Jones yn nerfus ond yn edrych ymlaen at ymateb diweddglo Gavin & Stacey

Disgrifiad,

Ruth Jones yn trafod Gavin and Stacey yn Gymraeg ar y carped coch

  • Cyhoeddwyd

I'r miliynau sy'n edrych ymlaen at raglen olaf y ddrama Gavin & Stacey, mae'r aros bron ar ben.

Daeth sêr y gyfres boblogaidd at ei gilydd ar y carped coch yn Llundain yr wythnos hon i wylio'r bennod olaf ar y sgrin fawr.

"Dwi'n rili nerfus," meddai Ruth Jones mewn sgwrs yn y Gymraeg gyda BBC Cymru Fyw.

"Dwi'n edrych ymlaen at weld yr ymateb. Dwi'n dwli ar y sioe a dwi'n dwli ar y cast, y criw."

Er y nostalgia a'r hiraethu am fwy, meddai, dyma'r amser iawn i'r gyfres ddod i ben ac i'r cymeriadau barhau gyda'u bywydau tu hwnt i'r camera.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae ei chymeriad, Nessa o'r Barri, wedi diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled y wlad gyda'i meddwl craff a'i dywediadau eiconig.

"Dwi'n dwli chwarae Nessa achos does dim ots ganddi hi. Mae hi'n ffantastig, yn ddewr a chryf," meddai Jones, sy'n gyd-ysgrifennydd ar y rhaglen gyda James Corden.

Bydd y bennod 90 munud yn cael ei darlledu ar ddydd Nadolig, gydag un cwestiwn ar wefusau pawb: a fydd Smithy yn priodi Nessa?

Er gwaethaf ymdrechion newyddiadurwyr i gael atebion dros yr wythnosau diwethaf, mae'r plot yn parhau yn gyfrinach.

"Mae 'na bethau sy'n digwydd yn y bennod yma sy'n ei gwneud hi'n amhosib i fi a Ruth, fel dramodwyr, i barhau, cario 'mlaen a dweud y stori. Am ffordd i orffen!" meddai Corden, sy'n portreadu Smithy.

James CordenFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi'n meddwl weithiau, yn hanesyddol, fod y Cymry wedi cael eu portreadu mewn sioeau fel rhywbeth eitha' un-dimensiwn," meddai James Corden

Mawr yw ei ddiolch, meddai, am y croeso mae pobl Cymru wedi cynnig iddo dros y blynyddoedd.

"Dwi hefyd yn meddwl weithiau, yn hanesyddol, fod y Cymry wedi cael eu portreadu mewn sioeau fel rhywbeth eitha' un-dimensiwn," ychwanegodd Corden.

"Roedden ni'n ymwybodol iawn, iawn, iawn o drio peidio gwneud hynny.

"Maen nhw'n ddoniol ac yn quirky yn y ffordd mae pob cymeriad yn y sioe ond dwi'n gobeithio y byddan nhw'n gallu gweld a theimlo'r cariad a'r parch rydyn ni wastad wedi ceisio eu hysgythru ym mhob cymeriad a phob olygfa."

Steffan RhodriFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

"O'n i'n gwybod bod yr holl beth yn mynd i fod yn llwyddiannus pan o'dd bobl yn dod lan ata i yn y stryd," meddai Steffan Rhodri

Ers y bennod gyntaf yn 2007, mae hanes y ddau deulu o'r Barri ac Essex wedi hawlio sylw miliynau o wylwyr y BBC, gyda thair cyfres a rhaglenni arbennig adeg Nadolig.

"O'n i'n gwybod bod yr holl beth yn mynd i fod yn llwyddiannus pan o'dd bobl yn dod lan ata i yn y stryd ac yn dyfynnu llinellau i fi o'n i wedi dweud yn y bennod gyntaf," meddai Steffan Rhodri, sy'n chwarae cymeriad Dave Coaches.

"Mae'r cymeriadau i gyd yn y bôn yn hoffus iawn.

"Mae 'na rywbeth twymgalon am yr holl beth. Dyna beth yw prif lwyddiant y peth, dwi'n credu."

Joanna PageFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

"Dwi mor falch i fod yn rhan o'r gyfres," meddai Joanna Page

I Joanna Page, o Abertawe, sy'n chwarae ffrind gorau Nessa, Stacey, roedd dychwelyd i'r gyfres ar ôl pum mlynedd o seibiant yn "frawychus".

"Roedd cwrdd gyda'r gang, bod nôl ar y set, cael hwyl, cwympo nôl mewn i batrwm fel teulu yn hynod ardderchog," meddai.

"Dwi mor falch ac mor ddiymhongar i fod yn rhan o'r gyfres."

Pynciau cysylltiedig