£107m i gwmni Cymreig ddatblygu triniaethau ar gyfer iselder

Llun o arbrofion yn cael eu cynnal gan wyddonydd mewn labordy cwmni Draig Therapeutics
Disgrifiad o’r llun,

Fe allai'r cyffuriau fydd yn cael eu datblygu gan Draig Therapeutics gael eu defnyddio ymhen pum mlynedd

  • Cyhoeddwyd

Mae cwmni gwyddonol o Brifysgol Caerdydd wedi cael buddsoddiad gwerth £107m i ddatblygu therapïau "trawsnewidiol" ar gyfer anhwylderau gan gynnwys iselder difrifol.

Dyma'r buddsoddiad masnachol mwyaf mewn ymchwil yng Nghymru erioed.

Yn ôl yr Athro Simon Ward, o Sefydliad Darganfod Meddyginiaethau Prifysgol Caerdydd, gallai'r cyffuriau gael eu defnyddio ymhen pum mlynedd, gan ddod ag "arian sylweddol" yn ôl i'r brifysgol.

"Ma' gwneud y treialau hyn yn gostus tu hwnt," meddai.

"Ma' angen arian sylweddol i ddatblygu triniaethau arbennig ar gyfer pob math o gyflyrau gan gynnwys iselder a phryder."

Llun o'r Athro Simon Ward
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd yr Athro Simon Ward y byddai'n "hoff iawn o weld mwy o bwyslais ar beth sy'n bosib ar lefel wyddonol yng Nghymru"

Aeth yr Athro Ward ymlaen i esbonio'r broses: "Ni angen darganfod a yw'r cyffur yn mynd i fod yn saff, ond hefyd a yw'n mynd i fod yn effeithiol."

Ychwanegodd: "Ma'r meddyginiaethau a'r opsiynau sydd ar gael ar hyn o bryd yn eithaf hen, ac er eu bod nhw'n help mawr i lot o bobl ma' nifer yn dal ddim yn cael yr help ma' nhw angen, yn enwedig gydag iselder."

Dywedodd y gallai hyn fod yn help mawr o ystyried cyflwr economaidd y brifysgol ar hyn o bryd, oherwydd "yn y pendraw os ydy'r cwmni'n llwyddo, bydd arian sylweddol yn dod yn ôl i brifysgol Caerdydd".

'Mwy o hyder yng ngwyddoniaeth Cymru'

Ymchwil o Gymru sydd wrth galon cwmni Draig Therapeutics, ond yn ôl yr Athro Ward mae angen cael mwy o hyder yng ngallu gwyddonol y wlad.

"Ni'n ymfalchïo yn y ffaith ein bod ni o Gaerdydd. Mae'n le priodol oherwydd yr arbenigedd yn y maes a dyle ni fod yn falch o hynny.

"Wrth godi'r arian yn America, Asia ac Ewrop roedd 'na lawer o ddiddordeb am wreiddiau'r cwmni, a neb yn cwestiynu 'pam Cymru?'"

Aeth ymlaen i ddweud mai "un o'r pethau sydd fwyaf rhwystredig i fi yw'r diffyg hunan hyder sydd gennym ni yng Nghymru, ac nad yw pobl yn medru gweld be' sy'n bosib yng Nghymru".

Llun o wyddonydd yn gweithio gydag offer mewn labordy
Disgrifiad o’r llun,

Y buddsoddiad hwn fydd y buddsoddiad masnachol mwyaf mewn ymchwil yng Nghymru erioed

Yn rhan o'r buddsoddiad, bydd tri chyffur sydd â'r potensial i fod gyda'r gorau o ran trin anhwylderau niwroseiciatrig yn cael eu datblygu mewn treialon clinigol.

"Rwy' moyn cyfrannu at hyder pobl yma i gario 'mlaen â'u syniadau, bod pobl sy'n astudio gwyddoniaeth yma yn gweld y cyfleoedd a'r arian sy' ar gael, a'r arian sydd yn bosib cyflawni syniadau a'r potensial sydd gennym ni," meddai'r Athro Ward.

"Fyswn i'n hoff iawn o weld mwy o bwyslais ar beth sy'n bosib ar lefel wyddonol yng Nghymru, a gweld y potensial o be' sy'n bosib.

"Dyw e ddim yn rhan annatod o beth y ni'n trafod yn ein cymunedau Cymraeg yng Nghymru. Byddai'n hyfryd gweld twf o ddiddordeb yn y maes."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.