwyl i Rygbi Caerdydd golli pwyntiau fel cosb am fynd i ddwylo'r gweinyddwyr

Ar raglen Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Huw Jones - cyn-bennaeth Chwaraeon Cymru sydd hefyd yn cefnogi Rygbi Caerdydd - fod yna gwestiynau mawr i'w hateb.

"Mae'n drist iawn gweld hyn yn digwydd i glwb sy'n mynd i ddathlu 150 mlwyddiant y flwyddyn nesa', clwb sydd wedi cael mwy o chwaraewyr yn cefnogi'r Llewod nag unrhyw glwb arall yn ynysoedd Prydain," meddai.

"Ond mae 'na bryder hefyd - am y staff sy'n gweithio yn y clwb, y chwaraewyr a'r hyfforddwyr.

"Mae'n amser anodd, ni ddim yn gwybod beth sy'n mynd i ddigwydd o ran y gweinyddwr. Ma' fe i gyd yn dibynnu ar sut mae'r gweinyddwr yn edrych ar y clwb ac yn asesu ffordd ymlaen, efallai fe welwn ni newidiadau... ond mae'n rhy fuan i ddweud hynny ar y funud."

'Dyfodol rygbi yn un anodd iawn'

Ychwanegodd Mr Jones: "Fe fydd yn andros o broblem i ddod o hyd i brynwr newydd.

"Pwy sydd efo arian ar y funud sy'n mynd i fuddsoddi mewn i rygbi? Ar wahân i URC dwi ddim yn gweld neb arall yn gallu dod i mewn.

"Ma' dyfodol rygbi yn un anodd iawn, dyw cwmnïau teledu ddim yn fodlon talu llawer o arian - a'r unig ffordd yn ôl, alla i ei weld, yw fedrwn ni ddim cael pedwar clwb proffesiynol, does 'na ddim digon o arian yng Nghymru.

"Ond, os ydyn ni'n mynd i gael tri chlwb, neu hyd yn oed dau, mae'n rhaid 'neud yn siŵr bod nhw'n yr ardaloedd iawn.

"Ma' Caerdydd ynghanol y ddinas, ma' nhw'n cael mwy o gefnogwyr nac unrhyw glwb arall, ond mae rhaid edrych yn fwy manwl ar y sefyllfa na hynny cyn gwneud y penderfyniad."

Parc yr ArfauFfynhonnell y llun, Getty Images

Yn ôl y newyddiadurwr Simon Williams, sy'n rheoli gwefan Rygbi Gwlad, mae'n anodd gweld sefyllfa lle byddai modd parhau gyda phedwar rhanbarth.

"Ni 'di bod yn trafod ers misoedd ynglŷn ag a ydyn ni'n gallu cynnal pedwar clwb proffesiynol, ac mae lot o bobl yn dod i'r casgliad yn anffodus, a dwi'n un ohonyn nhw, dwi ddim eisiau cyrraedd y pwynt yma, ond dwi ddim yn gweld siwt allen ni gynnal pedwar clwb bellach o ran yr arian a nifer y chwaraewyr," meddai.

"Os nad yw Caerdydd yn gallu cynnal e, mae'n anodd gweld [pwy fyddai yn gallu]. Does gennyn ni ddim yr arian yn y byd rygbi yng Nghymru, na chwaith mewn ardaloedd eraill yn y byd.

"Ry' ni'n gweld cytundebau teledu yn crebachu, gwerth pecynnau noddi yn lleihau, torfeydd yn lleihau - mae'r gêm yn gyffredinol mewn sefyllfa wan iawn.

"O ran Cymru, mae'n bosib iawn ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt lle mae angen i ni ystyried o ddifrif os allwn ni gynnal pedwar bellach."

'Rhaid i rywbeth fodoli yng Nghaerdydd'

"Mae rhywun yn teimlo, be' bynnag yw'r datrysiad, ble bynnag 'y ni'n cyrraedd o ran tri chlwb, neu dau ranbarth newydd sbon - bydd rhaid i rywbeth fodoli yng Nghaerdydd gan mai dyna le mae'r arian a'r bobl. Maen sefyllfa drist iawn," ychwanegodd Mr Williams.

"Dyw'r gêm ddim yn gweithio ar lefel ariannol nag ar y cae yng Nghymru - ychydig iawn o wledydd sy'n gallu gwneud i rygbi proffesiynol weithio fel y mae ar hyn o bryd.

"Mae rhywbeth mwy pellgyrhaeddol angen digwydd - efallai ailstrwythuro o ran y gofynion ariannol, cymryd bach o reality check, neu oes cyfle, falle, i Gymru a Lloegr baru fyny mewn rhyw gynghrair Eingl-Gymreig? Mae hynny'n rywbeth sydd wedi bod ar y bwrdd ar wahanol adegau.

"Ond mae angen rhywbeth sylweddol i newid a gweithredu eithaf uchelgeisiol gan yr undeb."

Mewn datganiad ddydd Llun, dywedodd URC: "Rydym yn ymwybodol bod Clwb Rygbi Caerdydd wedi cadarnhau eu bwriad i benodi gweinyddwyr, ac rydym yn cydweithio'n agos gyda bwrdd y clwb a'r gweinyddwyr i ddiogelu dyfodol rygbi proffesiynol yng Nghaerdydd."

Dr Edward Thomas Jones
Disgrifiad o’r llun,

Fydd rhaid i'r clwb wneud newidiadau neu "bydd hi drosodd" i Rygbi Caerdydd, meddai Dr Edward Jones

Yn ôl yr economegydd Dr Edward Jones o Brifysgol Bangor, fe fydd angen i'r clwb wneud newidiadau os am oroesi'r heriau ariannol presennol.

"Yn gyntaf mi fydd yn rhaid edrych ar y tîm rheoli a gofyn iddyn nhw gymryd toriad cyflog, i ddangos eu bod nhw'n credu bod 'na ddyfodol i'r clwb.

"Os tydyn nhw ddim yn 'neud hynny, fyswn i'n tybio y bydd hi drosodd i Glwb Rygbi Caerdydd yn y ffordd maen nhw rŵan.

"Wedyn, mae'n rhaid edrych os oes modd arbed arian mewn llefydd eraill a sut allwn ni ailstrwythuro'r clwb."

Dadansoddiad

Y peth cyntaf i ddweud yw pa mor drist yw gweld brand fyd-eang fel Caerdydd mewn dyfroedd dyfnion.

Ni'n credu mai'r undeb fydd yn cydio yn yr awenau, ond am ba hyd? Yr unig gynsail i hyn yw beth ddigwyddodd i'r Dreigiau, ond fe barhaodd y berchnogaeth hynny am chwe blynedd.

Y cwestiwn arall yw oes yna unigolion a chwmnïau preifat yn barod i ariannu a sicrhau bod 'na arian yn llifo drwy'r coffrau?

Dwi'n credu bod e'n rhan o ddarlun ehangach, ddim wedi'i gyfyngu i Gymru, ac mae'n dangos y problemau dirfawr sy'n wynebu'r gamp ar draws y byd.

Mae cymaint o anawsterau yn wynebu URC ar hyn o bryd, a ni dal heb gael yr adroddiad hirddisgwyliedig ynglŷn â'r ffordd ymlaen.

Mae'r cynllun yn seiliedig ar bedwar tîm rhanbarthol, ond mae'n gwestiwn mawr nawr a fydd hynny'n digwydd.