Diwedd cyfnod i gynghorydd Llanidloes wedi 52 o flynyddoedd

Gareth Morgan yn derbyn rhodd gan y Cynghorydd Jonathan WilkinsonFfynhonnell y llun, Cyngor Sir Powys
  • Cyhoeddwyd

Ar ôl 52 o flynyddoedd fel cynghorydd sir dros Lanidloes, mae Gareth Morgan yn sefyll i lawr a hynny ar drothwy ei ben-blwydd yn 90 oed.

Dechreuodd fel cynghorydd yn 1973 pan gafodd Cyngor Sir Powys ei sefydlu – mae wedi bod yno o'r dechrau.

Yn sgwrsio ar Dros Frecwast fore dydd Mawrth, dywedodd y Cynghorydd Gareth Morgan mai braint oedd cynrychioli pobl a thref Llanidloes cyhyd, a bod gwneud y penderfyniad i sefyll lawr wedi bod yn un anodd. Ychwanegodd:

"Mae pobl mor garedig a wedi rhoi gymaint o gefnogaeth i mi dros y blynyddoedd. Ond, i ddweud y gwir, dwi'n dechrau sylweddoli bod y blynyddoedd yn mynd heibio, dwi'n hŷn, does gen i ddim yr un cryfder ag oedd gen i flynyddoedd yn ôl.

"Mae'n bryd rhoi fewn a gwneud lle i rywun ifanc."

"Pethau wedi newid yn llwyr"

Mae 52 o flynyddoedd yn amser hir, ac mae'r cyngor wedi gweld newidiadau dros y degawdau. Roedd Mr Morgan yno i'w gweld nhw i gyd.

"Yn y blynyddoedd cynta' roedd 'na bwyllgorau yn gyfrifol am wahanol wasanaethau, a wedyn oedd pawb yn cael y cyfle i ddadlau dros y gwasanaeth yn eu hardaloedd, ond erbyn hyn mae pethe wedi wedi newid yn llwyr.

"Rŵan mae be' maen nhw'n galw'r cabinet. Mae'r cwbl mewn dwylo 10 o aelodau, ac efo arweinydd, ac felly dydi pob aelod ddim yn cael y cyfle i ddadlau dros wasanaeth arbennig yn ei ward."

Dydd Iau, 15 Mai oedd ei gyfarfod Cyngor Llawn olaf, a bu'n un emosiynol. Roedd y cyd-aelodau ar eu traed i nodi "diwedd pum degawd eithriadol o wasanaeth cyhoeddus ymroddedig".

Cyfeillgarwch sy'n cyflawni polisïau

Wrth feddwl am y cyfarfod hwnnw dywedodd Mr Morgan:

"Mi oedd yn emosiynol i ddweud y gwir. O'n i'n teimlo mor ddiolchgar am y ffaith bod pobl wedi wedi bod yn pleidleisio drosta' i am gymaint o flynyddoedd. O'n i'n ddiolchgar am yr holl gyfeillgarwch sydd yng Nghyngor Powys."

Yn ei gyfnod fel cynghorydd, fe fu'n ddeiliad nifer o swyddi gwahanol gan gynnwys bod yn Gadeirydd y Cyngor rhwng 1999 a 2000. Roedd hefyd yn Aelod o Fwrdd y Celfyddydau a Diwylliant tan 2008, a hynny ers ei sefydlu yn 2002.

Yn y cyfarfod olaf hwnnw i'r Cynghorydd Morgan, dywedodd cyn-Gadeirydd y cyngor, y Cynghorydd Jonathan Wilkinson:

"Rydym yn gwerthfawrogi'n fawr y gwaith rydych chi wedi'i wneud yma yng Nghyngor Sir Powys dros gyfnod hir o amser - rydych chi wedi rhoi gwasanaeth anhygoel."

Ar dderbyn rhodd gan y Cyngor yn y cyfarfod, dywedodd yn Mr Morgan:

"Mae awyrgylch wych yn y siambr hon, gwnewch eich gorau i'w chadw. Mae gennym ni i gyd wahaniaethau - gallwn ddadlau yn y siambr ond pan fyddwn yn ei gadael, rhaid i ni anghofio'r gwahaniaethau hynny a rhaid i ni fod yn ffrindiau.

"Dyma'r ffordd rydym yn cyflawni polisïau ac yn cael yr effaith fwyaf buddiol ar y bobl rydym yn eu cynrychioli."

"Mae'n bryd rhoi fewn a gwneud lle i rywun ifanc."

Y Cynghorydd Gareth Morgan ar Dros Frecwast ar BBC Radio Cymru

Pynciau cysylltiedig