Chwe Gwlad: Cymru yn cael cweir gan Iwerddon

- Cyhoeddwyd
Colli fu hanes tîm merched Cymru ddydd Sul yn erbyn Iwerddon yng ngemau'r Chwe Gwlad 2025 gyda sgôr o 14 - 40.
Mae Cymru ar waelod y tabl yn chweched, tra bod Lloegr ar y brig.
Cafodd y gêm ei chynnal yn stadiwm Rodney Parade yng Nghasnewydd.
Mae Iwerddon wedi ennill 11 o'u 14 gêm Chwe Gwlad ddiwethaf yn erbyn Cymru.
Dim ond un gêm sydd ar ôl i chwarae, a bydd Cymru yn wynebu'r Eidal ar ddydd Sadwrn, 26 Ebrill.
- Cyhoeddwyd2 ddiwrnod yn ôl
- Cyhoeddwyd29 Mawrth
- Cyhoeddwyd22 Mawrth
Cymru gafodd y cais gyntaf, wrth i Carys Cox sgorio, yn dilyn cic beryglus gan Lleucu George.
Roedd Iwerddon yn cadw'r chwarae yn syml ond yn effeithiol - ac fe weithiodd hyn iddyn nhw.
Iwerddon oedd gyda'r rhan fwyaf o'r meddiant, gydag Iwerddon yn ennill o 7 - 21 iar yr hanner, yn dilyn perfformiad rhwystredig gan Gymru.
Cyfunodd Jaz Joyce a Lisa Neuman yn dda yn yr ail hanner - ond wrth i Gymru feddwl bod ganddyn nhw hanner cyfle, fe wthiodd rhif wyth Iwerddon, Aoife Wafer, y crysau coch oddi ar y bêl ac ennill y meddiant.
Gorffennodd y gêm gyda sgôr o 14 - 40.