Plant o flaen sgrîn am o leiaf saith awr y dydd - arolwg

Bydd rheolau newydd yn dod i rym yr wythnos hon er mwyn diogelu plant a phobl ifanc yn well ar-leinFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rheolau newydd yn dod i rym yr wythnos hon er mwyn diogelu plant a phobl ifanc yn well ar-lein

  • Cyhoeddwyd

Mae un ym mhob pump o blant yn treulio o leiaf saith awr y dydd o flaen sgrîn, yn ôl darganfyddiadau cynnar arolwg gan Gomisiynydd Plant Cymru.

Dywedodd dau o blant 10 ac 11 oed eu bod yn treulio o leiaf naw awr y dydd o flaen sgrîn yn ystod y penwythnos.

Mae rhai elusennau wedi mynegi pryderon y bydd yr amser mae pobl ifanc yn treulio o flaen sgrîn yn cynyddu dros wyliau'r haf.

Bydd rheolau newydd yn dod i rym cyn diwedd y mis i gryfhau mesurau diogelwch er mwyn amddiffyn plant rhag cynnwys niweidiol.

Ymatebodd 340 o blant a phobl ifanc rhwng saith a 18 oed i gwestiynau ynglŷn â'u defnydd o ffonau symudol, tabledi a chyfrifiaduron.

Yn ôl traean, mae'n rhaid iddyn nhw adael eu dyfeisiadau tu allan i'r ystafell gwely gyda'r nos.

Dywedodd 58% nad oedd hawl ganddyn nhw ddefnyddio eu ffonau yn ystod amseroedd bwyta a doedd dim hawl gan 47% i ddefnyddio rhai apiau penodol.

Dywedodd tri chwarter o'r rheini sy'n defnyddio'r ap cymdeithasol poblogaidd, TikTok, eu bod nhw'n diffodd yr opsiwn i gyfyngu faint o amser mae person o dan 18 yn treulio ar yr ap.

"Mae'n rhaid i'r Ddeddf Diogelwch Ar-lein lwyddo i ddiogelu plant a gwella eu profiadau ar-lein fel mae'n addo gwneud," meddai Comisiynydd Plant Cymru, Rocio Cifuentes.

"A mewn byd sy'n datblygu mor gyflym, mae hyn yn golygu cadw i fyny gyda'r heriau newydd sy'n cael eu cyflwyno ac ymateb iddyn nhw mewn ffordd effeithiol."

Gruffydd, disgybl 14 oed yn Ysgol Llanhari
Disgrifiad o’r llun,

"Does dim stop i'r cyfathrebu," meddai Gruffydd

Mae'n hawdd iawn i allu treulio oriau ar eich ffôn a theimlo fel eich bod yn gwastraffu amser, meddai Gruffydd, disgybl 14 oed yn Ysgol Llanhari.

"Mae gyda ni'r cyfle i gyfathrebu gyda ffrindiau a danfon pethau i'n gilydd ond hefyd mae'r ochr negyddol lle mae pobl yn gallu brifo teimladau rhywun arall neu mynd ar eu nerfau nhw achos falle ni'n rhy gysylltiedig gyda'r ffonau," meddai.

"Mae gormod o ddefnydd ohonyn nhw - does dim stop i'r cyfathrebu."

Briallen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Briallen, sy'n ddisgybl 13 oed o Ysgol Llanhari, am drio lleihau'r amser mae hi'n treulio ar ei ffôn symudol dros wyliau'r haf

Dywedodd Erin, 14 oed: "Dwi'n gwybod os ma' pobl yn trio cyfathrebu gyda fi a dwi ddim yn nabod nhw.

"Fi'n gwybod i beidio derbyn nhw a sut i flocio nhw ond efallai bydd person mwy ifanc ddim yn gwybod beth i wneud."

Ac yn ôl Ariana, 14, gall mwy cael ei wneud i ddiogelu plant.

"Gall plant ifanc ffeindio pethau dylen nhw ddim i fod ar gyfryngau cymdeithasol yn eithaf hawdd felly dwi'n credu gallen nhw fod yn fwy diogel," meddai.

Dywedodd Briallen, 13: "Fel arfer dwi ddim yn defnyddio'r ffôn gormod achos ar ôl ysgol fel arfer mae gen i glybiau chwaraeon.

"Ond dros yr haf byddai'n defnyddio fe eithaf lot achos mae'r chwaraeon yn gorffen a dwi ddim yn gwybod beth i wneud rili ond na'i drio stopio neu leihau faint fi'n defnyddio fe."

Dewi Owen
Disgrifiad o’r llun,

Mae Dewi Owen o Heddlu'r Goglgedd yn annog rhieni i gael sgyrsiau anffurfiol, rheolaidd gyda'u plant

Cyn gwyliau'r haf, bu Heddlu Gogledd Cymru yn cynnal gweithgareddau mewn ysgolion i godi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth gyda phlant ynglŷn â chadw'n ddiogel ar-lein.

"Mae'n bwysig nodi bod y we yn gallu bod yn bositif iawn ac yn rhan mawr o fywydau pobl ifanc dyddiau yma," meddai Dewi Owen o dîm troseddau seibr, Heddlu Gogledd Cymru.

"Mae mynd ar y we dros wyliau'r haf yn gyfle i gymdeithasu a chadw mewn cysylltiad gyda ffrinidau na fydden nhw yn gallu gweld dros y gwyliau, ond wrth gwrs hefyd mae yna risgiau a pheryglon.

"Pan rydyn ni'n ystyried y gwyliau, mae gyda nhw mwy o amser ar eu dwylo ac felly yn gwario mwy o amser ar-lein llawer yn uwch.

"Pan mae'r amser maen nhw ar-lein yn cynyddu, mae'r risgiau yn cynyddu hefyd."

O ddydd Gwener, 25 Gorffennaf, bydd holl gwmnïau gwefannau cymdeithasol sy'n gweithredu yn y Deyrnas Unedig yn gorfod dilyn rheolau newydd gan gynnwys cryfhau'r ffordd maen nhw'n gwirio oedran unigolyn.

Y rheoleiddiwr cyfathrebu, Ofcom, sy'n gyfrifol am oruchwylio bod gwefannau cymdeithasol yn dilyn y drefn newydd.