Dadorchuddio placiau i nodi canmlwyddiant geni Richard Burton

Richard Burton yn siarad ar y radio yn 1977
- Cyhoeddwyd
Mae dau blac glas wedi cael eu dadorchuddio i ddathlu canmlwyddiant geni'r actor Richard Burton.
Cafodd y placiau eu gosod ym man geni Richard Burton ym Mhont-rhyd-y-fen ac yn hen gartref ei fentor, Philip Burton, dydd Llun, gyda'r ffilm Mr Burton yn cael ei darlledu ar BBC 1 am 20:00.
Mae'r cynhyrchiad gan Severn Screen yn archwilio'r berthynas rhwng Richard Burton a'i fentor Philip, gan dynnu sylw at sut mae'r ysbryd creadigol yn dal i ffynnu mewn cymuned fach yng Nghastell-nedd Port Talbot.
Dywedodd nith Richard Burton, Sian Owen, ei bod yn "anrhydedd fawr" i'w hewythr a'i theulu.

"Dwi wedi cael amser anhygoel yn fy mywyd diolch i wncwl Rich," meddai ei nith, Sian Owen
"Mae'n bwysig iawn. Mae'r plant heddiw efallai ddim yn gwybod amdano felly mae'n bwysig bod nhw'n cael hwn yma i bobl cael gweld," meddai.
"Ni'n dal i gael pobl yma o America a dros y byd i gyd i weld lle ga'th e ei eni."
Mae gan Sian atgofion melys o dreulio amser gyda'r actor a'i wraig Elizabeth Taylor ym Mhont-rhyd-y-fen.
"Elizabeth oedd yr unig wraig arhosodd yn y tŷ ym Mhont-rhyd-y-fen. Oedd pawb arall mewn five star hotels.
"[Dwi'n cofio] un Nadolig gathon ni anrhegion o Macy's yn New York, a wedyn o'n i fel y bee's knees.
"Dwi wedi cael amser anhygoel yn fy mywyd diolch i wncwl Rich."

Y plac tu allan i hen gartref Philip Burton, mentor yr actor Richard Burton
Dywedodd yr actor Steffan Rhodri, sy'n chwarae rhan tad biolegol Richard, Dic Jenkins, yn y ffilm Mr Burton ei fod wedi dod i adnabod ochr newydd i Richard Burton.
Wrth siarad ar raglen Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru dywedodd Steffan, sy'n adnabyddus am ei ran yn Gavin & Stacey, Y Gwyll ac Yr Amgueddfa, ei fod wedi bod "yn brofiad hyfryd".
Dywedodd ei fod yn chwarae tad go iawn Richard Burton, "Richard Jenkins odd e'n wreiddiol wrth gwrs, ac ma'r ffilm yn dweud y stori am shwt gymrodd e'r enw Burton o'i athro a'i fentor e, Philip Burton".
Yn ei rôl mae Steffan yn ceisio "dangos rhyw fath o ddrych, rhyw fath o baralel os lici di" rhwng ei gymeriad e fel tad nad oedd yn bresennol a'r ffigwr "ddath yn dad iddo fe mewn ffordd, Philip Burton".
"Be' ma' (Richard Burton) yn neud yn y ffilm yw mynd yn ôl i chwilio am ei dad e, am gariad, ac yn amlwg do'dd Dic methu bod yn dad iddo fe," meddai.
"Roedd Dic yn dal i weithio dan ddaear ac yn gaeth i alcohol yn ôl y sôn, so dyna sy'n cael ei ddangos yn y ffilm mewn ffordd."

Cafodd y plac ym man geni Richard Burton ym Mhont-rhyd-y-fen ei ddadorchuddio dydd Llun
"Roedd e'n brofiad rhyfedd" meddai.
Ar ddiwrnod cyntaf ffilmio fe wnaeth Kate Burton, merch Richard Burton, "droi lan fel ymwelydd i wylio ni'n ffilmio ac odd hi'n gwylio fi yn chwarae ei thad-cu hi".
"Odd hwna'n brofiad rhyfedd – ond des i nabod hi a dwi 'di cwrdd â hi yn Efrog Newydd ers hynny.
"So o'dd hwna'n brofiad hyfryd i ddod i 'nabod y teulu hefyd," meddai.
Mae'r ffilm wedi cael ei dangos yn y sinema eisoes a dywedodd ei fod wedi cael ymateb "rhyfeddol".
"Mae pobl yn browd iawn o Richard Burton ym Mhort Talbot".

Dywedodd Steffan Rhodri mai Richard Burton "oedd wedi 'goleuo'r ffordd'" i actorion y dyfodol
Roedd dylanwad yr actor adnabyddus yn anferth meddai Steffan yn enwedig ar actorion o Gymru.
"Fe oedd wedi 'goleuo'r ffordd' os lici di i actorion oedd yn dilyn.
"Mae e fel eicon ym myd actio a fe falle oedd un o'r Cymry modern mwya' enwog dros y byd - yn fyd-enwog."
Roedd yn chwerthin wrth sôn nad oedd yn "edrych dim byd yn debyg" i'w gymeriad, Dic Jenkins.
"Ma' llun enwog ohono fe (Dic) a Richard Burton dros y bont ym Mhont-rhyd-y-fen" a dywedodd bod Dic "tua troedfedd yn fyrrach na fi".
"Yn gorfforol dwi ddim byd tebyg iddo fe" ond roedd y brofiad o chwarae'r rôl yn arbennig.
O'r sgrîn i'r llwyfan
Er bod Steffan wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau teledu a ffilm, mae ei gariad at fyd y theatr yn parhau'n gryf.
"Dwi wrth fy modd yn gwneud theatr – y profiad 'ma'n ei roi, er nad yw'n talu cystal wrth gwrs!
"Dwi'n deall pam fod actorion yn dechrau gwneud llai o theatr, ond yn bersonol, dwi eisiau bod yn y sefyllfa yna," meddai.
Yn ogystal â Mr Burton, mae Steffan wedi cadarnhau y bydd yn dychwelyd i weithio gyda'r "hen gang" ar gyfer ail gyfres Death Valley.
"Pan 'naethon nhw ofyn i fi ddod yn ôl, o'n i'n hapus i wneud ond doeddwn i'm cweit yn siŵr. Bydd yn grêt cael gweithio gyda'r hen gang eto," meddai.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.
Pynciau cysylltiedig
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd27 Medi

- Cyhoeddwyd6 Rhagfyr 2024

- Cyhoeddwyd2 Ebrill
