Effaith sgandal Swyddfa'r Post ar ddioddefwyr yn 'drychinebus'

Mae rhan yma'r adroddiad yn canolbwyntio ar y broses o dalu iawndal ac effaith ddynol y sgandal
- Cyhoeddwyd
Mae sgandal Swyddfa'r Post wedi cael effaith "drychinebus" ar is-bostfeistri, yn ôl adroddiad newydd.
Cafodd rhan gyntaf yr adroddiad - sy'n canolbwyntio ar y broses o dalu iawndal ac effaith ddynol y sgandal - ei gyhoeddi ddydd Mawrth.
Mae'r ddogfen yn nodi fod yr is-bostfeistri wedi dioddef "ymddygiad gwbl annerbyniol" gan swyddogion Swyddfa'r Post a Fujitsu - oedd yn gyfrifol am system gyfrifiadurol Horizon.
Dywedodd cadeirydd yr ymchwiliad cyhoeddus, Wyn Williams ei bod hi'n "amhosib dweud" faint o bobl sydd wedi dioddef yn sgil y sgandal, ac fe feirniadodd yr anawsterau mae dioddefwyr yn eu hwynebu wrth geisio sicrhau iawndal.
- Cyhoeddwyd1 Chwefror
- Cyhoeddwyd9 Gorffennaf 2024
- Cyhoeddwyd29 Awst 2024
Cafodd dros 900 o is-bostfeistri eu herlyn ar gam gan Swyddfa'r Post rhwng 1999 a 2015 ac mae wedi cael ei ddisgrifio fel y camweinyddiad cyfiawnder gwaethaf yn hanes cyfreithiol y DU.
Cafodd llawer ohonynt euogfarn ar gam o droseddau fel dwyn, ar ôl i feddalwedd ddiffygiol Horizon wneud iddi ymddangos fel pe bai arian ar goll o'r cyfrifon.
Mae'r adroddiad yn nodi ei bod yn bosib fod 13 o bobl wedi marw drwy hunanladdiad oherwydd y trafferthion - gyda chwech o'r rheiny yn gyn-is bostfeistri.
Dywedodd Syr Wyn Williams ei fod wedi gweld tystiolaeth fod 59 o bobl wedi ystyried hunanladdiad ar wahanol adegau oherwydd problemau yn ymwneud â'u profiadau o ddelio gyda Horizon neu Swyddfa'r Post.
Fe wnaeth yr ymchwiliad ganfod hefyd fod 10 o'r bobl hynny wedi ceisio lladd ei hunain.
Noda'r adroddiad hefyd fod nifer o is-bostfeistri a'u teuluoedd wedi dioddef camdriniaeth o fewn eu cymunedau, niwed seicolegol a phroblemau ariannol difrifol.
Mae'n dweud hefyd fod rhai wedi ystyried neu wedi hunan-niweidio, wedi colli eu cartrefi am resymau ariannol, tra bod eraill wedi mynd yn gaeth i alcohol.

Mae'r adroddiad yn nodi cyfres o argymhellion brys, gan gynnwys cyngor cyfreithiol am ddim i hawlwyr, taliadau iawndal i deuluoedd y rhai a gafodd eu heffeithio a rhaglen o gyfiawnder adferol sy'n cynnwys Fujitsu, Swyddfa'r Post a'r llywodraeth.
Yn yr adroddiad, mae Syr Wyn yn disgrifio'r "anawsterau aruthrol" wrth ddarparu iawndal i ddioddefwyr, sydd ar hyn o bryd wedi'i drefnu o amgylch pedwar cynllun gwahanol.
Wrth drafod un cynllun ar gyfer y rhai a brofodd ddiffygion heb esboniad yn gysylltiedig â Horizon ond na gafodd eu heuogfarnu (HSS), dywed Syr Wyn: "Rwy'n argyhoeddedig, mewn hawliadau anodd a sylweddol, ar ormod o achlysuron, fod Swyddfa'r Post a'i chynghorwyr wedi mabwysiadu agwedd wrthwynebus ddiangen tuag at wneud cynigion cychwynnol."
Dywed fod 10,000 o bobl cymwys yn hawlio iawndal ar hyn o bryd, ac mae disgwyl i'r nifer hwnnw godi "o leiaf gannoedd" dros y misoedd nesaf.
Sgandal Swyddfa’r Post: 'Anodd ailagor y briwiau'
Y cyn is-bostfeistr, Dewi Lewis ar raglen Dros Frecwast
Mae'n galw ar y llywodraeth i ddiffinio'n gyhoeddus beth mae "iawndal ariannol llawn a theg" yn ei olygu, ac yn argymell newidiadau i rai o'r cynlluniau.
Er y bydd Syr Wyn yn edrych ar sut y digwyddodd y sgandal a phwy oedd yn gyfrifol mewn adroddiad diweddarach, mae'n dweud ei fod yn cydnabod bod rhai gweithwyr Swyddfa'r Post a Fujitsu yn ymwybodol, neu y dylent fod wedi bod yn ymwybodol, fod gan feddalwedd Horizon "wallau a diffygion" a allai effeithio ar gyfrifon y canghennau.
Mae Syr Wyn wedi gofyn i'r llywodraeth ymateb i'w ganfyddiadau erbyn mis Hydref 2025 fan hwyraf.

Tydi Dewi Lewis ddim yn meddwl fod pobl "wedi sylweddoli be' oedd yr effaith go iawn ar bobl"
Cafodd Dewi Lewis, cyn is-bostfeistr o Benrhyndeudraeth, ei garcharu ar gam am ddwyn 14 mlynedd yn ôl.
Yn siarad ar Dros Frecwast fore Mawrth, dywedodd Mr Lewis fod y digwyddiad, ar y pryd, yn "hunllef llwyr".
Aeth Dewi Lewis i'r carchar am bedwar mis yn 2011 ar ôl iddo gael ei gyhuddo o ddwyn dros £50,000 gan Swyddfa'r Post.
Fe blediodd yn euog i'r cyhuddiad yn dilyn archwiliad o'r cyfrifon yn ei gangen ym Mhenrhyndeudraeth.
Cafodd wybod y llynedd fod ei euogfarn wedi'i dileu.
Dywedodd Mr Lewis fod "pwysau mawr" arno i bledio'n euog ar y pryd, gan ei fod yn cael ei fygwth gyda mwy o honiadau a chyhuddiadau yn ei erbyn.
'Chwalu bywyd yn llwyr'
Dywedodd Mr Lewis fod cael ei garcharu fel hyn wedi "chwalu bywyd yn llwyr" a bod ailagor y briwiau hynny'n "anodd".
"Dwi eisiau i bobl sylweddoli be' oedd yr effaith. Fues i'n ffodus iawn, iawn.
"Gwnaeth y gymdeithas yn fan 'ma, cyd-wleidyddion - ambell i eithriad wrth gwrs - ond y gymdeithas a 'nheulu i 'nghefnogi i drwy'r amser.
"Doedd neb yn medru credu be' oedd yn digwydd."
Tydi Mr Lewis ddim yn meddwl fod pobl - y Swyddfa Bost a'r llywodraeth yn enwedig - "wedi sylweddoli be' oedd yr effaith go iawn ar bobl".
"Da' ni'n gwybod fod 'na rai yn anffodus ddim wedi medru wynebu'r peth ac wedi cymryd bywydau eu hunain a bron i 100 erbyn hyn, dwi'n meddwl, o'r rhai gafodd eu henwau eu clirio, wedi'n gadael ni."
Dywedodd Alun Lloyd Jones y bu farw ei ferch "heb wybod fod ei thad wedi dod allan yr ochr draw"
Dywedodd Alun Lloyd Jones, oedd yn is-bostfeistr yn Llanfarian ac ym Mlaenplwyf, ei fod yn "falch" ac yn "cytuno'n llwyr" â chanfyddiadau'r adroddiad.
Bu'n rhaid i Mr Jones dalu £20,000 wedi i arian ddiflannu o'i gyfrifon yn 2007.
"Rydw i'n gobeithio o'r diwedd bod hyn yn dangos ychydig o olau ar ddiwedd siwrne hir, tywyll iawn i gymaint o bobl," meddai.
"Mae rhai pobl eraill wedi diodde' cymaint mwy na fi. Maen nhw wedi marw, mae pobl wedi cymryd eu bywydau.
"Fe golles i fy merch yng nghanol y cwbl, a farwodd hi heb wybod fod ei thad wedi dod allan yr ochr draw ac wedi cael ad-daliad o'r arian yr oedd wedi colli."
Ychwanegodd: "Mae cymaint o bobl wedi diodde'. Mae lot o bobl yn dal i ddiodde'. Pam mae'n cymryd mor hir?
"Does dim isio aros rhagor. Dewch i fynd 'mlaen 'da hwn nawr a rhoi pethau'n iawn. Mae isio cyfiawnder iddyn nhw."
'Cymaint o deuluoedd yn dal i ddiodde'
Mae Syr Wyn Williams yn dweud ei fod yn rhoi tri mis i'r Llywodraeth ac i Fujitsu i ymateb i'r sylwadau yn ei adroddiad.
Dywedodd Mr Jones nad oes ganddo ffydd fod Fujitsu am ymateb yn y cyfnod hwnnw.
"Mae cymaint o deuluoedd yn diodde', ac yn dal i ddiodde', achos esgeulustod a dweud celwydd mawr wnaeth Fujitsu ac wrth gwrs y Swyddfa Bost hefyd.
"Mae'r frwydr yn dal i barhau. Mae 'na siwrne arall nawr i sicrhau bod pethe yn cael ei wneud.
"Mae addewidion yn iawn ond os nad yw addewid yn cael ei chario allan, does dim pwynt cael addewid.
"Byddai ddim yn hapus tan mae pob teulu yn cael cyfiawnder."
'Cyfnod cywilyddus yn ein hanes'
Dywedodd Swyddfa'r Post mewn datganiad eu bod yn ymddiheuro yn ddiffuant am y dioddefaint a gafodd ei achosi ganddyn nhw.
Yn ôl llefarydd, mae'r ymchwiliad wedi "dod â'r straeon ofnadwy yma yn fyw".
"Mae eu profiadau nhw yn cynrychioli cyfnod cywilyddus yn ein hanes.
"Fe fyddwn ni'n ystyried cynnwys yr adroddiad a'r argymhellion yn ofalus."
Os yw cynnwys yr erthygl hon wedi effeithio arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.