Sgandal Swyddfa'r Post: 'Angen digolledu teuluoedd hefyd'

Alun Lloyd Jones
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r cyn-isbostfeistr, Alun Lloyd Jones newydd ddod i gytundeb gyda Swyddfa'r Post ar ôl 18 mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae dyn o Geredigion a gollodd filoedd o bunnoedd yn sgil sgandal Swyddfa'r Post yn dweud y dylid gwneud mwy i ddigolledu teuluoedd yr is-bostfeistri wnaeth ddioddef.

Wrth ddatgelu ei fod wedi dod i setliad ar ôl brwydr a barodd 18 mlynedd, dywedodd Alun Lloyd Jones bod y straen wedi effeithio ar ei iechyd o a'i wraig - ond mai dim ond fo sydd wedi cael arian.

"Dwi wedi cael iawndal - dim be' o'n i wedi gobeithio cael - ond Evelyn fy ngwraig, dim ceiniog," meddai.

"Dyw hi ddim yr un person ag oedd hi - mae ei hiechyd hi wedi torri."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth y DU eu bod yn ystyried a oes angen camau i gydnabod dioddefaint teuluoedd.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post eu bod "yn gweithio gyda'r llywodraeth i dalu iawndal i ddioddefwyr cyn gynted â phosib".

Ychwanegodd Alun Lloyd Jones: "A oes rhywun wedi ystyried yr effaith a'r iawndal falle ddyle teuluoedd yr isbosteistri ei gael?

"Mae rhai wedi marw, mae rhai wedi diodde' a'u hiechyd wedi torri a rhai wedi cael divorces oherwydd y pressure uffernol.

"Gallwch chi byth â chael pres i fynd yn erbyn beth oedden nhw wedi diodde' ond mae rhai wedi colli eu busnesau, eu tai ac yn y blaen ac wedi distrywio teuluoedd.

"Fi'n teimlo yn gryf dros ben y dyle'r teuluoedd yma hefyd gael ystyriaeth."

Llun o Alun ac Evelyn Jones mewn pamffled etholiadolFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Llun o Alun Lloyd Jones a'i wraig Evelyn ar bamffled etholiadol

Cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn rhwng 1999 a 2015 oherwydd diffygion gyda system gyfrifiadurol Horizon.

Fe wnaeth eraill, fel Mr Jones, osgoi cael eu herlyn drwy dalu'r arian 'coll' o'u pocedi eu hunain i Swyddfa'r Post.

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru Fyw, dywedodd bod y straen wedi bod yn enfawr, nid yn unig arno fo ond ar ei holl deulu.

Colli £20,000

Dechreuodd ei drafferthion yn 1998 pan benderfynodd gymryd yr awenau yn ei swyddfa bost leol yn Llanfarian, ger Aberystwyth.

Flwyddyn yn ddiweddarach, cafodd system gyfrifiadurol Horizon ei chyflwyno yn holl swyddfeydd post Prydain, er mwyn cadw stoc a chyfrifon yn ddigidol.

Fel nifer o isbostfeistri eraill, fe ddechreuodd Mr Jones, 78, gael trafferth gyda'r system newydd yn y swyddfa yn Llanfarian ac mewn swyddfa arall roedd o'n gyfrifol amdani ym Mlaenplwyf.

Alun Lloyd Jones yn ei swyddfa bostFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Alun Lloyd Jones yn ei swyddfa bost yn Llanfarian ac yn defnyddio system Horizon

Ar ôl i system Horizon ddangos bod bron i £20,000 wedi diflannu o'i gyfrifon, fe ffoniodd yr heddlu a'r Swyddfa Bost yn 2007.

Meddai: "Nes i ddweud 'your auditors - I need to be audited now!'

"Ac oedden nhw'n shocked. 'It's not you who calls auditors,' ddudodd nhw wrtha i, 'it's for us to come and audit you'.

"Daethon nhw lawr, dau bwli - sa'i 'di gweld pobl fel nhw. Daeth nhw fewn ac roedden nhw wedi neud eu meddylia nhw fyny yn syth bod fi'n euog… ddwedodd y bachan yn syth i'r fenyw 'suspend him'."

'Doedd dim yr arian 'da ni'

Er mwyn osgoi cael ei erlyn ac yn unol â'r cytundeb gyda Swyddfa'r Post, roedd yn rhaid iddo dalu'r arian yn ôl.

Fe gafodd fenthyg arian gan ei dad-yng-nghyfraith, ail-forgeisio ei dŷ, a thalu'r £20,000 cyn cau'r swyddfa bost a'r siop yn ddiweddarach.

"Ro'n i wedi gorfod defnyddio credit cards i fynd o ddydd i ddydd achos doedd dim yr arian 'da ni - roedd popeth wedi mynd nôl i'r swyddfa bost," meddai.

"Roedd yn gyfyng iawn arnon ni. Gathon ni ddim gwylia' am flynyddoedd a gorfod i ni ddiodde yn ariannol am flynyddoedd a blynyddoedd."

Evelyn Jones o flaen y Swyddfa Bost yn LlanfarianFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Evelyn Jones o flaen siop a swyddfa bost Llanfarian cyn i'r busnes gau

Mae'n dweud bod straen ychwanegol arno hefyd oherwydd ei holl ddyletswyddau cyhoeddus.

Dros y blynyddoedd, bu'n gadeirydd llywodraethwyr yr ysgol leol, is-gadeirydd y bwrdd iechyd, cadeirydd Panel Heddlu a Throsedd Heddlu Dyfed Powys, ymgeisydd Plaid Cymru i Senedd Cymru a San Steffan ac roedd yn gynghorydd sir am 31 mlynedd.

"Pan ti'n gynghorydd sir, mae dywediad Saesneg: 'you must be as pure as the driven snow'," meddai.

Pamffled etholiadau sirol a chenedlaethol pan oedd Alun Jones yn ymgeisydd Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Pamffledi Alun Lloyd Jones yn etholiadau Cyngor Sir Ceredigion - lle'r roedd yn gynghorydd tan iddo ymddeol yn 2022 - ac etholiad Cymru

"Mae pobl yn pwyntio bysedd, ac mewn cymuned fach fel Llanfarian, mae pob un yn nabod ei gilydd, a lot yn dweud 'ai esgeulustod Alun Lloyd Jones sydd wedi achosi'r penderfyniad iddyn nhw i gau swyddfa bost Llanfarian?'

"O'n i'n meddwl am y sefyllfa yn bob dim o'n i'n dweud ac yn gwneud a doedd hynny ddim yn help.

"Rhywbeth nai byth anghofio - y bullying tactics a'r gair suspicion yma... oeddech chi'n teimlo fel bod bysedd yn pwyntio atoch chi ac amser 'lecsiwn, ro'n i'n pryderu."

Trawiad ar y galon

Mae'n dweud bod yr holl gyhoeddusrwydd a'r gefnogaeth yn sgil drama Mr Bates vs. The Post Office am y sgandal fis Ionawr y llynedd wedi rhoi hwb iddo, ond bu'n rhaid iddo wylio'r gyfres o'i wely yn yr ysbyty yn Llanelli.

Roedd wedi cael trawiad ar y galon tra ar ei ffordd i weld ei gyfrifydd er mwyn trafod ei gais am iawndal cyn y dyddiad cau.

Mae'n teimlo bod y straen - a'r blynyddoedd o bryder - wedi effeithio ar ei iechyd.

Meddai: "O'dd y wraig wedi dweud y bore hynny bo' fi'n goch fy ngwyneb a bod fi'n pryderu beth oedd yn mynd i ddigwydd.

"O'n i'n dreifio'r car i fynd i weld y cyfrifwyr yn Aberystwyth a ges i boen yn fy chest a dechreues i chwysu, poen lawr fy mraich a dechre drysu braidd.

"Roedd jest amser i dynnu'r car i mewn a rhoi'r hazzard lights arno a deialu 999."

Alun Lloyd Jones heddiw
Disgrifiad o’r llun,

Mae Alun Lloyd Jones wedi cael gofal mewn ysbytai yn Aberystwyth, Llanelli ac Abertawe ers cael trawiad ar y galon fis Ionawr 2024

Flwyddyn yn ddiweddarach, ganol Ionawr 2025, fe ddaeth Mr Jones i setliad gyda'r Swyddfa Bost dan Gynllun Diffyg Horizon.

Er nad ydi o'n teimlo bod yr arian yn gwneud yn iawn am yr holl ddiodde, mae'n falch o'r cyfle i geisio symud ymlaen.

Mae'n dweud ei fod yn deimlad "lyfli - relief".

"Do'n i ddim yn credu fe yn y dechre. Roedd Evelyn a fi'n dweud 'wel, odi hi 'di dod i ben o'r diwedd? Gallwn ni ddod lawr â'r bocs enfawr yna o'r atig nawr a chael gwared [â dogfennau'r achos]?'

"Ddwedes i 'na - allwn ni byth cael gwared â rheina'. Os byth daw Swyddfa'r Post yn ôl mae pethe yn fanna i brofi bod ni wedi neud yn iawn.

"Nawr mae pethe yn sgwâr [yn ariannol] unwaith eto ond amser ddechreuodd yr holl bethe - yn fy 50au oeddwn i. Dwi rŵan yn fy 70au hwyr ac mae 'na wahaniaeth. Henaint ni ddaw ei hunain."

'Ymddiheuro'n ddiamod'

Dywedodd llefarydd ar ran llywodraeth y DU bod gwneud yn iawn am ddioddefaint postfeistri yn un o'u blaenoraiaethau.

Ychwanegodd bod posib hawlio am rai colledion teuluol o dan y cynlluniau presennol ond eu bod yn ystyried os oes angen camau pellach i wneud yn iawn am ddioddefaint aelodau'r teulu.

Dywedodd llefarydd ar ran Swyddfa'r Post eu bod yn "ymddiheuro'n ddiamod" i'r dioddefwyr a'u bod yn gweithio gyda'r llywodraeth i dalu iawndal cyn gynted â phosibl.

Ychwanegodd bod dros £594 miliwn wedi'i dalu i 3,800 o bobl hyd yma a'u bod "wedi ymrwymo i drawsnewid y sefydliad ar gyfer ein postfeistri a'r 10 miliwn o gwsmeriaid sy'n dibynnu arnom bob wythnos".

Swyddfa Bost Llanfarian heddiw
Disgrifiad o’r llun,

Lleoliad y siop a'r post yn Llanfarian heddiw

Er y rhyddhad am y setliad, dywedodd Mr Jones bod 'na gysgod dros y newyddion da - un sy'n adlewyrchu'r cyfnod hir o geisio cael cyfiawnder.

Yn ystod ei frwydr gyda Swyddfa'r Post, fe gollodd fab a merch o fewn tair blynedd i'w gilydd - a'i ferch wedi bod yn dyst i'r holl bryder gan ei bod hi'n byw gartref gyda'i rhieni.

Meddai Mr Jones: "Farwodd y ferch heb wybod mod i wedi, yn y diwedd, cael rhyw fath o iawndal ac mae hynny'n dristwch mawr i ni.

"Roedd hi'n gwybod beth oedde ni'n mynd drwyddo a'r druan bach wedi marw yn ifanc.

"Deugain mlwydd oed oedd hi, ac wedi marw heb wybod bod ei thad o'r diwedd wedi cael rhyw fath o gynnig."